Cyflwyniad
Os nad wyt ti wedi clywed am Cymwysterau Cymru o'r blaen, rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac eraill, i wneud yn siŵr bod cymwysterau yn bodloni'ch anghenion, ac yn hybu hyder yn y system gymwysterau.
Rydym yn rheoleiddio cyrff dyfarnu sy'n datblygu ac yn darparu'r cymwysterau canlynol yng Nghymru:
Cymwysterau Cenedlaethol 14–16
Mae Cymwysterau Cenedlaethol newydd ar y ffordd i bob person ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru.
Mae Cymwysterau Cenedlaethol yn cynnwys TGAU, yn ogystal â chymwysterau TAAU newydd, cymwysterau Sylfaen a chymwysterau'r Gyfres Sgiliau.
Mae'r TGAU newydd yn cael eu cyflwyno mewn dwy don, un ym mis Medi 2025 a’r llall ym mis Medi 2026. Mae’r TAAU, y cymwysterau Sylfaen, a'r Gyfres Sgiliau yn cael eu cyflwyno ym mis Medi 2027.
Datblygwyd y cymwysterau hyn i adlewyrchu beth mae’r Cwricwlwm i Gymru am ei addysgu i bobl ifanc a sut, ac er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn bodloni anghenion pobl ifanc nawr ac yn y dyfodol.
Dysgwch fwy am y cymwysterau newydd:
Lefelau cymwysterau
Mae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio pob cymhwyster yng Nghymru a gynigir gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig, ar wahân i raddau. Mae'n bwysig i ti wybod pa lefel yw cymhwyster, er mwyn i ti allu deall sut y gall dy helpu gyda'r gamau nesaf i mewn i'r gwaith, neu astudiaethau ymhellach.
Ar draws y DU, mae'r rhan fwyaf o gymwysterau a gymerir yn yr ysgol, coleg addysg bellach, gwaith neu brifysgol yn ffitio i un o naw lefel (12 yn yr Alban). Yr uchaf yw'r lefel, yr anoddaf yw'r cymhwyster. Gall cymwysterau ar yr un lefel fod yn wahanol iawn o ran cynnwys a'r amser maen nhw'n ei gymryd i'w gwblhau.
Mae Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru'n darparu un ffordd gyffredin o fesur yr hyn a gyflawnir wrth ddysgu, gan ddysgwyr o bob oedran a gallu. Mae fframweithiau tebyg ym mhob un o wledydd y DU.
Lefel Nesa
Cer draw i hwb cynnwys Lefel Nesa lle cei gyngor adolygu, canllawiau’n ymwneud â llesiant a gwybodaeth i’th helpu di drwy dymor arholiadau ac asesiadau.
Arholiadau 360
Mae pobl yn aml yn ein holi ni am y system arholiadau a sut mae’n gweithio. Pethau fel, pwy sy’n ysgrifennu fy mhapur arholiad a sut mae graddau arholiadau’n cael eu gosod?
Ar Arholiadau 360, mae modd i ti ddod o hyd i’r atebion i’r cwestiynau hynny ac i ymholiadau cyffredin eraill sy’n gysylltiedig ag arholiadau.
Dod yn Llysgennad Dysgwyr
Un o feysydd allweddol ein gwaith yw llunio cymwysterau sy'n gweddu i anghenion heddiw a’r dyfodol. I’n helpu ni i wneud hyn, rydyn ni wedi sefydlu Panel Dysgwyr sy’n caniatáu i lais y dysgwr gael ei ymgorffori yn ein gwaith.
Mae ein Llysgenhadon Dysgwyr yn grŵp ysbrydoledig o bobl sydd ystod amrywiol ac eang o brofiadau. Rydyn ni bob amser yn chwilio am ddysgwyr newydd i ymuno â’n panel, ac os hoffet ti gymryd rhan mae rhagor o fanylion ar ein tudalennau Panel Dysgwyr.
Mae dod yn Llysgennad Dysgwyr yn gyfle gwych i ti fagu hyder, dweud dy ddweud ar gymwysterau yng Nghymru, ac mae’n rhoi profiad gwerthfawr i ti i’th gefnogi yn y camau nesaf ar dy daith ddysgu neu waith.
Canlyniadau Haf 2024
Cer i'n hadran sydd wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer Canlyniadau Haf 2024.