Ystadegau

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

20.05.22

Cyfnod dan sylw:

Haf 2022

Diweddariad nesaf:

Mai 2023 (dros dro)

RHANDDEILIAID
ADDYSGWYR

Cofrestriadau dros dro ar gyfer Arholiadau Haf 2022 yng Nghymru

Adroddiad blynyddol sy'n cyflwyno data dros dro ar Gofrestriadau ar gyfer Arholiadau Haf 2022 yng Nghymru: TGAU, UG, Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau.

Pwyntiau Allweddol

Haf 2022 yw'r gyfres haf gyntaf lle bydd dysgwyr yn sefyll arholiadau TGAU, UG a Safon Uwch ers 2019. Yn 2020 a 2021, cafodd graddau eu pennu gan ganolfannau. Bydd y gwahanol ddulliau hyn o ddyfarnu graddau wedi effeithio ar ffigurau cofrestru yn y datganiad hwn, yn ogystal ag aflonyddwch arall oherwydd pandemig COVID-19.

TGAU

  • Gwnaed 318,590 o gofrestriadau TGAU ar gyfer haf 2022. Mae hyn wedi gostwng 5.1% o'i gymharu â'r cofrestriadau TGAU ar gyfer haf 2021.
  • O'i gymharu â 2019, yr haf diwethaf i ddysgwyr sefyll arholiadau, mae nifer y cofrestriadau yn 2022 wedi cynyddu 4.2%.
  • Dysgwyr Blwyddyn 11 yw'r rhai mwyaf tebygol o gofrestru ar gyfer TGAU yn yr haf, gan gyfrif am 86.9% o gyfanswm y cofrestriadau TGAU yr haf hwn. Bu gostyngiad o 5.7% yn nifer y cofrestriadau Blwyddyn 11 yr haf hwn o gymharu â haf 2021.
  • Cafwyd 29,230 o gofrestriadau gan ddysgwyr Blwyddyn 10 yn haf 2022. Mae hyn yn gynnydd o 5.3% o'i gymharu â'r haf diwethaf, pan oedd 27,750.
  • Gostyngodd nifer y cofrestriadau Blwyddyn 12 neu uwch yr haf hwn, sy'n cynnwys 3.8% o gyfanswm y cofrestriadau TGAU.

Safon UG

  • Cafwyd 39,970 o gofrestriadau safon UG yn haf 2021 yng Nghymru, 8.5% yn llai nag yn haf 2021 a 4.0% yn llai nag yn 2019, yr haf diwethaf y cynhaliwyd arholiadau.
  • Cafwyd 37,150 o gofrestriadau gan ddysgwyr Blwyddyn 12, gan gyfrif am 92.9% o'r holl gofrestriadau. Mae hyn bron yr un fath â'r gyfran yn 2021, ond mae’n gyfran llawer mwy nag yn 2019 pan oedd 76.5% o'r cofrestriadau gan ddysgwyr Blwyddyn 12.
  • Mae nifer y cofrestriadau gan ddysgwyr Blwyddyn 13 wedi parhau i ostwng, gan ddisgyn 10.1% rhwng haf 2022 a haf 2021 a 76.1% rhwng haf 2022 a haf 2019. 

Safon Uwch

  • Cafwyd 36,310 o gofrestriadau Safon Uwch ar gyfer haf 2022, 0.5% yn fwy nag yn haf 2021.
  • Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i gofrestriadau gynyddu, yn dilyn nifer o flynyddoedd o ostyngiadau blynyddol.
  • Roedd y rhan fwyaf o'r cynnydd yn deillio o gofrestriadau gan ddysgwyr Blwyddyn 13, a gynyddodd 4.4% o gymharu â'r haf diwethaf, gan gyfrif am 92.2% o holl gofrestriadau Safon Uwch yr haf hwn.
  • Mae nifer y cofrestriadau Blwyddyn 14 ac uwch wedi gostwng 32.8% rhwng haf 2022 a haf 2021.

Mae nifer o ffactorau a all ddylanwadu ar newidiadau yn nifer y cofrestriadau ar gyfer grwpiau blwyddyn dros amser, er enghraifft newidiadau i'r canlynol:

  • Maint y boblogaeth;
  • Ymddygiad cofrestru, e.e. pryd y caiff dysgwyr eu cofrestru ar gyfer eu harholiadau TGAU;
  • Nifer y cymwysterau o bob math a sefir ar gyfartaledd;
  • Y mathau o gymwysterau ôl-16 a sefir.

Gan fod y datganiad hwn yn seiliedig ar gyfrifiadau o gofrestriadau ar lefel cymhwyster, nid yw'n bosibl i ni feintioli effaith ffactorau o'r fath. Rydym wedi gwneud sylwadau ar ffactorau sy'n dylanwadu ar newidiadau mewn cofrestriadau dim ond lle rydym yn hyderus y bydd y ffactorau hyn yn debygol o fod yn gysylltiedig â newid.

Nodwch fod y datganiad llawn a’r tablau data cyfatebol ar gael yn y blwch lawrlwytho.

Cysylltwch â

Ystadegydd:

Ffôn: 01633 373 250

E-bost: ystadegau@cymwysteraucymru.org

Y Wasg

Ffôn: 01633 373 216

E-bost: wasg@cymwysteraucymru.org

Downloads