Beth y dylai ysgolion a cholegau ei wneud os mae arholiadau neu asesiadau yn cael eu hamharu’n ddifrifol

Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau penodol ar gyfer paratoadau ysgol leol a chenedlaethol a chynlluniau wrth gefn yn ogystal â chyngor gan gyrff iechyd cyhoeddus.

Yn berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon 

Diweddarwyd y ddogfen hon ym mis Medi 2023 i gynnwys penderfyniadau terfynol Ofqual ar drefniadau cydnerthedd, a chanllawiau’r Adran Addysg ar gyfer lleoliadau addysg gyda choncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC).  

Yn ogystal â'r canllawiau hyn, bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau penodol ar gyfer paratoadau a chynlluniau wrth gefn lleol a chenedlaethol ar gyfer ysgolion. Dylech hefyd ddilyn cyngor gan gyrff iechyd cyhoeddus perthnasol. 

Cynlluniau wrth gefn 

Mae'n ofynnol i sefydliadau dyfarnu sefydlu, cynnal a chydymffurfio â chynllun wrth gefn ysgrifenedig manwl, i liniaru unrhyw ddigwyddiad maen nhw wedi'i nodi a allai godi. Mae hyn yn cynnwys cael cynlluniau cyfathrebu ar gyfer partïon allanol (Amod Cydnabod Safonol Ofqual A6 – Saesneg yn unig).  Dylai ysgolion a cholegau hefyd fod yn barod ar gyfer amharu posibl ar arholiadau ac asesiadau a sicrhau bod staff yn ymwybodol o'r cynlluniau hyn. 

Amharu ar asesiadau neu arholiadau 

Yn absenoldeb unrhyw gyfarwyddyd gan y sefydliad dyfarnu perthnasol, dylech sicrhau bod unrhyw arholiad neu asesiad wedi'i amserlennu yn cael ei gynnal os yw'n bosibl gwneud hynny. Gall hyn olygu symud i adeilad arall. Dylech drafod trefniadau eraill gyda'ch sefydliad dyfarnu os: 

  • na ellir cynnal yr arholiad neu asesiad 
  • yw myfyriwr yn methu arholiad neu’n colli ei asesiad oherwydd argyfwng, neu ddigwyddiad arall, y tu allan i reolaeth y myfyriwr 

Y camau y dylech eu cymryd 

Cynllunio arholiadau 

Adolygwch eich cynlluniau wrth gefn ymhell cyn pob cyfres arholiadau neu gyfnod asesu. Ystyriwch sut, os rhoddir y cynllun wrth gefn ar waith, y byddwch yn cydymffurfio â gofynion y sefydliad dyfarnu.  

Rhaid i ysgolion, colegau a chanolfannau arholi eraill siarad â'r sefydliadau dyfarnu perthnasol os ydynt yn disgwyl unrhyw amharu a allai effeithio ar y gallu i sefyll arholiadau ac asesiadau.  

Mewn achos o amharu 

  1. Cysylltwch â'r sefydliad dyfarnu perthnasol yn brydlon a dilynwch ei gyfarwyddiadau. 
  2. Cymerwch gyngor, neu dilynwch gyfarwyddiadau, gan asiantaethau lleol neu genedlaethol perthnasol wrth benderfynu a all eich canolfan agor. 
  3. Nodwch a ellir sefyll yr arholiad neu'r asesiad sydd wedi'i amserlennu mewn lleoliad arall, mewn cytundeb â'r sefydliad dyfarnu perthnasol, gan sicrhau bod papurau cwestiynau neu ddeunyddiau asesu'n cael eu cludo'n ddiogel i'r lleoliad arall. 
  4. Os bydd y llefydd yn gyfyngedig, dylid blaenoriaethu'r myfyrwyr y byddai'r oedi hwn yn cael yr effaith fwyaf ar eu cynnydd os na fyddant yn sefyll eu harholiad neu asesiad ar yr amser priodol. 
  5. Os bydd gwacáu yn ystod arholiad, cyfeiriwch at weithdrefn gwacáu mewn argyfwng i Ganolfannau y Cyd-Gyngor Cymwysterau (Saesneg yn unig).  
  6. Cyfathrebwch gyda myfyrwyr, rhieni a gofalwyr am unrhyw newidiadau i'r amserlen arholiadau neu asesu neu i'r lleoliad. 
  7. Cyfathrebwch gydag unrhyw aseswyr allanol, goruchwylwyr neu drydydd parti perthnasol ynghylch unrhyw newidiadau i'r amserlen arholiadau neu asesu. 

