NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

03.08.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Ymrwymiad Cymwysterau Cymru i'r Gymraeg

Rydym yn falch iawn o fod yn sefydliad sydd wedi ymrwymo i'r Gymraeg.

Rydym hefyd yn cydnabod bod gan y system gymwysterau ran bwysig i'w chwarae wrth helpu i gyflawni nodau ehangach Cymraeg 2050 

Rydym yn falch o fod yn gweithio'n agos gyda phartneriaid fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chomisiynydd y Gymraeg i gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg fel y gall dysgwyr ddilyn cymwysterau drwy eu dewis iaith.  

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein penderfyniadau ar y rheolau y bydd angen i gyrff dyfarnu gydymffurfio â nhw wrth hyrwyddo a hwyluso cymwysterau cyfrwng Cymraeg.  I gael gwybod mwy, darllenwch ein hadroddiad penderfyniadau.   

Dywedodd Dafydd Trystan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: "Rydym yn falch iawn bod Cymwysterau Cymru yn gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth ac argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn cyd-fynd ag un o’n hamcanion yn y Coleg sef i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a chyfleoedd i ddysgwyr mewn addysg ôl-16. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda Cymwysterau Cymru er mwyn cynyddu cyfleoedd cyfrwng-Cymraeg pellach i fyfyrwyr ledled Cymru."

Ar ddydd Mercher 9 Awst (1.30-2.15pm), byddwn yn cynnal gweminar i roi trosolwg i gyrff dyfarnu o ganlyniadau’r ymgynghoriad, a chyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’n penderfyniadau. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu'r digwyddiad hwn, cofrestrwch yma.

Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o'r penderfyniadau hyn. Bydd gennym siaradwyr gwadd o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, City & Guilds ac Agored Cymru. Mae croeso i unrhyw un ddod i'r digwyddiad hwn. 

Manylion y digwyddiad – Hyrwyddo a hwyluso cymwysterau cyfrwng Cymraeg: Ein Penderfyniadau 

11 Awst 

11:00am – 12:00pm  

Stondin Cymwysterau Cymru #111, Eisteddfod Genedlaethol 

Yn ogystal â hyn, mae gennym strategaeth Dewis i Bawb sy’n nodi’n glir ein hymrwymiad i’r Gymraeg a’n nod i gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg.  

Mae hefyd yn pwysleisio ein bwriad i weithio gyda chyrff dyfarnu a phartneriaid eraill er mwyn cyfrannu at flaenoriaethau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.  

Mae Dewis i Bawb yn nodi pedwar maes ffocws strategol:  

  • blaenoriaethu cymwysterau i fod ar gael yn Gymraeg mewn addysg llawn amser, lleoliadau ôl-16 a phrentisiaethau  
  •  cryfhau cymorth i gyrff dyfarnu a’u gallu i ddarparu cymwysterau cyfrwng Cymraeg  
  • adolygu ein grant Cymorth Iaith Gymraeg i ganolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth, cymwysterau newydd a chymwysiadau arloesol  
  • gwella gwybodaeth a dyddiad ar gyfer dysgwyr, ysgolion a cholegau, ac at ein dibenion rheoleiddio. 

Dywedodd David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru: “Ers i ni lansio ein strategaeth Dewis i Bawb yn 2020 – sydd â’r nod o gynyddu’r cymwysterau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael – rydym wedi bod yn glir bod angen i wybodaeth am y cymwysterau hyn gael ei rannu’n eang a bod ar gael yn hawdd. Gall hyrwyddo rhagweithiol rymuso ysgolion a cholegau ac annog dysgwyr i gofrestru ar gyfer cymwysterau yn y Gymraeg.”

“Hoffem ddiolch i bawb a ymgysylltodd â ni ac a ymatebodd i’r ymgynghoriad – mae eich mewnbwn wedi bod yn bwysig wrth gwblhau ein penderfyniadau. Bydd cyflawni ein nod strategol yn parhau i ofyn am gydweithio agos a chydgysylltu polisi ar draws ystod eang o randdeiliaid. Rydym wedi ymrwymo i gydweithio â chyrff dyfarnu nid yn unig i’w cefnogi i gydymffurfio â’n rheolau ond hefyd i gryfhau eu gallu i gyflwyno’r Cynnig Cymraeg.”

Rydym hefyd yn gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg, sy'n nodi sut rydym yn cyflawni ein swyddogaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.