Cyflwyniad

O bryd i'w gilydd rydyn ni’n prynu nwyddau a gwasanaethau i gefnogi ein gwaith. Gall hyn gynnwys gofynion gweithredol fel gwasanaethau rheoli cyfleusterau, hyfforddiant, meddalwedd a chaledwedd TG neu ddeunyddiau swyddfa. Rydyn ni hefyd yn comisiynu gwaith ymchwil ac ymgynghori i gefnogi ein gwaith adolygu, diwygio a rheoleiddio.

Dull prynu

Rydyn ni’n prynu ein nwyddau a'n gwasanaethau yn unol â deddfwriaeth Caffael Cyhoeddus y DU. Rydyn ni’n ystyried polisïau Llywodraeth Cymru wrth ddiffinio ein gofynion ac rydyn ni’n paratoi ar gyfer diwygio caffael cyhoeddus sydd i fod ar waith yn 2023, sef Bil Caffael y DU a Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Am ragor o wybodaeth gweler ein Polisi Caffael.

Rydyn ni’n awyddus i gydweithio ar ein gweithgarwch caffael gyda chyrff eraill yn y sector cyhoeddus i sicrhau’r arbedion mwyaf posibl. Er mwyn gwneud hyn, rydyn ni’n defnyddio cytundebau fframwaith fel y rhai sy'n cael eu harwain gan dîm Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Masnachol y Goron.

Rydyn ni’n defnyddio GwerthwchiGymru i hysbysebu cyfleoedd contract os nad ydyn ni’n contractio o dan gytundebau fframwaith. Porth Llywodraeth Cymru yw hwn sy’n sicrhau bod tendrau sector cyhoeddus ar gael i fusnesau o bob maint yng Nghymru a thu hwnt. Mae defnyddio'r safle yn rhoi cyfle i fusnesau hyrwyddo eu cwmni, cysylltu â sefydliadau sector cyhoeddus sydd wedi cofrestru a chael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd caffael y gallen nhw dendro amdanyn nhw.

Mae cyfleoedd contract Cymwysterau Cymru gwerth £30,000 (gan gynnwys TAW) ac uwch yn cael eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru a chaiff y broses dendro ei rheoli drwy borth GwerthwchiGymru neu eDendroCymru. Gallwch gofrestru ar y ddau safle am ddim.

Byddwn ni’n gofyn am isafswm o dri dyfynbris ar gyfer contractau gwerth rhwng £6,000 a £29,999 (gan gynnwys TAW), er y gallwn ddewis hysbysebu rhai cyfleoedd contract o dan £30,000.

Gofynion prynu

Rydyn ni’n prynu nwyddau a gwasanaethau tebyg i gyrff cyhoeddus eraill i gefnogi’r sefydliad fel deunydd ysgrifennu, gwasanaethau rheoli cyfleusterau, hyfforddiant, meddalwedd a chaledwedd TG. Rydyn ni hefyd yn comisiynu ymchwil yn ymwneud â chymwysterau ac yn defnyddio arbenigwyr pwnc dan gontract i gefnogi ein gwaith adolygu, diwygio a rheoleiddio. Yn aml mae gennym ofynion ar gyfer darnau annibynnol o waith ymgynghorol, er enghraifft, i gefnogi ein gwaith polisi rheoleiddio. Mae manylion am ein contractau presennol i'w gweld yn ein cofrestr contractau

Yn 2024 byddwn ni hefyd yn cyhoeddi cyfres o gyfleoedd i gynnig am gontractau yn y dyfodol.

Comisiynu cymwysterau

Fel rhan o'n gwaith adolygu a diwygio cymwysterau, efallai y byddwn ni’n comisiynu cyrff dyfarnu i ddatblygu cymwysterau newydd ar gyfer dysgwyr yng Nghymru y byddan nhw wedyn yn eu darparu i ganolfannau (ysgolion, colegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith).

Rydyn ni’n gwneud hyn drwy broses gaffael a gaiff ei hysbysebu ar GwerthwchiGymru gyda'r broses yn cael ei rheoli ar eDendroCymru. Rydyn ni’n dyfarnu contractau consesiwn lle mae gan y corff dyfarnu, neu gyrff dyfarnu, llwyddiannus yr hawl unigryw am gyfnod o flynyddoedd i gynnig y cymwysterau hynny i ganolfannau.

Dod yn arbenigwr pwnc

I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn arbenigwr pwnc i Cymwysterau Cymru, gweler ein tudalen we bwrpasol.

Telerau ac amodau

Oni bai bod telerau amgen wedi'u cytuno o dan gytundeb fframwaith neu gontract mae ein Telerau ac Amodau Contract ar gyfer Gorchmynion Prynu yn berthnasol i bob pryniant.

Ar gyfer gwasanaethau 'Arbenigwr Pwnc', bydd y telerau ac amodau canlynol yn berthnasol i unigolion neu gwmnïau.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch y Tîm Caffael.