Ar ôl yr arholiad 

  1. Ystyriwch a yw gallu unrhyw fyfyrwyr i sefyll yr asesiad neu ddangos lefel eu cyrhaeddiad wedi cael ei effeithio’n sylweddol ac, os felly, gwnewch gais i’r sefydliad dyfarnu am ystyriaeth arbennig. 
  2. Lle bo’n briodol, rhowch wybod i fyfyrwyr am y cyfleoedd i sefyll eu harholiad neu asesiad yn ddiweddarach. 
  3. Sicrhewch fod sgriptiau'n cael eu cadw dan amodau diogel. 
  4. Dychwelwch sgriptiau i’r sefydliad dyfarnu yn unol â'u cyfarwyddiadau. Peidiwch â gwneud trefniadau amgen ar gyfer trosglwyddo sgriptiau arholiad wedi'u cwblhau, oni bai bod y sefydliad dyfarnu yn dweud wrthych am wneud hynny. 

Camau y dylai'r sefydliad dyfarnu eu cymryd 

Cynllunio arholiadau 

  1. Llunio a chynnal cynllun wrth gefn ysgrifenedig cyfredol, a chydymffurfio ag ef bob amser. 
  2. Sicrhau bod y trefniadau sydd ar waith gyda chanolfannau a thrydydd partïon eraill yn eu galluogi i gyflenwi a dyfarnu cymwysterau yn unol â'u hamodau cydnabod. 

Mewn achos o amharu 

  1. Cymryd pob cam rhesymol i liniaru unrhyw effaith andwyol, mewn perthynas â'u cymwysterau, yn deillio o unrhyw amharu. 
  2. Darparu arweiniad effeithiol i unrhyw un o'u canolfannau sy'n darparu cymwysterau. 
  3. Sicrhau, lle mae’n rhaid cwblhau asesiad o dan amodau penodol, bod myfyrwyr yn gallu cwblhau’r asesiad o dan yr amodau hynny (ac eithrio pan fo angen amodau amgen ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol neu ystyriaethau arbennig). 
  4. Hysbysu'r rheoleiddwyr perthnasol yn brydlon am unrhyw ddigwyddiad a allai gael effaith andwyol ar fyfyrwyr, ar safonau neu ar hyder y cyhoedd. 
  5. Cydlynu ei gyfathrebiadau â'r rheoleiddwyr perthnasol lle mae amharu yn effeithio ar fwy nag un canolfan neu ystod eang o ddysgwyr. 

Ar ôl yr arholiad 

Ystyried unrhyw geisiadau am ystyriaeth arbennig ar gyfer myfyrwyr yr effeithir arnynt; er enghraifft, y rhai a allai fod wedi colli eu gwaith a aseswyd yn fewnol neu y gallai'r amhariad fod wedi effeithio ar eu perfformiad mewn asesiadau neu arholiadau. 

Os bydd unrhyw fyfyrwyr yn methu’r arholiad neu o dan anfantais oherwydd amhariad 

Os caiff yr amhariad effaith andwyol ar rai myfyrwyr, dylech ofyn i'r sefydliad dyfarnu wneud cais am ystyriaeth arbennig 

Mater i bob sefydliad dyfarnu yw penderfynu a yw ystyriaeth arbennig yn briodol neu'n amhriodol. Gall eu penderfyniadau fod yn wahanol ar gyfer gwahanol gymwysterau ac ar gyfer gwahanol bynciau. 

Gweler hefyd ganllawiau’r Cyd-Gyngor Cymwysterau ar ystyriaeth arbennig (Saesneg yn unig). 

Cyfathrebu ehangach 

Bydd y rheoleiddwyr Ofqual yn Lloegr, Cymwysterau Cymru yng Nghymru a’r CCEA yng Ngogledd Iwerddon, yn rhannu gwybodaeth amserol a chywir, yn ôl yr angen, gyda sefydliadau dyfarnu, adrannau'r llywodraeth a rhanddeiliaid eraill. 

