Cyflwyniad
Os ydych chi’n ysgol neu’n goleg yng Nghymru, yn ddarparwr dysgu seiliedig ar waith neu unrhyw fath arall o ddarparwr dysgu, rydyn ni yma i’ch cefnogi chi a’ch dysgwyr wrth iddyn nhw geisio ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen mewn gwaith, bywyd neu addysg.
Trefniadau Arholiadau 2022-23
Bydd arholiadau ac asesiadau ffurfiol yn digwydd eto ym mlwyddyn academaidd 2022-23. Yn ystod yr haf, bydd arholiadau’n cael eu cynnal ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, ac ar gyfer rhai cymwysterau galwedigaethol. Bydd asesiadau ymarferol ac asesiadau di-arholiad eraill hefyd yn cael eu cynnal.
Cafodd cymwysterau eu haddasu'r llynedd er mwyn mynd i'r afael â'r tarfu ar addysg oherwydd y pandemig. Er na fydd yr addasiadau hynny yn parhau yn y flwyddyn academaidd hon, bydd gwybodaeth ymlaen llaw yn cael ei darparu er mwyn cefnogi dysgwyr ar y daith yn ôl tuag at y trefniadau asesu oedd yn cael eu defnyddio cyn y pandemig.
Byddwn ni'n monitro sut mae ffiniau graddau yn cael eu pennu gan CBAC ar gyfer pob arholiad o fewn y gyfres hon er mwyn gwneud yn siŵr bod y safonau'n briodol ac yn ystyried ein penderfyniad polisi ynghylch graddio ar gyfer haf 2023.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n hadran sydd wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer trosolwg o'r trefniadau.
Canllawiau: cynlluniau wrth gefn i'ch galluogi i gynnal cyfres o arholiadau yn rhwydd
Mae'n bwysig cael cynlluniau wrth gefn ar waith i'ch galluogi i gynnal yr arholiadau yn ddidrafferth, beth bynnag yw'r heriau.
Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau penodol ar gyfer paratoadau ysgol leol a chenedlaethol a chynlluniau wrth gefn yn ogystal â chyngor gan gyrff iechyd cyhoeddus.
Cynllunio wrth gefn
O ystyried digwyddiadau’r blynyddoedd diwethaf, rydyn ni’n gwybod bod siawns fach y gallai fod angen trefniadau amgen eto yn y dyfodol.
Felly, dylai canolfannau sydd â dysgwyr sy’n astudio ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch baratoi ar gyfer y posibilrwydd o roi trefniadau wrth gefn ar waith, drwy gynllunio pa asesiadau y byddan nhw’n eu defnyddio i gyfrannu at raddau wedi’u pennu gan y ganolfan, pe bai eu hangen.
Rydyn ni wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar gynllunio ar gyfer argyfyngau.
Cyfres mis Tachwedd
Roedd pedwar TGAU yn cael eu hasesu ym mis Tachwedd 2022; Saesneg Iaith, Mathemateg – Rhifedd, Mathemateg, a Chymraeg Iaith. Nid oedd unrhyw gyfyngiadau ar bwy allai gael eu cofrestru ar gyfer yr arholiadau hyn.
Mae data cofrestru dros dro a gaiff ei gasglu gan CBAC yn rhoi syniad cynnar i ni o'r patrymau cofrestru ar gyfer pob cyfres arholi. Rydyn ni’n defnyddio'r data yma i helpu i gynllunio ein dull o oruchwylio'r dyfarniadau ac i ddehongli'r canlyniadau. Gallwch chi ddarllen ein hadroddiad ar ddata cofrestriadau dros dro yma.
Lefel Nesa
Mae Cymwysterau Cymru’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill ar Lefel Nesa, ymgyrch genedlaethol sy’n cynnig cyngor, awgrymiadau a gwybodaeth i helpu’ch dysgwyr yn ystod tymor arholiadau ac asesiadau 2022-23 ac ar gyfer y cam nesaf yn eu bywydau.
Goruchwylio arholiadau
Mae arholiadau yn ddarn pwysig o'r jig-so cymwysterau ac mae'n rhaid i bob canolfan ddarparu'r hyfforddiant cywir i oruchwylwyr.
Mae ein fideos canllaw goruchwylio wedi eu creu i gefnogi swyddogion arholiad, fel rhan o'u sesiynau hyfforddi ar gyfer goruchwylwyr.
Diogelwch arholiadau
Mae ysgolion a cholegau’n chwarae rhan allweddol wrth gynnal diogelwch papurau arholiadau ac mae'n bwysig bod eich staff yn dilyn y rheolau sydd wedi’u gosod gan y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ) ar gyfer diogelwch papurau a chynnal arholiadau. Mae'r wybodaeth hon ar gael yn yr adran Cyfarwyddiadau ar gynnal arholiadau (Instructions for conducting examinations) ar wefan y JCQ. Mae gan wefan CBAC hefyd ganllawiau defnyddiol ar beth i'w wneud os oes amheuaeth bod diogelwch wedi’i danseilio.
Mae gan CBAC ganllawiau ynglŷn â chynllunio wrth gefn sy'n darparu gwybodaeth am beth i'w wneud os bydd tarfu ar arholiadau mewn unrhyw ffordd. Rydyn ni’n eich cynghori chi i ymgyfarwyddo â chanllawiau CBAC a JCQ ac i sicrhau bod cynlluniau wrth gefn yn gyfredol ac yn addas i'r diben.
Arholiadau 360
Mae pobl yn aml yn ein holi ni am y system arholiadau a sut mae’n gweithio, ac rydyn ni’n siŵr bod yr un peth yn wir amdanoch chithau hefyd. Pethau fel, pwy sy’n ysgrifennu’r papur arholiad a sut mae graddau arholiadau’n cael eu gosod?
Ar Arholiadau 360, mae modd i chi ddod o hyd i’r atebion i’r cwestiynau hynny ac i ymholiadau cyffredin eraill sy’n gysylltiedig ag arholiadau, y gallai eich dysgwyr neu’ch ymarferwyr ofyn i chi.
Cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru
Mae ein cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru (QiW) yn cynnwys manylion yr holl gymwysterau sy'n cael eu cymeradwyo neu eu dynodi ar gyfer eu haddysgu yng Nghymru ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed - ac eithrio addysg uwch.
Mae'r wybodaeth sy’n cael ei chadw ar QiW yn cynnwys teitlau cymwysterau, niferoedd, dyddiadau dechrau a gorffen, manylion cyrff dyfarnu a gwybodaeth bellach - fel mesurau perfformiad ac a yw'r cymhwyster yn cyfrif fel dewis ar gyfer llwybrau dysgu 14-19.
Tîm Ymgysylltu Strategol
Mae ein Tîm Ymgysylltu Strategol yn cynnal perthynas agos gyda swyddogion arholiadau, athrawon, darlithwyr ac uwch arweinwyr. Mae’r tîm yn datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth canolfannau o gymwysterau a’r system arholiadau.
Mae ganddyn nhw rôl allweddol yn cefnogi swyddogion arholiadau i sicrhau bod arholiadau ac asesiadau a gaiff eu marcio'n allanol yn cael eu gweinyddu’n gywir, yn effeithlon ac yn ddiogel.
Mae'r tîm yn ymweld â chanolfannau’n rheolaidd - yn bersonol ac yn rhithwir - ac maen nhw’n gyfrifol am ddarparu gwybodaeth glir a chryno ac arweiniad a chyngor ymarferol wyneb yn wyneb.
Gallwch gysylltu â’r tîm ar TimYS@cymwysterau.cymru
Gohebiaeth
Drwy gydol y flwyddyn academaidd, rydyn ni’n anfon llythyrau at ganolfannau yn amlinellu gwybodaeth a diweddariadau pwysig.
Os nad ydych chi eisoes yn derbyn y rhain, cysylltwch â'n tîm cyfathrebu ar cyfathrebu@cymwysterau.cymru
TGAU Gwneud-i-Gymru
Fel y gwyddoch, o bosibl, rydyn ni wedi lansio sgwrs genedlaethol i roi cyfle i bobl Cymru Ddweud Eich Dweud ar gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru y dyfodol.
Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos gydag athrawon, arbenigwyr pwnc a llawer o bobl eraill i gyd-greu cynigion ar gyfer dylunio, cynnwys ac asesu set newydd sbon o gymwysterau TGAU.
Rydyn ni am wneud yn siŵr y bydd y cymwysterau newydd hyn yn helpu eich canolfan chi i sicrhau llwyddiant y Cwricwlwm i Gymru ac i baratoi dysgwyr ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith.
Diolch yn fawr iawn i'r holl ganolfannau a ymatebodd i'r holiaduron i'r ymgynghoriad. Rydyn ni nawr yn dadansoddi’r holl ymatebion rydyn ni wedi’u derbyn.
Byddwn ni’n cyhoeddi ein dadansoddiad ar draws pob maes dysgu a phrofiad yn ddiweddarach yn 2023.
Cymryd rhan
Mae Cymwysterau Cymru eisiau i ymarferwyr o bob rhan o addysg Cymru helpu i sicrhau ein bod ni’n creu system gymwysterau sy’n wirioneddol addas ar gyfer yr 21ain ganrif.
O bryd i'w gilydd, rydyn ni’n recriwtio unigolion i'n helpu gyda'r gwaith hwnnw -cadwch lygad ar ein hadran swyddi a chyfleoedd os oes gennych chi ddiddordeb a gwnewch yn siŵr bod eich staff a’ch llywodraethwyr yn cofrestru ar gyfer ein cylchlythyrau misol.
Rydyn ni hefyd yn cynnal ymgynghoriadau, arolygon, a sesiynau cynnwys rheolaidd. Edrychwch ar ein safle Dweud Eich Dweud am ragor o fanylion am sut gall eich canolfan chi gymryd rhan.