Cymwysterau Cenedlaethol
Yng ngwanwyn 2023 fe wnaethon ni ymgynghori ar yr ystod o gymwysterau a ariennir yn gyhoeddus a ddylai fod ar gael i ddysgwyr 14 i 16 oed yng Nghymru, ochr yn ochr â’r cymwysterau TGAU y cytunwyd arnyn nhw eisoes. Ym mis Ionawr 2024 fe wnaethon ni gyhoeddi’r canfyddiadau a’n penderfyniadau.
Yna fe wnaethon ni ystyried a ddylai tri phwnc fynd ymlaen fel TGAU, fel y cynlluniwyd yn wreiddiol, neu fel TAAU (Tystysgrifau Galwedigaethol Addysg
Uwchradd). Mae TAAU yn frand newydd a chyffrous rydym yn ei gyflwyno o 2027. Fe wnaethon ni ymgynghori ar hyn a phenderfynu y dylai peirianneg ac
adeiladu ddod yn gymwysterau TAAU ac y dylai iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant barhau fel cymhwyster TGAU.
Buon ni hefyd yn trafod cyn gwneud ein penderfyniad ynghylch cymwysterau Sylfaen sy’n datblygu sgiliau Cymraeg dysgwyr nad ydyn nhw efallai’n barod i gymryd TGAU yn y pwnc hwn eto.
Rydym bellach wedi cytuno ar yr ystod o bynciau a fydd yn sefyll ochr yn ochr â chymwysterau TGAU ar ôl ymgysylltu ac
ymgynghori helaeth. Gyda’i gilydd, byddant yn ffurfio’r gyfres lawn o Gymwysterau Cenedlaethol 14–16 cymeradwy.
Ynghyd â chymwysterau TGAU newydd gwneud-i-Gymru, bydd y Cymwysterau Cenedlaethol 14–16 yn cynnwys:
• 15 cymhwyster Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU)
• 24 cymhwyster Sylfaen mewn amrywiaeth o feysydd pwnc galwedigaethol a phynciau sy’n gysylltiedig yn benodol â meysydd dysgu a phrofiad y Cwricwlwm i Gymru - gan gynnwys cymwysterau Cymraeg Craidd a’r Gymraeg
• Cyfres Sgiliau, sy’n cynnwys cymwysterau Prosiect Personol a chyfres o gymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith
Bydd y Cymwysterau Cenedlaethol yn cefnogi nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru. Byddan nhw’n darparu cyfleoedd asesu ar lefel mynediad, Lefel 1 a Lefel 2, a bydd yr holl gymwysterau ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Bydd canolfannau’n gallu cynnig cyfuniad pwrpasol o’r cymwysterau newydd hyn i gefnogi eu dysgwyr i gyflawni eu nodau unigol ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith.
Mae hyn yn cefnogi ein huchelgais o greu cynnig cydlynol a chynhwysol.
Yn ogystal â darparu cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ar draws ystod amrywiol o feysydd pwnc a sector, bydd y Cymwysterau Cenedlaethol hefyd:
• yn annog y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol
• yn rhoi’r sgiliau y mae cyflogwyr Cymru yn gofyn amdanyn nhw
• yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer dysgu ymarferol
• yn cynnig cymysgedd o ddulliau asesu
• yn werthfawr yng Nghymru a thu hwnt
Ers cytuno ar yr ystod o gymwysterau, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n rhanddeiliaid i ddatblygu’r meini prawf cymeradwyo y mae’n rhaid i gyrff
dyfarnu eu bodloni wrth ddatblygu’r cymwysterau hyn.
Cyhoeddwyd drafftiau o’r meini prawf hyn ar ein platfform Dweud Eich Dweud ym mis Hydref 2024, er mwyn i’n rhanddeiliaid roi adborth. Maen nhw bellach wedi’u cwblhau a byddan nhw’n cael eu cyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn.
