Dadansoddiad Cydraddoldeb Haf 2025: TGAU, UG a Safon Uwch

YMCHWIL

Dyddiad rhyddhau:

23.10.25

Cyfnod dan sylw:

Cyfres arholiadau haf 2019 i 2025

Diweddariad nesaf:

Hydref 2026 (Dros Dro)

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Dadansoddiad Cydraddoldeb Haf 2025: TGAU, UG a Safon Uwch

Mae’r datganiad yma’n cyflwyno dadansoddiad o ganlyniadau TGAU, UG a Safon Uwch ar gyfer grwpiau penodol o ddysgwyr.

Pwyntiau Allweddol

Unigolion 16 oed sy’n sefyll TGAU
Yn haf 2025, roedd 22.6% o'r graddau TGAU a ddyfarnwyd i ddysgwyr benywaidd ar radd A/7 neu'n uwch, o'i gymharu ag 16.2% ar gyfer dysgwyr gwrywaidd. Roedd 67.0% o'r graddau a ddyfarnwyd i ddysgwyr benywaidd yn rhai C/4 neu uwch, o'i gymharu â 59.6% ar gyfer dysgwyr gwrywaidd.

Ar gyfer dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, roedd 7.0% o'r graddau a ddyfarnwyd yn haf 2025 yn rhai A/7 neu'n uwch ac roedd 39.3% yn rhai C/4 neu'n uwch. Ar gyfer dysgwyr nad oeddent yn gymwys, roedd 21.5% o'r graddau yn A/7 neu'n uwch a 67.4% yn C/4 neu'n uwch.

Roedd 5.6% o'r graddau a ddyfarnwyd i ddysgwyr â darpariaeth ADY/AAA yn A/7 neu'n uwch, o'i gymharu ag 20.3% o'r graddau a ddyfarnwyd i ddysgwyr heb ddarpariaeth. Cyfran y graddau a ddyfarnwyd ar radd C/4 neu’n uwch oedd 31.9% ar gyfer dysgwyr â darpariaeth ADY/AAA a 65.3% ar gyfer dysgwyr heb ddarpariaeth.

Mae bylchau cyrhaeddiad yn amrywio yn ôl pwnc, ac mae newidiadau mewn bylchau cyrhaeddiad dros amser yn dangos patrymau gwahanol ar gyfer gwahanol bynciau a throthwyon graddau.

O'i gymharu â grwpiau eraill, dysgwyr yn y grŵp ethnig "Asiaidd, Asiaidd Prydeinig neu Asiaidd Cymreig" gafodd y canlyniadau uchaf ar bob trothwy gradd allweddol yn haf 2025.

Unigolion 18 oed sy'n sefyll cymwysterau Safon Uwch Gyfrannol (UG) a Safon Uwch
Yn haf 2025, roedd y bylchau cyrhaeddiad yn y graddau uchaf a gyflawnwyd ar lefel UG a Safon Uwch rhwng dysgwyr yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn fwy cul nag yn haf 2024.

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael am ganlyniadau yn ôl nodweddion disgyblion yn y datganiad Canlyniadau Arholiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Datganiadau blaenorol

Dadansoddiad Cydraddoldeb Cymwysterau Cyffredinol yn Haf 2024

Dadansoddiad Cydraddoldeb Cymwysterau Cyffredinol yn Haf 2023

Dadansoddiad Cydraddoldeb Cymwysterau Cyffredinol yn Haf 2022

Cysylltu

Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru
Y Wasg
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru