Cyflwyniad
Rydym yn casglu data gan cyrff dyfarnu cydnabyddedig. Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ar gyfer y broses o gyflwyno data.
Rydyn ni’n cynhyrchu ystadegau swyddogol sy'n ymwneud â'r holl gymwysterau a gaiff eu rheoleiddio gennym ni ac a gaiff eu hastudio gan ddysgwyr yng Nghymru. Felly, dylai'r data sy’n cael eu cyflwyno i ni gynnwys yr holl gymwysterau perthnasol sy’n cael eu cynnig.
Dylai templedi casglu data gael eu cyflwyno i ni gan ddefnyddio ein tudalen casglu data ar QiW. Mae dogfennau canllaw QiW yn rhoi rhagor o wybodaeth am y broses gasglu. Mae'r templedi ar gyfer darparu'r data ar gael i'w lawrlwytho o QiW.
Amserlen gofnodi
Mae ein Hamserlen Cofnodi Cymwysterau yn nodi amserlen o'r holl gasgliadau data a'u dyddiadau adrodd.
Cymwysterau cyffredinol
Rydyn ni’n casglu amrywiaeth o ddata sy'n ymwneud â chymwysterau cyffredinol rheoleiddiedig drwy sawl templed data gwahanol. Mae canllawiau ar gyfer pob templed i’w gweld isod, ynghyd â chanllawiau cyffredinol ar gyfer cyflwyno ffeiliau data perthnasol ar QiW:
- Apeliadau
- E-Asesu
- Cofrestriadau yn ôl Grŵp Blwyddyn
- Cofrestriadau, Cofrestriadau Hwyr a Dyfarniadau
- Graddau a ddyfarnwyd gan ddefnyddio tystiolaeth asesu amgen
- Canlyniadau Dysgwyr
- Camymddwyn
- Marc a newidiadau gradd y tu allan i ROMM
- Sgriptiau coll
- Papurau wedi'u Haddasu
- Nifer yr Ymgeiswyr sy'n Sefyll Arholiadau
- Marcio Ar-lein v Traddodiadol
- Adolygiadau o Farcio a Chymedroli
- Ystyriaeth Arbennig
- Codau manyleb
Cymwysterau galwedigaethol a chymwysterau eraill
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n casglu data cofrestru ac ardystio chwarterol ar gyfer cymwysterau rheoleiddiedig galwedigaethol a chymwysterau eraill yng Nghymru.
Mae templedi wedi'u poblogi ymlaen llaw ar gyfer y casgliad hwn ar gael i'w lawrlwytho o QiW unwaith y bydd pob pwynt cyflwyno yn agor. Mae dogfennau canllaw ar gyfer y casgliad chwarterol hwn i'w gweld isod yn y dolenni canlynol:
Diogelwch a llywodraethu data
Mae ein polisi preifatrwydd yn amlinellu gwybodaeth am ein protocolau gwybodaeth a diogelwch. Mae’r manylion sydd wedi’u cynnwys yn y polisi yn cynnwys:
- eich hawliau
- sut byddwn yn trin eich data personol
- ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses o gyflwyno data, gan gynnwys sut i sefydlu cyfrif QiW a negeseuon atgoffa i gyflwyno data, neu os hoffech ragor o wybodaeth am ein polisïau, cysylltwch â dataproject@qualifications.wales