Wrth lunio’r Cymwysterau Cenedlaethol, rydym wedi gweithio ar y cyd gydag ystod eang ac amrywiol o randdeiliaid, gan gysylltu’n uniongyrchol â chyflogwyr, cyrff sector, ysgolion, colegau a phrifysgolion, yn ogystal â dysgwyr, rhieni a chyrff dyfarnu.
Wrth ystyried yr ystod, roedden ni’n ystyriol o ddylunio cymwysterau a fyddai, lle bo modd, yn cefnogi llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, gan geisio sicrhau bob amser bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cefnogi’r weledigaeth ar gyfer Cymru gydnerth, a dyna pam rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, gan gynnwys sgiliau digidol, gan y bydd hyn yn allweddol i ddyfodol dysgwyr, a’u llwyddiant hirdymor mewn byd sy’n newid yn gyflym.
O 2027, bydd Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 yn cynnwys - TGAU, TAAU, cymwysterau Sylfaen a Sgiliau sy’n cynnwys Lefel Mynediad i Lefel 2 o
Fframwaith Credydau a Chymwysterau Llywodraeth Cymru.
Bydd canolfannau yn gallu darparu cyfuniad wedi ei deilwra o’r cymwysterau hyn.
Cymwysterau ôl-16
Datblygu cymwysterau galwedigaethol
Rydym wedi parhau i oruchwylio datblygiadau ar gyfer cymwysterau newydd mewn teithio, twristiaeth, lletygarwch ac arlwyo, yn dilyn ein cyhoeddiad y llynedd o adolygiad sector Ar Daith.
Teithio a thwristiaeth
Trwy weithio gyda chyrff dyfarnu, darparwyr dysgu ac arbenigwyr sector, cyhoeddwyd meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymwysterau wedi’u diweddaru mewn teithio a thwristiaeth ym mis Rhagfyr 2023. Bydd cyrff dyfarnu yn defnyddio’r meini prawf hyn i wneud newidiadau i’w cymwysterau presennol. Bydd y cymwysterau hyn ar gael ar gyfer canolfannau o fis Medi 2026, gyda’r
addysgu cyntaf yn dechrau o fis Medi 2027.
Lletygarwch ac arlwyo
Nododd ein hadolygiad Ar Daith rai problemau ynghylch strwythur ac ystod y cymwysterau lletygarwch ac arlwyo a gaiff eu cynnig yng Nghymru. Mae angen cyfres ffres a pherthnasol o gymwysterau arnom sy’n mynd i’r afael â’r strwythur
cymwysterau cymhleth a dryslyd presennol a’r cynnwys a’r ffocws sydd wedi dyddio.
Fe wnaethon ni ymgynghori ar ddau gynnig yng ngwanwyn 2023 ac yn dilyn adborth dyma edrych ar yr holl opsiynau ar gyfer sicrhau cymwysterau lletygarwch ac arlwyo newydd gyda rhanddeiliaid.
Fe wnaethon ni gyhoeddi ein hadroddiad penderfyniadau ym mis Ebrill 2024, a’r ddau benderfyniad allweddol oedd:
• sefydlu cyfres symlach newydd o gymwysterau lletygarwch ac arlwyo gwneud-i-Gymru ar lefelau 1, 2 a 3 ar gyfer colegau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith
• datblygu’r cymwysterau a gynigir gan ddefnyddio dull marchnad agored, lle gall mwy nag un corff dyfarnu ddylunio a darparu’r cymwysterau
Grwpiau cymwysterau sector
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cynnal dau gyfarfod o bob un o’n 13 grŵp cymwysterau sector. Mae’r grwpiau hyn yn canolbwyntio ar gymwysterau galwedigaethol ôl-16.
Mae cynrychiolwyr o ddarparwyr dysgu, cyrff dyfarnu, Llywodraeth Cymru, Estyn a rhanddeiliaid ehangach gan gynnwys cyflogwyr a chyrff cynrychioli’r sector yn bresennol yn y grwpiau hyn. Mae llawer o bobl yn y grwpiau ac maent yn trafod materion fel yr ystod o gymwysterau, datblygiadau newydd ac agweddau ar arfer da.
