Cyflwyniad
Fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau nad ydyn nhw’n raddau yng Nghymru, rydyn ni yma i gynnal hyder bod y cymwysterau rydyn ni’n eu rheoleiddio yn deg, bod modd ymddiried ynddyn nhw a’u bod nhw’n werthfawr yng Nghymru a thu hwnt.
Mae pobl yn aml yn ein holi ni am y system arholiadau a sut mae’n gweithio.
Dyma lle gallwch chi ddysgu mwy am sut mae'r broses arholiadau yn gweithio yng Nghymru.
Ein rôl mewn arholiadau
Mae Cymwysterau Cymru’n monitro ac yn craffu ar y broses gyfan, gan gynnwys gosod papurau, gwaith marcio a dyfarnu graddau.
Cyn i ddyfarniad cymhwyster gael ei gadarnhau, rhaid i'r corff dyfarnu roi gwybod i ni am eu canlyniadau arfaethedig.
Os yw'r canlyniadau cyffredinol yn wahanol i'r hyn y byddem ni’n ei ddisgwyl, rydyn ni’n gofyn i'r corff dyfarnu am esboniad.
Os nad ydyn ni’n fodlon, gallwn ni ofyn i'r corff dyfarnu edrych eto ar y dyfarniad, neu gynnal dadansoddiad ychwanegol i gadarnhau ei ddyfarniad arfaethedig.
Adnoddau
Isod rydyn ni’n edrych yn fwy manwl ar rai o'r pynciau allweddol sy'n ymwneud ag arholiadau gan gynnwys - sut mae papurau’n cael eu gosod, beth sy'n digwydd yn ystod y gwaith marcio a sut mae graddau’n cael eu penderfynu.
Mae modd lawrlwytho’r adnoddau er mwyn eu rhannu’n ehangach neu er mwyn cyfeirio atyn nhw yn y dyfodol.