Bydd yr Adran Addysg yn Lloegr, yr Adran Addysg yng Ngogledd Iwerddon, a Llywodraeth Cymru yn hysbysu’r gweinidogion llywodraeth perthnasol cyn gynted ag y daw’n amlwg y bydd amharu lleol neu genedlaethol sylweddol ac yn sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf nes bod y mater wedi'i ddatrys. 

Bydd sefydliadau dyfarnu yn rhoi gwybod i Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS) a'r Swyddfa Ceisiadau Canolog (CAO) am unrhyw effaith yr amhariad ar eu dyddiadau cau ac yn cysylltu ynghylch dilyniant myfyrwyr i addysg bellach ac uwch. 

Bydd sefydliadau dyfarnu yn rhoi gwybod i gyrff proffesiynol perthnasol neu grwpiau cyflogwyr perthnasol os bydd yr amhariad yn effeithio arnynt yn benodol.  

Amhariad cenedlaethol eang ar sefyll arholiadau neu asesiadau 

Gan fod addysg wedi’i datganoli, os bydd unrhyw amhariad cenedlaethol parhaus eang ar arholiadau neu asesiadau, bydd adrannau'r llywodraeth genedlaethol yn cyfathrebu â rheoleiddwyr, sefydliadau dyfarnu a chanolfannau cyn cyhoeddiad cyhoeddus. Bydd rheoleiddwyr yn rhoi cyngor i adrannau'r llywodraeth ar y goblygiadau ar gyfer arholiadau ac asesiadau, gan gynnwys amserlenni arholiadau. 

Ym mis Medi 2023, cyhoeddodd Ofqual a'r Adran Addysg benderfyniadau ymgynghori ar y cyd ar drefniadau cydnerthedd hirdymor (Saesneg yn unig). Fel yn 2023, mae Ofqual wedi darparu canllawiau ar gasglu tystiolaeth o berfformiad myfyrwyr i sicrhau cydnerthedd yn y system gymwysterau ar gyfer myfyrwyr sy'n sefyll arholiadau TGAU, UG a Safon Uwch, y Dyfarniad Uwch Estynedig a’r Cymwysterau Prosiect. Ar gyfer cymwysterau galwedigaethol a thechnegol (VTQ) a chymwysterau eraill a ddefnyddir ochr yn ochr â neu yn lle cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, bydd sefydliadau dyfarnu yn darparu arweiniad lle bo angen a byddant yn cysylltu ag ysgolion a cholegau gyda rhagor o wybodaeth.   

Ym mis Rhagfyr 2022, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ganllawiau ar gyfer trefniadau asesu wrth gefn ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a’r Tystysgrifau Her Sgiliau pe bai penderfyniad cenedlaethol yn cael ei wneud i ganslo arholiadau. Mae'r Adran Addysg wedi diweddaru ei chanllawiau ar ymdrin â streic mewn ysgolion yn Lloegr yng ngoleuni’r gweithredu diwydiannol yn 2023. Mae’r canllawiau’n argymell y dylai ysgolion roi blaenoriaeth i gynnal arholiadau ac asesiadau ar unrhyw ddiwrnodau streic, ac y dylent adolygu eu cynlluniau wrth gefn i wneud i hyn ddigwydd. Rhaid i ysgolion, colegau a chanolfannau arholi eraill siarad â'r sefydliadau dyfarnu perthnasol os ydynt yn disgwyl unrhyw amharu a allai effeithio ar y gallu i sefyll arholiadau ac asesiadau.  

Mae'r Adran Addysg hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer lleoliadau addysg gyda choncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) yn eu hadeiladau. Mae'n cynnwys yr angen am gynlluniau wrth gefn ar gyfer amharu posibl ar arholiadau ac mae’n gysylltiedig â'r canllawiau cynllunio at argyfwng presennol.   

Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon yn ôl yr angen, gydag unrhyw ddolenni perthnasol pellach, os bydd amharu cenedlaethol. 

 

Canllawiau cyffredinol wrth gefn. 

  • canllawiau'r heddlu gan y Swyddfa Diogelwch Gwrthderfysgaeth Genedlaethol a phartneriaid ar baratoi ar gyfer bygythiadau