Adolygiad o’r sector celf, creadigol a’r cyfryngau
Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddwyd canfyddiadau ein hadolygiad sector diweddaraf o gymwysterau mewn celf, creadigol a’r cyfryngau. Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar yr amrywiaeth o gymwysterau, gan gynnwys cymwysterau cyfrwng Cymraeg, sydd ar gael mewn addysg bellach ôl-16 amser llawn, ysgolion chweched dosbarth a phrentisiaethau yn y sector.
Roedd yr adolygiad sector hwn yn cynnwys ystod eang o bynciau gan gynnwys y celfyddydau perfformio, y cyfryngau a chyfathrebu, crefftau, celfyddydau creadigol a dylunio, a chyhoeddi a gwybodaeth. Llywiwyd canfyddiadau ein hadolygiad gan ymchwil desg, a oedd yn dadansoddi’r ystod bresennol o gymwysterau, yn ogystal â 50 o gyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol ac arolwg dysgwyr ar-lein, a dderbyniodd 194 o ymatebion.
Roedd ein canfyddiadau manwl yn nodi’r canlynol:
• mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr dysgu o’r farn bod yr ystod o gymwysterau, gan gynnwys cymwysterau cyfrwng Cymraeg, yn ddigon i ddiwallu anghenion dysgwyr a darparwyr dysgu
• byddai fframweithiau prentisiaeth yn elwa o adolygiad, gan nad oedd rhai bellach yn cynnwys cymwysterau wedi’u hariannu a bod galw am un cymhwyster fframwaith i fod ar gael yn y Gymraeg
Mewn ymateb i gyhoeddiad yr adolygiad, rydym wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r materion hyn, gan rannu
adborth gyda Llywodraeth Cymru ynghylch fframweithiau prentisiaethau creadigol, a chyfarfod â chyrff dyfarnu perthnasol ynghylch cynnwys rhai cymwysterau.
Adolygiad Sgiliau Hanfodol Cymru
Ym mis Medi 2024, cyhoeddon ni y byddai cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn cael eu diwygio wrth i ni gyhoeddi canfyddiadau adolygiad manwl, dwy flynedd o’r cymwysterau galwedigaethol ôl-16.
Hwn oedd ein hadolygiad manwl cyntaf o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ac roedd yn canolbwyntio ar nodi pa newidiadau, os o gwbl, y gallai fod angen eu gwneud i’r cymwysterau i sicrhau eu bod yn parhau i ddiwallu anghenion dysgwyr, darparwyr dysgu a chyflogwyr.
Yn ystod yr adolygiad, gwnaethom
gynnal ymchwil helaeth a siarad â dysgwyr a darparwyr, gan gynnwys arolwg ar-
lein a dderbyniodd 781 o ymatebion a thrafodaethau manwl â ffocws gyda 266 o ddysgwyr.
Roedd ein canfyddiadau manwl yn nodi’r canlynol:
• mae cynnwys Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol a Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol yn parhau i fod yn gyfredol ac yn gymharol debyg i gymwysterau tebyg mewn gwledydd eraill yn y DU, megis cymwysterau Sgiliau Gweithredol yn Lloegr
• mae’r model asesu presennol yn achosi heriau o ran hylawrwydd i ddarparwyr dysgu, dysgwyr a chyflogwyr.
