Cyflwyniad
Rhaid i Cymwysterau Cymru sicrhau bod cymwysterau a gaiff eu dyfarnu gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig yn bodloni anghenion dysgwyr yng Nghymru a bod gan y cyhoedd hyder ynddyn nhw.
Mae’r gwaith yma’n cynnwys sicrhau bod cymwysterau’n bodloni unrhyw feini prawf rydyn ni’n eu gosod, eu bod nhw’n ddilys, yn ddibynadwy ac yn addas i'r diben a bod modd eu cymharu â chymwysterau mewn mannau eraill.
Mae ein cynllun strategol ar gyfer cymwysterau cyffredinol yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer rheoleiddio cymwysterau TGAU, Safon Uwch a Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru.
Dros y blynyddoedd nesaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar y canlynol:
- sicrhau safonau
- gwerthuso newid
- gwella dealltwriaeth y cyhoedd
- cynyddu nifer y cymwysterau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
- mabwysiadu dull graddol o gyflwyno newidiadau yn y dyfodol
Nododd y cynllun hefyd yr heriau allweddol y byddwn ni’n eu hwynebu wrth gyflawni'r nodau rydyn ni wedi'u gosod ym mhob un o'r meysydd ffocws hyn.
TGAU
Mae TGAU - Tystysgrifau Cyffredinol Addysg Uwchradd - ar gael mewn ystod eang o bynciau. Dyma’r prif gymwysterau cyffredinol sy'n cael eu cymryd gan ddysgwyr 16 oed yng Nghymru.
Mae modd defnyddio'r cymwysterau hyn fel sail ar gyfer astudiaeth bellach neu hyfforddiant, neu fynd yn syth i waith.
Mae cymwysterau TGAU ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon o'r un maint a thrylwyredd - gyda rhai gwahaniaethau allweddol.
Yng Nghymru:
- mae graddau’n parhau i fod rhwng A* ac G
- mae rhai cymwysterau TGAU yn llinol - gyda phob arholiad yn cael ei sefyll ar ddiwedd y cwrs - ac eraill yn fodiwlaidd.
- rhaid i fyfyrwyr ailsefyll pob un o’u harholiadau os ydyn nhw’n ailsefyll cymhwyster TGAU llinol - mae modd ailddefnyddio marciau asesiadau di-arholiad
- dim ond unwaith mae myfyrwyr yn gallu ailsefyll pob uned mewn cymhwyster TGAU modiwlaidd
Yn Lloegr:
- mae graddau rhwng 9 ac 1 (gyda 9 y radd uchaf)
- caiff pob arholiad ei sefyll ar ddiwedd y cwrs (cymwysterau llinol)
- rhaid i fyfyrwyr ailsefyll pob un o’u harholiadau os ydyn nhw’n ailsefyll cymhwyster TGAU llinol - gellir cario marciau asesu di-arholiad yn eu blaenau
Yng Ngogledd Iwerddon:
- yn gyffredinol gall myfyrwyr gymryd TGAU graddau A* i G (gan gynnwys gradd C* newydd) a’r rhai â graddau 9 i 1
Caiff y gymhariaeth rhwng y system raddio A*-G a 9-1 ei dangos yma.
Cymerwch olwg ar ddelwedd o'r newidiadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, neu darllenwch esboniad manwl o'r newidiadau.
Safon UG a Safon Uwch
Safon Uwch Gyfrannol (UG) a Safon Uwch yw'r prif gymwysterau cyffredinol ar Lefel 3 ac fel arfer maen nhw’n cael eu cymryd rhwng 16 ac 19 oed.
Maen nhw’n cael eu defnyddio fel sail ar gyfer derbyn myfyrwyr i addysg uwch, hyfforddiant pellach neu i gael gwaith.
Mae lefelau A ar draws Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr o'r un maint, trylwyredd a hygludedd - gyda rhai gwahaniaethau allweddol.
Yng Nghymru, mae cymwysterau Safon Uwch:
- yn cynnwys unedau UG ac U2
- Mae UG yn gymhwyster annibynnol sydd hefyd yn cyfrannu 40% tuag at y Safon Uwch llawn
- yn rhannu'r un cynnwys â Safon Uwch yn Lloegr - ond â phersbectif Cymreig lle y bo'n briodol
- yn defnyddio asesiadau ymarferol neu ddi-arholiad pan fyddan nhw’n asesu rhan bwysig o'r pwnc - ac mae’r asesiadau hyn yn cyfrannu tuag at y radd derfynol
- dim ond unwaith y mae modd ailsefyll unedau unigol
- mae modd sefyll arholiadau UG ar ddiwedd y cwrs UG neu’r un pryd â rhai U2.
Cymerwch olwg ar ddelwedd o'r newidiadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, neu darllenwch esboniad mwy manwl o'r newidiadau.
Cymwysterau Cenedlaethol 14–16
Gyda chyflwyniad y Cymwysterau Cenedlaethol, bydd cymwysterau TGAU newydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2025 a mis Medi 2026.
Cewch ddysgu mwy am y pynciau newydd a'r amserlen i’w cyflwyno yma.
Mae’r cymwysterau newydd hyn wedi'u dylunio'n benodol ar gyfer dysgwyr yng Nghymru, a byddan nhw’n disodli'r holl gymwysterau TGAU cymeradwy a dynodedig sydd ar gael i ddysgwyr ar hyn o bryd. Y rhain fydd y mwyafrif o gymwysterau TGAU a fydd ar gael ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru.
Gallwch ddysgu mwy am ein dull o ddynodi cymwysterau 14–16 yma.