Mae Cymwysterau’r Gyfres Sgiliau yn gymwysterau lefel mynediad, lefel 1 a lefel 2, sydd fel arfer yn cael eu hastudio gan ddysgwyr rhwng 14 ac 16 oed. Maen nhw wedi'u datblygu i fodloni anghenion penodol dysgwyr yng Nghymru.
Mae'r Gyfres Sgiliau yn set eang ac addasadwy o gymwysterau sgiliau sydd ar gael fel rhan o'r Cymwysterau Cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed yng Nghymru. Maen nhw’n galluogi dysgwyr i greu eu llwybr dysgu eu hunain i ddatblygu sgiliau gwaith a bywyd effeithiol a pherthnasol.
Mae'r gyfres yn cynnwys:
Sgiliau Bywyd
Sgiliau Gwaith
Sgiliau Bywyd a Gwaith
y Project Personol
Byddan nhw’n cael eu haddysgu am y tro cyntaf mewn ysgolion a cholegau o fis Medi 2027.
Bydd y cymwysterau hyn yn cael eu cyflwyno gan un neu fwy o'r cyrff dyfarnu canlynol, yn amodol ar gymeradwyaeth manyleb:
Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith, a Sgiliau Bywyd a Gwaith
Mae o leiaf 28 o bynciau Sgiliau Bywyd ac 19 o bynciau Sgiliau Gwaith (yn dibynnu ar y corff dyfarnu), sy’n galluogi pob math o ddysgwyr i ddatblygu sgiliau mewn meysydd maen nhw wedi dweud wrthym yr hoffen nhw eu harchwilio. Yn ogystal â'r pynciau a restrir isod, efallai bydd gwahanol gyrff dyfarnu'n cynnig uned ieithoedd rhyngwladol ar gyfer Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith, yn ogystal â hyd at dair uned ychwanegol o'u dewis.
Mae pob pwnc yn cael ei addysgu a'i asesu fel uned annibynnol, gryno, a gall dysgwyr ddewis a dethol unedau i greu llwybr dysgu sy'n addas i'w cryfder au, eu diddordebau a'u dyheadau o ran dilyniant.
Gall dysgwyr ddilyn cyfuniad o unedau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith ochr yn ochr â’u cymwysterau TGAU, TAAU a/neu Sylfaen er mwyn cyflawni:
Dyfarniad (60 oriau dysgu dan arweiniad)
Tystysgrif (120 oriau dysgu dan arweiniad)
Diploma (240 oriau dysgu dan arweiniad)
Bydd y lefel a gyflawnir yn cael ei phennu gan y cyfuniad o unedau a ddilynir gan bob dysgwr. Er enghraifft, os bydd y dysgwr yn cyflawni dyfarniad, gyda 20 o ODDA (oriau dysgu dan arweiniad) ar lefel 1 a 40 GLH ar lefel 2, bydd yn sicrhau cymhwyster lefel 2 yn gyffredinol.
Bydd dysgwyr nad ydyn nhw wedi cronni digon o unedau i allu hawlio cymhwyster yn gallu hawlio ardystiad uned.
Celf a Chrefft
Cerddoriaeth, Dawns a Drama
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Cyfranogiad Cymunedol
Cymorth Cyntaf Sylfaenol
Cynaliadwyedd Ar Waith
Cynllunio a Pharatoi Bwyd
Deall Eich Hun ac Eraill
Democratiaeth Ar Waith
Dewisiadau Moesegol
Diogelwch Ar-Lein
Diogelwch Personol
Ffilm a Chyfryngau Digidol
Ffordd Iach o Fyw
Ffydd a Chred yn y Gymuned
Garddio Ymarferol
Gofalu am Eraill
Gwaith Tîm
Gwerthoedd ar Gyfer Bywyd
Gwyddoniaeth aThechnoleg mewn Bywyd Bob Dydd
Iaith Arwyddion Prydain
Iechyd Meddwl a Lles
Llythrennedd Ariannol
Perthnasoedd Iach
Rheoli a Chynnal a Chadw Cartref
Sgiliau yn yr Amgylchedd Naturiol
Y Gyfraith Bob Dydd
Ymarfer Corff i Bawb
Archwilio Llwybrau Gyrfa
Creadigrwydd Gyrfa
Cyllid Busnes
Cynllunio Datblygiad Personol
Datblygu Economaidd Cynaliadwy
Deall y Farchnad Swyddi Sy'n Newid
Defnyddio TG yn y Gweithle
Goresgyn Rhwystrau
Gwasanaeth Cwsmeriaid
Gweithio yng Nghymru
Gwneud Cais am Swyddi
Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle
Lles a Gwaith
Meithrin Meddylfryd Twf
Menter
Profiad Gwaith
Swyddi'r Dyfodol
Technegau Cyfweld a Hyder
Tegwch a Chynhwysiant yn y Gweithle
Y Project Personol
Mae’r Project Personol yn broject ar ei ben ei hun a gwblheir yn annibynnol gan ddysgwyr ar bwnc o’u dewis, sy’n eu galluogi nhw i ddatblygu eu sgiliau wrth archwilio pwnc maen nhw’n angerddol amdano.
Mae dysgwyr yn gallu dangos eu hyfedredd yn y sgiliau hyn trwy amrywiaeth eang o fathau o dystiolaeth.
Beth yw manteision allweddol y Gyfres Sgiliau?
Yn ogystal â galluogi dysgwyr i greu cymwysterau sy’n gweddu i’w hanghenion, diddordebau a dyheadau, mae’r Gyfres Sgiliau hefyd:
ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg
yn bodloni nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru
yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau gyda phwyslais ar ddulliau ymarferol
yn hyrwyddo profiadau dysgu cadarnhaol
yn adlewyrchu amrywiaeth y dysgwyr a'r byd maen nhw'n byw ynddo
yn cefnogi iechyd meddwl a lles cadarnhaol
yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i hyfforddiant neu addysg ôl-16
â system raddio gyson
Strwythur graddau’r Gyfres Sgiliau
Y strwythur graddio ar gyfer cymwysterau Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith a Sgiliau Bywyd a Gwaith yw:
Lefel 2: Llwyddo
Lefel 1: Llwyddo
Lefel Mynediad 3: Llwyddo
Lefel Mynediad 2: Llwyddo
Lefel Mynediad 1: Llwyddo
Y strwythur graddio ar gyfer y Project Personol yw:
Lefel 2: Rhagoriaeth, Teilyngdod, Llwyddo
Lefel 1: Rhagoriaeth, Teilyngdod, Llwyddo
Lefel Mynediad 3: Llwyddo
Lefel Mynediad 2: Llwyddo
Lefel Mynediad 1: Llwyddo
Llwybrau cynnydd o'r Gyfres Sgiliau
Gan fod y Gyfres Sgiliau ar gael ar lefel mynediad, lefel 1 a lefel 2, mae'r cymwysterau wedi'u cynllunio i weithio i bob dysgwr a gellir eu dilyn ochr yn ochr â TGAU, TAAU a/neu gymwysterau Sylfaen.
Felly, gall dysgwyr sy'n dilyn y cymwysterau hyn symud ymlaen i astudiaeth academaidd neu alwedigaethol ôl-16, naill ai yn yr ysgol, mewn sefydliad addysg bellach, yn y brifysgol neu fel rhan o'u dysgu seiliedig ar waith. Bydd rhai yn dewis mynd yn syth i gyflogaeth.
Cymorth ac adnoddau
Mae pob corff dyfarnu wedi sicrhau bod deunyddiau asesu enghreifftiol ar gael er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno eu cymwysterau Cyfres Sgiliau.
Mae adnoddau a chanllawiau ychwanegol, megis cynlluniau gwaith, taflenni gwaith a digwyddiadau dysgu proffesiynol, hefyd yn aml yn cael eu darparu gan gyrff dyfarnu.
Bydd adnoddau a hyfforddiant ychwanegol ar gael gan Adnodd a Dysgu maes o law.
Archwiliwch y gyfres Cymwysterau Cenedlaethol lawn
Gallwch archwilio'r ystod lawn o opsiynau cymwysterau ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed, gan gynnwys TGAU, TAAU a chymwysterau Sylfaen. Mae modd astudio’r cymwysterau hyn ochr yn ochr â chymwysterau TAAU er mwyn cefnogi ystod eang o lwybrau cynnydd.
I gael cipolwg ar y broses ddatblygu, edrychwch ar amserlen ein project sy'n cynnwys canfyddiadau ymchwil allweddol, gweithgarwch ymgynghori a cherrig milltir pwysig y project.