Cyflwyniad

Mae Cymwysterau Cymru yn rhan annatod o system addysg a hyfforddiant Cymru.

Rydym wedi datblygu ffyrdd arloesol o gyflawni ein dyletswyddau fel rheoleiddiwr cyfrifol.

Rydym yn arwain ar ddiwygio llawer o gymwysterau ac yn deall bod newid llwyddiannus yn golygu bod angen i'r system gyfan ddod at ei gilydd i gydweithio a chyfathrebu’n effeithiol.

Rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan yn y cydweithio hwnnw a helpu i feithrin y perthnasoedd sydd eu hangen er mwyn i eraill allu cymryd rhan yn llwyddiannus yn y  newid.

Mae ein holl strategaethau a chynlluniau yn cael eu datblygu gyda chyfranogiad rhanddeiliaid allweddol.

Llesiant cenedlaethau’r dyfodol

Mae cymwysterau yn bwysig a rhaid sicrhau eu gwerth ar gyfer y dysgwyr y maent yn ceisio eu gwasanaethu. Mae llesiant dysgwyr wrth wraidd ein gweithredoedd a'n penderfyniadau.

Ein nod yw sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn gallu dewis o blith cymwysterau y gallant ymddiried ynddynt, sy’n cael eu gwerthfawrogi ac sy’n gludadwy yn fyd-eang, sy’n berthnasol, yn deg, yn hyblyg a mor ddwyieithog â phosib.

Fel corff cyhoeddus cenedlaethol cyfrifol, rydym wedi dewis gweithio yn unol â disgwyliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a byddwn yn ddarostyngedig i’w dyletswyddau yn ffurfiol o fis Ebrill 2025.

Mae’r Ddeddf yn unigryw i Gymru ac yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau. Rydym wastad wedi gweithio o fewn ysbryd y Ddeddf. Rydyn ni bellach yn mynd ymhellach i ystyried effaith hirdymor dylanwadau allanol a thueddiadau cymdeithasol, ac effaith cymwysterau ar y dysgwyr yn ystod eu hoes.

Cynllun corfforaethol

Rydym wedi datblygu cynllun corfforaethol newydd sy'n amlinellu dull strategol o gyflawni ein pwrpas a'n prif nodau. Mae’r cynllun wedi’i ddylunio gan roi ystyriaeth ddyledus i lesiant cenedlaethau’r dyfodol ac mae’n ymgorffori ein datganiad llesiant a’n hamcanion.

Mae amrywiaeth o grwpiau rhanddeiliaid wedi bod yn rhan o’r gwaith o helpu i lunio ein hamcanion llesiant, gan ddweud wrthym, wrth edrych i’r dyfodol, eu bod am weld:

  • addysg yn helpu i drechu tlodi drwy fynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, wedi'i hategu gan ystod gynhwysol o gymwysterau
  • pwyslais ar gyflogadwyedd, gyda chymwysterau yn ymateb i'r newid mewn sgiliau sydd eu hangen ar fusnes a'r economi
  • nod y Cwricwlwm i Gymru wedi'u hintegreiddio'n amlwg i'n diwygiadau
  • dysgwyr yn ennill gwybodaeth a fydd yn dylanwadu'n gadarnhaol ar eu bywydau yn y dyfodol – gan gynnwys ystyr datblygu cynaliadwy, newid yn yr hinsawdd, ffyrdd iach o fyw, gwrth-hiliaeth a gwerthfawrogi amrywiaeth
  • ffocws parhaus ar lesiant dysgwyr
  • gwireddiad clir o fanteision technoleg ddigidol ac ymateb i ddatblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial
  • dysgu gydol oes ac addysg oedolion yn cael eu hystyried mewn adolygiadau o gymwysterau ôl-16
  • cymwysterau ac adnoddau Gwneud i Gymru ac sy'n cefnogi cenedl ddwyieithog

Rydym hefyd wedi edrych ar ymchwil a data ar faterion hirdymor a’u harwyddocâd i’r system gymwysterau, gan nodi bod y tueddiadau canlynol yn arbennig o bwysig i’n gwaith:

·       poblogaeth sy’n heneiddio – os bydd cyfraddau genedigaethau yn gostwng yng Nghymru, y tu hwnt i 2030, gallai effeithio ar y farchnad gymwysterau, gan arwain at yr angen am gynnig mwy hyblyg gyda mwy o ffocws ar ddysgu gydol oes

·       anghydraddoldebau - mae'r bwlch tlodi cynyddol yn effeithio'n negyddol ar yr economi, iechyd a lles a chyrhaeddiad addysgol.

·       economi seiliedig ar sgiliau - mae byd gwaith yn newid yn gyflym ac mae sgiliau trosglwyddadwy yn dod yn fwyfwy pwysig

·       newid technolegol - mae technoleg ddigidol yn parhau i ddatblygu'n gyflym, gan gynnwys y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ym mhob agwedd ar ein bywydau

·       gwydnwch – rhaid inni fod yn effro i’r tebygolrwydd o bandemig arall ac mae cadernid y system gymwysterau, a’r mecanweithiau asesu, yn dod yn bwysicach ar adegau o’r fath

Mae sawl strategaeth neu gynllun gweithredu yn rhan o’n cynllun corfforaethol sy’n cefnogi agweddau penodol ar ein nodau llesiant:

Cynllunio strategol

Rydym wedi sefydlu ein blaenoriaethau strategol a’n rhaglenni gwaith ac wedi’u nodi mewn cynllun pum mlynedd, sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd. Mae’r camau manwl a gymerwn mewn blwyddyn benodol wedyn yn cael eu hamlinellu yn ein cynllun busnes blynyddol.

Adroddiad blynyddol

Mae ein adroddiad blynyddol yn rhoi amlinelliad o ddarpariaeth a datblygiadau dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi gweithio ar waith rheoleiddio blaenoriaethol a diwygiadau, gan edrych ymlaen ymhellach i sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ein prif nodau ar gyfer dysgwyr y dyfodol. 

Mae rhai o uchafbwyntiau’r flwyddyn 2022-23 o fewn yr adroddiad blynyddol yn cynnwys: 

  • sut rydym wedi goruchwylio’r camau nesaf wrth ddychwelyd i drefniadau asesu cyn-bandemig 
  • cyfres arholiadau lwyddiannus ar gyfer haf 2023 
  • datblygu cymwysterau newydd sy'n cyd-fynd â chyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru 
  • ymgynghori ar a chyhoeddi gofynion dylunio ar gyfer cyfres o 26 TGAU newydd 
  • cyhoeddi ein blaenoriaethau strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf 
  • ein cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth cyntaf 
  • mabwysiadu darpariaethau llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn wirfoddol 
  • ein cynigion diwygiedig ar gyfer cymwysterau newydd yn y Gymraeg i bobl ifanc 14–16 oed, gan gefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru 
  • sut rydym wedi ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau yn y sector ôl-16, gan gynnwys adolygiadau sector 

Gallwch hefyd edrych ar ein hadroddiadau blynyddol blaenorol ar gyfer y blynyddoedd academaidd 2021-22 a 2020-21. 

Adrodd ariannol

Rydym yn derbyn Llythyr Cylch Gwaith a Llythyr Cymorth Grant ar ddechrau pob blwyddyn ariannol yn nodi ein cyllid blynyddol a beth mae Llywodraeth Cymru eisiau i ni ei gyflawni yn ystod y flwyddyn honno

Mae ein set ddiweddaraf o gyfrifon blynyddol yn ymdrin â'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024. Mae'n bleser gan y Swyddog Cyfrifyddu gadarnhau ei fod yn adroddiad 'diamod' gan yr Archwilydd Cyffredinol.

Gallwch hefyd adolygu ein cyfrifon am y cyfnodau sy'n cwmpasu 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022, 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021 a 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020.

Cyfrifoldeb Cymwysterau Cymru yw cynnal gwefan Cymwysterau Cymru a sicrhau ei chywirdeb; nid yw'r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac felly nid yw'r archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a all fod wedi digwydd i'r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno'n wreiddiol ar y wefan.

Cynllunio busnes

Mae ein cynllun busnes yn sefydlu ein blaenoriaethau gweithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24. 

Cynllun busnes 2024-25

Cynllun busnes 2023-24

Cynllun busnes 2022-23

 

Y Gymraeg

Mae ein strategaeth Dewis i Bawb yn nodi’n glir ein hymrwymiad i’r Gymraeg a’n nod i gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg. 

Mae hefyd yn pwysleisio ein bwriad i weithio gyda chyrff dyfarnu a phartneriaid eraill er mwyn cyfrannu at flaenoriaethau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. 

Mae Dewis i Bawb yn nodi pedwar maes ffocws strategol: 

  • blaenoriaethu cymwysterau i fod ar gael yn Gymraeg mewn addysg llawn amser, lleoliadau ôl-16 a phrentisiaethau 
  •  cryfhau cymorth i gyrff dyfarnu a’u gallu i ddarparu cymwysterau cyfrwng Cymraeg 
  • adolygu ein grant Cymorth Iaith Gymraeg i ganolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth, cymwysterau newydd a chymwysiadau arloesol 
  • gwella gwybodaeth a data ar gyfer dysgwyr, ysgolion a cholegau, ac at ein dibenion rheoleiddio 

Rydym hefyd wedi cynhyrchu ac yn adolygu Cynllun Iaith Gymraeg yn rheolaidd, sy'n nodi sut rydym yn cyflawni ein swyddogaethau a'n cyfrifoldebau trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. Mae ein Hadroddiad Cydymffurfiaeth Cynllun Iaith Gymraeg diweddaraf yn amlinellu sut y gwnaethom gyflawni ein hymrwymiad o dan y Cynllun yn ystod 2023/24.

Cynllun gweithredu lleihau carbon

Mae Cymwysterau Cymru wedi ymrwymo i leihau ei ôl troed carbon. Rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol i'n hamgylchedd swyddfa dros y 6 blynedd diwethaf. Rydym yn cefnogi cynllun ‘Gweithio Gyda’n Gilydd i Gyrraedd Sero Net’ 2021-25 Llywodraeth Cymru sy'n disgrifio'r camau gweithredu pellach y byddwn yn eu cymryd yn ein Cynllun Gweithredu Lleihau Carbon 2022-24.