Ymunwch â’r sgwrs genedlaethol ar Gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Rydyn ni wedi lansio arolwg ar-lein i gasglu barn rhanddeiliaid ar y cymwysterau pwysig hyn ac rydych chi’n cael eich gwahodd i ddweud eich dweud.
Rydyn ni wedi lansio arolwg ar-lein i gasglu barn rhanddeiliaid ar y cymwysterau pwysig hyn ac rydych chi’n cael eich gwahodd i ddweud eich dweud.
Nod yr adolygiad yw casglu tystiolaeth gan ein rhanddeiliaid allweddol a derbyn adborth ar ba mor addas i'r diben yw'r cymwysterau. Rydyn ni hefyd am edrych ymlaen ac ystyried pa newidiadau allai fod eu hangen i sicrhau bod cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn parhau i ddiwallu anghenion dysgwyr, darparwyr dysgu ac eraill.
Mae’r arolwg wedi’i rannu’n bedair adran, wedi'i dargedu at:
-
Darparwyr dysgu - y rhai sy'n dysgu, yn asesu a/neu’n goruchwylio'r broses o gyflwyno'r cymwysterau.
-
Dysgwyr - y rhai sy'n cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol neu sydd wedi eu cwblhau o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf.
-
Cyflogwyr - gan gynnwys y rhai sy'n rheoli prentisiaid a hyfforddeion sy'n cwblhau cymhwyster Sgiliau Hanfodol neu sydd wedi ei gwblhau.
-
Partïon eraill sydd â diddordeb fel cyrff proffesiynol, cyrff dyfarnu a rhieni/gwarcheidwaid.
Bydd gennych yr opsiwn i gwblhau'r arolwg sy'n adlewyrchu eich rôl a'ch profiad orau.
Peidiwch â cholli’r cyfle i lywio cyfeiriad cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn y dyfodol.
Mae'r arolwg yn cau am hanner nos, nos Wener 07 Gorffennaf 2023. Cliciwch yma i lenwi'r arolwg.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy, cysylltwch â SgiliauHanfodolCymru@cymwysterau.cymru