Ffeiliau testun bach yw cwcis a gaiff eu hanfon i’ch cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol gan wefannau rydych yn ymweld â hwy.

Maent yn helpu gwefannau i weithio’n well ac yn rhoi gwybodaeth i berchennog y wefan. Er enghraifft, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis YouTube er mwyn ymgorffori fideos yn ei thudalennau, a chwcis Google Analytics er mwyn olrhain ymddygiad defnyddwyr tra byddant ar y wefan. Drwy ddeall y ffordd mae pobl yn defnyddio ein gwefan, gallwn wella’r dull gwe-lywio a’r cynnwys er mwyn diwallu anghenion pobl yn well.

Mae’r wybodaeth a gesglir gan Cymwysterau Cymru yn cynnwys cyfeiriadau IP, tudalennau yr ymwelwyd â hwy, porwr a system weithredu. Ni chaiff y data hwn ei ryddhau i unrhyw sefydliad arall. Rydym yn defnyddio’r cwcis canlynol ar ein gwefan: 

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?

Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr er mwyn gwella’r cynnwys a ddarperir ar y wefan. Mae’r wefan hon yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google Inc. (‘Google’).

Mae Google Analytics yn defnyddio ‘cwcis’ a chod JavaScript er mwyn helpu i ddadansoddi gweithgarwch defnyddwyr ar wefannau. Caiff y wybodaeth a gynhyrchir am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) ei throsglwyddo i weinyddwyr Google yn yr Unol Daleithiau a chaiff ei storio yno. 

Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon i lunio adroddiadau gweithgarwch defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Hefyd, gall Google drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon pan fo’n ofynnol iddo wneud hynny o dan y gyfraith neu pan fydd trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu’ch cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall a ddelir yn flaenorol.

Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Noder, os byddwch yn gwrthod cwcis, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’r wefan hon yn llawn. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn caniatáu i Google brosesu eich data yn y ffordd ac at y dibenion a amlinellir uchod.

Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Google ac Amodau Gwasanaeth Google am wybodaeth fanwl.