Cyflwyniad
Mae cymwysterau galwedigaethol yn cyfrif am gyfran fawr o’r cymwysterau a gaiff eu dilyn yng Nghymru ac mae ystod eang ar gael mewn ysgolion, colegau a lleoliadau dysgu seiliedig ar waith.
Dylai cymwysterau galwedigaethol adlewyrchu anghenion cyflogwyr p'un a ydyn nhw’n arwain at waith neu at y cam dysgu nesaf. Maen nhw ar gael ar Lefelau 1, 2 a 3.
Mae angen gwahanol ddulliau asesu ar gyfer gwahanol fathau o gymwysterau galwedigaethol i adlewyrchu eu natur a'u pwrpas.
Ymgymryd â chymwysterau galwedigaethol
Mae cymwysterau galwedigaethol yn cael eu dilyn gan ddysgwyr o wahanol oed, ar gyfnodau gwahanol ac mewn amrywiaeth o leoliadau.
Mewn ysgolion:
- lle mae dysgwyr rhwng 14-16 oed yn dilyn cymwysterau galwedigaethol cychwynnol ochr yn ochr â chymwysterau TGAU mwy traddodiadol
- mae opsiynau galwedigaethol weithiau hefyd yn gymwysterau TGAU
- weithiau maen nhw’n gymwysterau eraill fel BTEC
- maen nhw’n rhoi cyflwyniad i feysydd gwaith - ond dydyn nhw ddim yn gofyn am asesu cymhwysedd
- Lefel 1 a Lefel 2 yw’r cymwysterau hyn yn bennaf
- yn aml maen nhw’n cael eu dilyn ochr yn ochr â Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol neu Sylfaen
Mewn colegau addysg bellach:
- lle mae dysgwyr 16-19 oed yn dilyn rhaglenni dysgu llawn amser sy'n arwain at un neu ragor o gymwysterau galwedigaethol ar Lefelau 1, 2 neu 3
- gall dysgwyr naill ai fod yn ceisio symud ymlaen i addysg uwch neu'n syth i waith
- yn aml maen nhw’n cael eu dilyn ochr yn ochr â Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol neu Sylfaen a/neu Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch (ar gael o fis Medi 2023)
Mewn hyfforddeiaethau:
- maen nhw’n cael eu darparu trwy ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith, lle mae dysgwyr 16-18 oed yn dilyn cymwysterau galwedigaethol a chymwysterau eraill ar raglenni sy’n cyfuno dysgu â phrofiad gwaith
- Lefel 1 a Lefel 2 yw’r cymwysterau hyn fel arfer
- er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i brentisiaeth neu waith
Mewn prentisiaethau:
- maen nhw’n cael eu darparu trwy ddysgu seiliedig ar waith, lle mae dysgwyr 16+ oed yn cael eu cyflogi fel prentisiaid ond hefyd yn cwblhau rhaglen ddysgu ac asesiadau - ar Lefel 2 neu Lefel 3
- mae yna hefyd brentisiaethau lefel uwch ar gyfer dysgwyr hŷn
Yn y gwaith:
- lle mae dysgwyr 18+ oed yn ymgymryd â dysgu sy'n arwain at gymwysterau, i wella eu gwybodaeth a'u sgiliau i gefnogi eu dilyniant o fewn, neu y tu hwnt i'w swydd bresennol
- Bydd dysgwyr yn aml yn gweithio tuag at gydnabyddiaeth broffesiynol neu statws o fewn eu swydd bresennol neu eu swydd yn y dyfodol
- gallai’r dysgu gael ei ddatblygu ‘yn y gwaith’ a/neu gan ddarparwr dysgu o unrhyw ddisgrifiad
Mae cymwysterau galwedigaethol hefyd yn cael eu dilyn gan oedolion, nad ydyn nhw mewn swydd, i wella’u cyfle o gael gwaith.
Gwneud-i-Gymru
Rydyn ni’n cydnabod bod gan Gymru nodweddion unigryw sydd angen eu hystyried yn ofalus yn ein holl waith, gan gynnwys:
- cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru
- yr angen am gynnig gweithredol o gymwysterau dwyieithog
- sefydlogrwydd yn yr amrywiaeth o gymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr - yn enwedig o ystyried newidiadau polisi mewn mannau eraill yn y DU
- galw am amrywiaeth eang o gymwysterau galwedigaethol - gan gynnwys llawer sydd â nifer isel o ddysgwyr
- gofynion deddfwriaethol ar wahân mewn materion sydd wedi’u datganoli
Dyna pam mae yna rai pynciau sydd wedi eu llunio’n benodol ar gyfer dysgwyr yng Nghymru.
Ond mae yna bynciau sydd wedi'u llunio ar gyfer Lloegr sydd hefyd ar gael yng Nghymru pan nad oes fersiwn sy’n benodol i Gymru ar gael yn barod.
Cyfeirir at y rhai hynny sydd wedi eu llunio ar gyfer Cymru fel cymwysterau cymeradwy.
Cyfeirir at y rhai sydd wedi'u cynllunio ar gyfer gwledydd eraill y DU sydd hefyd ar gael yng Nghymru fel cymwysterau dynodedig.