Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru: blwyddyn academaidd 2024 i 2025

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

06.11.25

Cyfnod dan sylw:

Blwyddyn academaidd 2024 i 2025

Diweddariad nesaf:

Tachwedd 2026 (Dros Dro)

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru 2024/25

Datganiad blynyddol sy'n cyflwyno data ar nifer y cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yng Nghymru

Pwyntiau Allweddol:

Roedd 987,515 o gofrestriadau TGAU ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025. O'r rhain roedd 8.2% yn gofrestriadau hwyr.

Roedd 79,935 o gofrestriadau Safon Uwch ac 94,605 o gofrestriadau UG ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025.

Roedd 6.4% o gyfanswm y cofrestriadau Safon Uwch a 8.9% o'r cofrestriadau UG yn gofrestriadau hwyr.

Cafodd 336,480 o dystysgrifau TGAU eu dyfarnu ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025, gostyniad o 2.5% o gymharu â blwyddyn academaidd 2023 i 2024.

Cafodd 72,775 o dystysgrifau UG a Safon Uwch eu dyfarnu ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025, gostyngiad o 2.4% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Y diffiniad o gofrestriad hwyr at ddibenion ystadegol yw cofrestriad a ddaeth i law ar ôl hanner nos ar y dyddiad cau ar gyfer pob cyfres arholiadau. Mae gan gyrff dyfarnu ddyddiadau gwahanol y codir ffi hwyr ar eu hôl ac, felly, nid yw'r ystadegau ar gyfer cofrestriadau hwyr o reidrwydd yn cynrychioli nifer y cofrestriadau y codwyd ffi hwyr mewn perthynas â nhw.

I gael gwybodaeth am gofrestriadau ar lefel cymhwyster yn haf 2025, yn ogystal â sylwebaeth ar ffactorau allanol a allai fod wedi dylanwadu ar newidiadau mewn cofrestriadau, gweler ein datganiad ystadegol Cofrestriadau dros dro ar gyfer Arholiadau Haf 2025 yng Nghymru - TGAU, UG, Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau.

Datganiadau blaenorol

Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru blwyddyn academaidd 2023 i 2024

Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru: blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru: blwyddyn academaidd 2021 i 2022

Cyswllt 
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru

Y Wasg
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru