Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau a’u rhoi ar waith mewn cyd-destunau perthnasol i baratoi ar gyfer cyflogaeth, dysgu gydol oes a dinasyddiaeth weithgar.

Mae'r cymhwyster yn datblygu'r pedwar sgìl cyfannol a amlinellir yn y Cwricwlwm i Gymru:

  • meddwl  yn feirniadol a datrys problemau
  • creadigrwydd ac arloesi
  • cynllunio a threfnu
  • effeithiolrwydd personol

Cymhwyster Lefel 3 yw hwn sy’n cael ei gymryd yn bennaf gan ddysgwyr 16-19 oed sy'n dilyn rhaglenni astudio Lefel 3, fel Safon Uwch.

Cynnwys y cymhwyster

Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn cynnig profiadau dysgu gwirioneddol, dilys. Mae pwyslais ar ddysgu y tu mewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth, yn ogystal â ffocws ar ddatblygu dysgu annibynnol.

Mae dysgwyr yn cael eu hannog i arfer ymreolaeth a dewis meysydd astudio sydd o ddiddordeb personol iddynt ac sy'n gysylltiedig â'u hastudiaethau a'u gyrfaoedd yn y dyfodol. Nid yw dysgwyr yn cael eu hasesu'n uniongyrchol ar eu gwybodaeth am y meysydd astudio hyn, ond yn hytrach ar sut maen nhw’n rhoi’r pedwar sgìl cyfannol ar waith. Mae'r cymhwyster hefyd yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.

Mae'r cymhwyster wedi'i rannu'n dair cydran orfodol:

Cydran Disgrifiad Pwysoli
Cydran 1: Prosiect Cymuned Fyd-eang Bydd dysgwyr yn datblygu’r Sgiliau Cyfannol ac yn arddangos sut maent yn eu rhoi ar waith wrth ystyried materion byd-eang cymhleth a chyfranogi mewn gweithgareddau cymunedol lleol (o leiaf 15 awr) i hyrwyddo dinasyddiaeth mewn byd cynaliadwy ac yng Nghymru. 25%
Cydran 2: Prosiect Cyrchfannau'r Dyfodol Bydd dysgwyr yn datblygu’r Sgiliau Cyfannol ac yn arddangos sut maent yn eu rhoi ar waith wrth archwilio nodau cyrchfannau’r dyfodol ar gyfer bywyd, cyflogadwyedd a dinasyddiaeth mewn byd cynaliadwy ac yng Nghymru. 25%
Cydran 3: Prosiect Unigol Bydd dysgwyr yn datblygu’r Sgiliau Cyfannol ac yn arddangos sut maent yn eu rhoi ar waith wrth gynllunio, rheoli a chynnal prosiect ymchwil annibynnol (prosiect ysgrifenedig estynedig neu arteffact). 50%

 

Graddio cymwysterau

Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch wedi'i graddio rhwng A* ac E.

Nid yw'n ofynnol i ddysgwyr basio pob cydran i ennill gradd cymhwyster, a chaniateir iddynt ailsefyll unwaith ar gyfer pob cydran.

Dilyniant cymwysterau

Bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch o gymwysterau sy'n asesu'r pedwar sgìl cyfannol ar Lefel 2.

Dyma'r Dystysgrif Her Sgiliau ar hyn o bryd.

O fis Medi 2027 ymlaen, bydd y Dystysgrif Her Sgiliau yn cael ei disodli gan y Gyfres Sgiliau Cymwysterau Cenedlaethol, sy'n cynnwys Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith, Sgiliau Bywyd a Gwaith, a'r Prosiect Personol.

Symud ymlaen i astudio yn y brifysgol

Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn cario'r un pwyntiau UCAS â Safon Uwch ac mae’n cael ei chydnabod gan brifysgolion ledled y DU ac yn fyd-eang fel cymhwyster cyfatebol i Safon Uwch.

Mae'r cymhwyster yn ofyniad mynediad derbyniol yn y prifysgolion y mae mwyafrif y myfyrwyr yng Nghymru yn eu mynychu.

Dogfennau’n ymwneud â’r cymhwyster

Caiff Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ei darparu gan CBAC, a ddatblygodd y cymhwyster ar y cyd â rhanddeiliaid.

Gelli di ddod o hyd i'r holl ddogfennau ategol perthnasol ar wefan y corff dyfarnu, gan gynnwys y fanyleb, adnoddau ategol, a dysgu proffesiynol ar alw sydd wedi ei drefnu i athrawon.

Mae dogfennau ategol a manylion pellach am Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ar gael ar wefan CBAC.