NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

17.06.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Ymgynghoriad UG a Safon Uwch mewn Cymraeg a Cymraeg Craidd yn fyw

Mae'r ymgynghoriad cymwysterau UG a Safon Uwch newydd mewn Cymraeg a Cymraeg Craidd wedi mynd yn fyw heddiw (17 Mehefin 2025).

Dyma nodi cyfnod hollbwysig yn yr ymdrech barhaus i foderneiddio cymwysterau yn y Gymraeg. 

Yn dilyn rhaglen ymgysylltu helaeth gydag athrawon, dysgwyr a rhanddeiliaid, nod yr ail-ddylunio cynigiedig yw sicrhau bod y cymwysterau'n adlewyrchu anghenion dysgwyr y dyfodol a gofynion esblygol cenedl ddwyieithog. Mae'r cymwysterau newydd i'w cyflwyno ym mis Medi 2027. 

Mae'n bosib ymateb i'r ymgynghoriad ar ein platfform ymgysylltu digidol, Dweud Eich Dweud. Rydym yn gwahodd adborth gan athrawon, dysgwyr, canolfannau addysg a'r gymuned ehangach. Ar agor tan 12 o Fedi 2025, mae'n cynnig cyfle unigryw i ddylanwadu ar sut mae'r Gymraeg yn cael ei haddysgu a'i hasesu ar lefel uwch.  
 
Nod y cynigion yw creu cymwysterau sydd yn: 

  • berthnasol ac yn ddiddorol i ddysgwyr
  • hawdd eu rheoli i athrawon a chanolfannau
  • cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr, prifysgolion, a'r gymuned ehangach 

Dywedodd Heidi Brown, Uwch Reolwr Cymwysterau yn Cymwysterau Cymru:
“Rydym am sicrhau bod y cymwysterau yma yn adlewyrchu profiadau a diddordeb amrywiol pob dysgwr sydd am astudio’r Gymraeg yng Nghymru, a'u bod yn helpu i ddatblygu gweithlu dwyieithog hyderus a medrus—gan gynnwys addysgwyr y dyfodol all addysgu Cymraeg ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Rydym yn annog ein partneriaid ac unigolion sydd â diddordeb i rannu eu barn a'u hadborth gyda ni.”