Ystod hyblyg o gymwysterau yn y Gymraeg a Saesneg ar gyfer dysgwyr ôl-16
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i gyflwyno cymwysterau TGAU newydd mewn Cymraeg iaith a Saesneg iaith yn benodol ar gyfer dysgwyr ôl-16. Mae hyn yn dilyn ymgysylltiad helaeth â'r sector addysg bellach. Bydd y cymwysterau newydd hyn yn rhan o ddewislen hyblyg o ddarpariaeth a fydd ar gael i ddysgwyr ôl-16 o fis Medi 2027.
Mae cymwysterau TGAU newydd bellach yn cael eu dysgu mewn ysgolion ledled y wlad fel rhan o don gyntaf Cymwysterau Cenedlaethol 14-16. Mae'r cymwysterau TGAU newydd hyn wedi cael eu cynllunio i adlewyrchu ac alinio ag ethos y Cwricwlwm i Gymru.
Mae hyn yn cynnwys cymwysterau integredig newydd mewn TGAU Iaith a llenyddiaeth Gymraeg (gradd unigol a dwyradd) a TGAU Iaith a llenyddiaeth Saesneg (gradd unigol a dwyradd). Bydd y cymwysterau hyn yn cael eu dyfarnu am y tro cyntaf yn haf 2027, ac ar yr adeg honno bydd dysgwyr yn gwneud penderfyniadau am eu llwybrau dilyniant y tu hwnt i addysg orfodol.
Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda darparwyr addysg bellach a rhanddeiliaid eraill i ddeall effaith y newidiadau i'r cymwysterau hyn ar gyfer dysgwyr ôl-16. Mae dysgwyr yn cymryd cymwysterau mewn Cymraeg a Saesneg fel rhan o'u rhaglenni dysgu ôl-16 ehangach i gefnogi dilyniant. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr yn ailsefyll cymhwyster TGAU a dysgwyr yn cymryd cymwysterau TGAU neu lefel 1/lefel 2 mewn llythrennedd am y tro cyntaf.
Drwy ein hymgysylltiad, rydym wedi ystyried anghenion penodol dysgwyr ôl-16. Mae cymwysterau ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed wedi cael eu cynllunio i adlewyrchu ehangder y dysgu sy'n ofynnol gan y Cwricwlwm i Gymru, gan ddarparu sylfaen gref ar gyfer ystod eang o gyfleoedd yn y dyfodol. Mae dysgwyr sy'n astudio am gymwysterau mewn addysg ôl-orfodol yn adeiladu ar ehangder eu dysgu blaenorol ac yn canolbwyntio ar eu dewis o arbenigeddau pwnc neu lwybrau dilyniant. Mae'r llwybrau hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dilyniant i gyflogaeth, hyfforddiant neu astudiaeth bellach. Felly, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynnig cyfres hyblyg o gymwysterau, gan alluogi darparwyr ôl-16 i deilwra eu darpariaeth i anghenion penodol dysgwyr yn eu cyd-destun.
Fel rhan o'r dull gweithredu hwn, rydym wedi penderfynu cyflwyno cymhwyster TGAU newydd mewn Cymraeg iaith a chymhwyster TGAU newydd mewn Saesneg iaith yn benodol ar gyfer dysgwyr ôl-16. Bydd y cymwysterau hyn yn cael eu cynllunio i adeiladu ar brofiadau blaenorol dysgwyr o ddysgu ieithoedd drwy'r cwricwlwm, gan gynnwys agweddau iaith y cymwysterau TGAU newydd ar gyfer Iaith a llenyddiaeth Gymraeg ac Iaith a llenyddiaeth Saesneg.
Bydd y cymhwyster TGAU Cymraeg iaith newydd (ar gyfer dysgwyr ôl-16) a TGAU Saesneg iaith (ar gyfer dysgwyr ôl-16) ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027. Ni fydd y cymwysterau newydd hyn ar gael i ddysgwyr mewn lleoliadau cyn-16, lle mae'r graddau unigol a dwyradd a gyflwynwyd eisoes mewn Iaith a llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg yn ymgorffori disgwyliadau'r cwricwlwm.
Felly, bydd y ddewislen o gymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr ôl-16 o fis Medi 2027 ymlaen yn cynnwys y canlynol.
|
Cymwysterau Cymraeg |
Cymwysterau Saesneg |
|
TGAU Iaith a llenyddiaeth Gymraeg (gradd unigol a dwyradd)
TGAU Cymraeg iaith (ar gyfer dysgwyr ôl-16)
Sgiliau Hanfodol Cymru: Cyfathrebu (lefel mynediad 3-lefel 2)
|
TGAU Iaith a llenyddiaeth Saesneg (gradd unigol a dwyradd)
TGAU Saesneg iaith (ar gyfer dysgwyr ôl-16)
Sgiliau Hanfodol Cymru: Cyfathrebu (lefel mynediad 3-lefel 2)
|
Rydym hefyd yn cydnabod, mewn lleiafrif bach o achosion, y gallai rhai dysgwyr a astudiodd TGAU Saesneg iaith 9-1 yn Lloegr yn flaenorol fod bellach yn dewis parhau â'u haddysg ôl-16 yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym yn archwilio sut y gellir diwallu anghenion y dysgwyr hyn yn y ffordd orau.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gan adeiladu ar y gwaith ymgysylltu rydym eisoes wedi ei wneud, byddwn ni nawr yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i gyrraedd y gofynion dylunio a fydd yn sail i'r meini prawf cymeradwyo y bydd yn rhaid i CBAC eu bodloni wrth ddatblygu'r TGAU ôl-16 newydd.
Wrth i CBAC ddechrau ei waith o ddylunio a datblygu'r cymwysterau i fodloni ein gofynion, byddwn ni’n gweithio ar y cyd tuag at y nod cyffredin o gymeradwyo'r cymwysterau erbyn hydref 2026.