• mae hyd cyffredinol yr asesiadau sydd wedi’u cynnwys yng nghymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn sylweddol hirach nag mewn cymwysterau tebyg a gynigir yng ngwledydd eraill y DU
• gall pynciau a ddefnyddir mewn rhai o’r asesiadau fod rhywfaint yn amherthnasol i gymwysterau galwedigaethol dysgwyr ac felly mae rhai yn eu hystyried yn anniddorol
• roedd darparwyr dysgu o’r farn bod yr amser a neilltuwyd ar gyfer profion er mwyn cadarnhau Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol (Lefel 2 a Lefel 3) yn rhy fyr
Mewn ymateb i ganfyddiadau’r adolygiad, rydym wedi gweithio gyda chyrff dyfarnu a phartneriaid allweddol i fynd i’r afael â materion penodol, ond mae angen sylw mwy sylfaenol yn y tymor hwy i fynd i’r afael yn llawnach â’r pryderon a godwyd gan randdeiliaid.
Gan weithio gyda rhanddeiliaid rydym yn bwriadu diwygio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol, gyda dyddiad targed ar gyfer addysgu cyntaf o fis Medi 2028. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.
Cydweithio â chyflogwyr
“Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi canfod gwerth aruthrol mewn gweithio ar y cyd â Cymwysterau Cymru.
Drwy gydweithio, rydym wedi gallu cysoni cymwysterau’n agosach â gofynion sgiliau ein rhanbarth a sicrhau eu bod yn ymateb i anghenion cyflogwyr a’r gweithlu yng ngogledd Cymru.
Edrychwn ymlaen at barhau â’n perthynas dros y flwyddyn nesaf wrth i ni weld newidiadau fel TAAU yn cael eu cyflwyno.
Rydym yn awyddus i sicrhau bod llais y cyflogwr yn ganolog i ddatblygu
cymwysterau, a fydd yn ei dro yn adeiladu gweithlu mwy medrus a hyblyg sy’n barod ar gyfer y dyfodol.”
Sian Lloyd Roberts, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru
Cymraeg
Eleni rydym wedi dechrau ar y gwaith o ddatblygu strategaeth Gymraeg integredig – sy’n cwmpasu ein holl weithgareddau allanol a mewnol o ran y Gymraeg.
Mae gweithgor traws-sefydliadol wedi’i sefydlu ac yn edrych ar ddod â’n holl ymdrechion at ei gilydd o fewn un strategaeth, y bwriedir ei chyhoeddi yn 2025.
Hyrwyddo a hwyluso cymwysterau cyfrwng Cymraeg
Rydym yn parhau i adeiladu ar lwyddiant ein dull cyfrwng Cymraeg wedi’i dargedu mewn addysg ôl-16, a roddwyd ar waith gennym o fis Ionawr 2023. Ym mlwyddyn ariannol 2023–24, dyfarnwyd £226,159 o gyllid grant y Gymraeg gennym i gefnogi naw corff dyfarnu i sicrhau bod mwy nag 80 o gymwysterau ar gael yn y Gymraeg ar draws ystod o sectorau.
Ers mireinio ein dull gweithredu, rydym wedi gweld cynnydd amlwg yn nifer y cyrff dyfarnu sy’n ymgysylltu â’n trafodaethau cyfrwng Cymraeg a’n grant cymorth Cymraeg. Rydym hefyd wedi nodi bod rhai cyrff dyfarnu yn gwneud cais am ein grant am y tro cyntaf.
Ym mis Medi 2024, cyhoeddwyd ein hadroddiad cynnydd ar ein dull o dargedu cymwysterau galwedigaethol ôl-16 i fod ar gael yn y Gymraeg. Roedden ni hefyd yn gallu cefnogi Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu i ddatblygu a lansio cronfa ddata o aseswyr Cymraeg. Nod y fenter hon yw cefnogi cyrff dyfarnu trwy nodi ymarferwyr â sgiliau Cymraeg hyderus sydd â diddordeb mewn ymgymryd â rolau asesydd cyflogedig.
Partneriaeth gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Rydym yn parhau i weithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau bod dysgwyr a phrentisiaid sy’n dewis darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn cael mynediad at gymwysterau dwyieithog hygyrch. Cyhoeddwyd ein hadroddiad cynnydd cyntaf ar y cyd ym mis Gorffennaf 2024.
