Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru: blwyddyn academaidd 2021/22

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

04.11.22

Cyfnod dan sylw:

Blwyddyn academaidd 2021/22

Diweddariad nesaf:

Tachwedd 2022 (Dros Dro)

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru: 2021/22

Datganiad blynyddol sy'n cyflwyno data ar nifer y cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yng Nghymru.

Pwyntiau Allweddol:

  • roedd 863,095 o gofrestriadau TGAU yn 2021/22. O'r rhain roedd 15.1% yn gofrestriadau hwyr yn 2021/2022
  • roedd 88,715 o gofrestriadau Safon Uwch ac 82,810 o gofrestriadau UG yn 2021/2022
  • roedd 9.7% o gyfanswm y cofrestriadau Safon Uwch a 11.8% o'r cofrestriadau UG yn gofrestriadau hwyr
  • cafodd 332,975 o dystysgrifau TGAU eu dyfarnu yn 2021/22, gostyngiad o 2.1% o gymharu â 2020/21
  • Cafodd 75,400 o dystysgrifau UG a Safon Uwch eu dyfarnu yn 2021/22, gostyngiad o 4.6% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd y gostyngiad hwn wedi'i ysgogi'n bennaf gan ostyngiad mewn tystysgrifau UG tra bod tystysgrifau Safon Uwch wedi cynyddu
  • y diffiniad o gofrestriad hwyr at ddibenion ystadegol yw cofrestriad a ddaeth i law ar ôl hanner nos ar y dyddiad cau ar gyfer pob cyfres arholiadau. Mae gan gyrff dyfarnu ddyddiadau gwahanol y codir ffi hwyr ar eu hôl ac, felly, nid yw'r ystadegau ar gyfer cofrestriadau hwyr o reidrwydd yn cynrychioli nifer y cofrestriadau y codwyd ffi hwyr mewn perthynas â nhw

I gael gwybodaeth am gofrestriadau ar lefel cymhwyster yn haf 2022, yn ogystal â sylwebaeth ar ffactorau allanol a allai fod wedi dylanwadu ar newidiadau mewn cofrestriadau, gweler ein datganiad ystadegol Cofrestriadau dros dro ar gyfer Arholiadau Haf 2022 yng Nghymru - TGAU, UG, Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau.

Oherwydd canslo arholiadau'r haf yn 2020 a 2021, a'r dull graddio gwahanol yn haf 2022, nid oes modd cymharu ffigurau ar gyfer 2019/20, 2020/21 a 2021/22 yn uniongyrchol â'i gilydd nac unrhyw flynyddoedd eraill.

Cyswllt

Ystadegydd

Ffôn: 01633 373 292

E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru

Cyfryngau

Ffôn: 01633 373 222

E-bost: comms@qualifications.wales