NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

23.06.25

ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Ymchwil o farn y cyhoedd ar gymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru

Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar yr Arolwg Hyder y Cyhoedd.

Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf ar yr farn y cyhoedd mewn cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru. Mae'r adroddiad yma’n cynnig cipolwg gwerthfawr ar agweddau'r cyhoedd tuag at gymwysterau yng Nghymru. 

Comisiynwyd Beaufort Research i gynnal arolwg blynyddol i fesur hyder mewn cymwysterau nad ydynt yn radd yng Nghymru ac yn y system gymwysterau. 

Mae'r adroddiad yn darparu canlyniadau ar gyfer arolwg 2024, yn dilyn arolygon cynharach a gafodd eu cynnal rhwng 2017 a 20231. Fel yn ystod y blynyddoedd blaenorol, cynhaliwyd yr ymchwil ar arolwg Beaufort Cymru ym mis Medi sy'n cyfweld â sampl gynrychioliadol o 1,000 o oedolion Cymru. 

Mae’r ymchwil yn dangos fod hyder cyhoeddus mewn cymwysterau Safon Uwch/ UG a TGAU yn parhau'n uchel yng Nghymru yn 2024. Cynyddodd y sgôr hyder cyfansawdd ar gyfer cymwysterau Safon Uwch/ UG a TGAU yn sylweddol  flwyddyn ar ôl blwyddyn. Cododd y sgôr UG i 3.75 allan o 5, o 3.65 yn 2023, tra bod y sgôr TGAU wedi cynyddu i 3.81 allan o 5, o 3.71 yn 2023. Nid oes unrhyw wahaniaeth sylweddol bellach rhwng sgoriau hyder y cyhoedd ar gyfer TGAU a Safon Uwch / UG 

O ystyried sefydlogrwydd cymharol y canlyniadau dros y blynyddoedd, byddwn yn cynnal yr Arolwg Hyder y Cyhoedd bob yn ail blwyddyn. Bydd y newid hwn yn caniatáu inni barhau i fonitro hyder y cyhoedd. 

Gan ddechrau gyda'r rownd nesaf, a fydd yn digwydd eleni, byddwn yn ychwanegu cwestiynau newydd i adlewyrchu tirwedd esblygol cymwysterau. Yn ogystal, byddwn yn cynnwys cwestiwn i fesur barn y cyhoedd ar gyfle cyfartal o fewn y system gymwysterau a chymwysterau yng Nghymru. 

Gallwch ddarllen yr adroddiad yma.