Cynhaliwyd digwyddiad hefyd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Coleg y Cymoedd a CholegauCymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o sut roedd cydweithio ar draws y sector yn helpu i wella darpariaeth cyfrwng Cymraeg y cymwysterau galwedigaethol ôl-16, gyda ffocws penodol ar bynciau creadigol.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i gydnabod yr ymdrechion parhaus i gynyddu cymwysterau Cymraeg, darpariaeth ac argaeledd adnoddau a staffio o fewn addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith mewn meysydd blaenoriaeth allweddol.
Diwylliant sefydliadol
Mae ein diwylliant sefydliadol yn un lle rydym yn teimlo bod gweithwyr yn gallu siarad yn Gymraeg, ac yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i wneud hynny. Rydym yn cefnogi ein staff i ddysgu Cymraeg drwy hyfforddiant ffurfiol, defnyddio adnoddau ar-lein, ac anogaeth a chefnogaeth gan siaradwyr Cymraeg hyderus.
Rydym yn cynnal arolwg blynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar wella darpariaeth gweithle dwyieithog a darpariaeth y Gymraeg drwy gydol ein gwaith.
Mae ein grŵp Defnyddia dy Gymraeg yn dod â gweithwyr at ei gilydd i sgwrsio yn Gymraeg, naill ai dim ond i gysylltu, neu i helpu i wella sgiliau iaith mewn amgylchedd anffurfiol a chyfforddus.
Rydyn ni’n newid y ffordd rydyn ni’n siarad am sgiliau Cymraeg wrth
hysbysebu swyddi, gan fod yn realistig am y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rolau penodol, a’r rhai y gellir eu datblygu yn y swydd.
Nod hyn yw annog ceisiadau gan y rhai sydd â phrofiad o’r Gymraeg, ond efallai sydd angen cymorth i ddatblygu’r hyder i’w defnyddio mewn amgylchedd gwaith.
Rydym yn ymgysylltu’n frwd â sefydliadau, grwpiau addysgol a dysgwyr Cymraeg eu hiaith i sicrhau bod eu lleisiau a’u profiadau yn cael eu hadlewyrchu yn ein gwaith.
Cyhoeddwyd ein hadroddiad cydymffurfio cynllun iaith Gymraeg diweddaraf ym mis Awst 2024. Rydym yn rhagweld cael ein rhestru fel corff cyhoeddus sy’n gorfod cydymffurfio â safonau’r Gymraeg yn ystod 2025, a byddwn yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud yr hyn sydd ei angen i sicrhau ein bod yn cydymffurfio.
Cefnogi cyrff dyfarnu
“Mae Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu wedi parhau i weithio’n agos gyda Cymwysterau Cymru eleni. Mae hyn wedi bod drwy ein diweddariadau
grŵp Ffederasiwn Cyrff Dyfarnu Cymru a chyfarfodydd rheolaidd rhwng Cymwysterau Cymru a’n tîm polisi.
Mae ein grŵp Ffederasiwn Cyrff Dyfarnu Cymru yn un o’n cymunedau aelod mwyaf a rhan o’r rheswm dros ei boblogrwydd yw bod staff Cymwysterau Cymru eu hunain ar gael, yn hygyrch ac yn dryloyw i’r grŵp.
Yn ogystal â’n pwyntiau cyswllt arferol, eleni rydym yn falch o fod wedi gweithio
mewn partneriaeth â’r tîm yn Cymwysterau Cymru i lansio’r ‘Gronfa Ddata o Aseswyr Cymraeg’, gyda’n fersiwn beta bellach yn fyw! Byddwn hefyd yn croesawu uwch arweinwyr o’r rheoleiddiwr i siarad yn ein cynhadledd Ffederasiwn Cyrff Dyfarnu flynyddol.
Edrychwn ymlaen at barhau i gryfhau’r berthynas hon a gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n haelodau a’u cynnwys yn y datblygiadau diweddaraf yng Nghymru yn y flwyddyn i ddod.”
Luise Ruddick, Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu