Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru: blwyddyn academaidd 2022/23

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

02.11.23

Cyfnod dan sylw:

Blwyddyn academaidd 2022/23

Diweddariad nesaf:

Tachwedd 2024 (Dros Dro)

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru: 2022/23

Datganiad blynyddol sy'n cyflwyno data ar nifer y cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yng Nghymru

Pwyntiau Allweddol 

  • Roedd 977,955 o gofrestriadau TGAU yn 2022/23. O'r rhain roedd 13.6% yn gofrestriadau hwyr.
  • Roedd 82,215 o gofrestriadau Safon Uwch ac 89,405 o gofrestriadau UG yn 2022/2023.
  • Roedd 9.9% o gyfanswm y cofrestriadau Safon Uwch a 11.5% o'r cofrestriadau UG yn gofrestriadau hwyr
  • Cafodd 328,520 o dystysgrifau TGAU eu dyfarnu yn 2022/23, gostyngiad o 1.3% o gymharu â 2021/22.
  • Cafodd 74,640 o dystysgrifau UG a Safon Uwch eu dyfarnu yn 2022/23, gostyngiad o 1.0% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd y gostyngiad hwn wedi'i ysgogi gan ostyngiad mewn tystysgrifau Safon Uwch tra bod tystysgrifau UG wedi cynyddu.
  • Y diffiniad o gofrestriad hwyr at ddibenion ystadegol yw cofrestriad a ddaeth i law ar ôl hanner nos ar y dyddiad cau ar gyfer pob cyfres arholiadau. Mae gan gyrff dyfarnu ddyddiadau gwahanol y codir ffi hwyr ar eu hôl ac, felly, nid yw'r ystadegau ar gyfer cofrestriadau hwyr o reidrwydd yn cynrychioli nifer y cofrestriadau y codwyd ffi hwyr mewn perthynas â nhw.
  • I gael gwybodaeth am gofrestriadau ar lefel cymhwyster yn haf 2023, yn ogystal â sylwebaeth ar ffactorau allanol a allai fod wedi dylanwadu ar newidiadau mewn cofrestriadau, gweler ein datganiad ystadegol Cofrestriadau dros dro ar gyfer Arholiadau Haf 2023 yng Nghymru - TGAU, UG, Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau.
  • Oherwydd canslo arholiadau'r haf yn 2020 a 2021, a'r dull graddio gwahanol yn haf 2023, nid oes modd cymharu ffigurau ar gyfer 2019/20, 2020/21, 2021/22 a 2022/23 yn uniongyrchol â'i gilydd nac unrhyw flynyddoedd eraill.

Cyswllt 

Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru

Y Wasg
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: comms@qualifications.wales