Cyflwyniad
Cafodd y grŵp ei ffurfio er mwyn helpu i ddatblygu ein gwaith ymchwil ac ystadegau. Mae’n rhoi cyngor ar ddyluniad yr ymchwil, y fethodoleg, y gwaith dadansoddi a’r broses adrodd ar ganfyddiadau, yn ogystal â chwestiynu’r rhain i gyd.
Mae’r grŵp yn cynnwys cadeirydd, hyd at chwe aelod allanol ac un cynrychiolydd o blith aelodau o Fwrdd Cymwysterau Cymru.
Mae’r grŵp yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn, ond gall yr aelodau roi cyngor ychwanegol yn ôl yr angen. Am fanylion pellach gweler y cylch gorchwyl.
Aelodaeth
Alison Standfast, Cadeirydd
Alison Standfast yw Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Corfforaethol Cymwysterau Cymru. Mae hi'n gofalu am yr holl waith corfforaethol, gan gynnwys y tîm ymchwil ac ystadegau. Cyn ymuno â Chymwysterau Cymru, bu’n gweithio i Lywodraeth Cymru a British Airways.
Dr Mary Richardson, Aelod
Mae Mary yn Athro Asesu Addysgol yn Adran y Cwricwlwm, Addysgeg ac Asesu yn IOE, Adran Addysg a Chymdeithas UCL. Mae’n arwain MA mewn Asesu Addysgol, yn aelod o’r Grwpiau Cynghori ar Ymchwil ar gyfer AQA ac yn cynghori Grŵp Cynghori Technegol Academaidd Pearson PTE ar dechnoleg a phrofi AI. Cafodd ei llyfr Rebuilding Public Confidence in Educational Assessment, y llyfr cyntaf iddi ei awduro ar ei phen ei hun, ei gyhoeddi yn 2022.
Dr Cathryn Knight, Aelod
Mae Cathryn yn Uwch-ddarlithydd mewn Seicoleg Addysg ym Mhrifysgol Bryste. Mae ganddi arbenigedd helaeth mewn dylunio a dadansoddi ymchwil ansoddol a meintiol ac ar hyn o bryd mae’n ymwneud ag amrywiaeth o brosiectau ymchwil a ariennir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ganddi brofiad ymchwil meintiol uwch, a ddatblygwyd trwy dderbyn Cyflog Dulliau Meintiol Uwch gan yr ESRC.
Isabel Nisbet, Aelod
Mae gyrfa Isabel wedi cynnwys gweithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus a rheoleiddio, yn enwedig addysg ac asesu addysgol. Mae wedi bod ag amrywiaeth o rolau yn y gwasanaeth sifil ac yn 2008 daeth yn Brif Weithredwr cyntaf Ofqual. Mae Isabel yn Ddarlithydd Cyswllt yn y Gyfadran Addysg, Prifysgol Caergrawnt. Mae'n gwasanaethu ar Fwrdd Prifysgol Swydd Bedford ac ar ddau bwyllgor yn cynghori'r Llywodraeth ar gwestiynau moesegol. Yn 2021 cafodd ei phenodi i banel a oedd yn cynnal Adolygiad Annibynnol o Addysg yng Ngogledd Iwerddon.
Anne Pinot de Moira, Aelod
Mae Anne yn Ystadegydd Siartredig sydd â mwy na 25 mlynedd o brofiad, yn bennaf ym meysydd addysg ac asesu. Bu'n gweithio i AQA yn y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Addysgol lle roedd hi’n Bennaeth Ymchwil Asesu. Mae Anne yn Gymrawd Anrhydeddus yn yr Adran Addysg, Prifysgol Rhydychen. Roedd ei hymchwil diweddaraf yn canolbwyntio ar ansawdd asesu, dibynadwyedd marcio a dylunio cynlluniau marcio.
Graham Hudson, Cynrychiolydd bwrdd Cymwysterau Cymru
Mae Graham yn ymgynghorydd asesu adnabyddus yn y DU sydd wedi gweithio’n helaeth i fyrddau arholi cenedlaethol ac asiantaethau’r llywodraeth ar reoli a moderneiddio systemau arholi. Mae wedi cyflwyno rhaglenni marcio cenedlaethol sylweddol ac wedi ymgymryd ag ymchwil wedi’i ariannu’n genedlaethol i'r defnydd o dechnoleg wrth asesu. Mae'n arbenigo mewn galluogi'r newid o asesiadau papur i gyflawni digidol.
Andrew Boyle, Aelod
Andrew yw Cyfarwyddwr Ymchwil AlphaPlus Consultancy Ltd. Prif waith Andrew yw darparu arweinyddiaeth a rheolaeth ar gyfer gweithgareddau ymchwil AlphaPlus. Mae’n Gymrawd y gymdeithas asesu Ewropeaidd, AEA-Europe, ac roedd yn aelod o’r Grŵp Cynghori Galwedigaethol ar gyfer Ofqual, rheoleiddiwr arholiadau a chymwysterau yn Lloegr.