Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith: paratoi pob dysgwr ar gyfer bywyd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth
Mae Erica Gough, Rheolwr Cymwysterau, yn egluro pam bod sgiliau ymarferol yn haeddu’r un sylw â rhai academaidd, a sut bydd y cymwysterau sgiliau newydd yn helpu dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed i baratoi ar gyfer beth bynnag sy’n dod nesaf.
Mae pob dysgwr yn haeddu gadael yr ysgol yn teimlo’n barod am yr hyn sydd i ddod.
Wrth edrych yn ôl ar fy addysg fy hun, roeddwn i’n aml yn teimlo fy mod i wedi paratoi’n dda ar gyfer heriau academaidd ond yn llai parod ar gyfer gofynion ymarferol bywyd bob dydd. Wrth i mi symud ymlaen i’r brifysgol, ac yn ddiweddarach mentro i’r byd gwaith, sylweddolais nad oedd sgiliau fel cyfathrebu, rheoli amser, llythrennedd ariannol na meddwl yn feirniadol wedi bod yn rhan o’m dysgu; fe wnes i eu datblygu drwy arbrofi a gwneud camgymeriadau.
Y profiad hwnnw yw’r rheswm dw i’n ystyried fy hun yn ffodus iawn i fod wedi gweithio ar y cymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith newydd. Gyda’r rhyddid i ailddychmygu sut y gallai addysg uwchradd edrych ar gyfer y genhedlaeth nesaf, mae’r cymwysterau hyn yn cynrychioli mwy na set o bynciau neu unedau. Dyma beth maen nhw’n ei gynnwys, a pham dw i’n credu eu bod yn bwysig.
Beth yw cymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith?
Mae gan y sgiliau sydd wrth wraidd y cymwysterau newydd hyn werth gwirioneddol, bob dydd:
- Gall cyfathrebu effeithiol wella perthnasoedd a chefnogi cynnydd gyrfaol.
- Gall rheoli amser helpu dysgwyr i gydbwyso gwaith, astudio a bywyd personol, a chefnogi gwell iechyd meddwl.
- Gall llythrennedd ariannol feithrin sefydlogrwydd ariannol ac annibyniaeth.
- Gall meddwl yn feirniadol gryfhau datrys problemau mewn unrhyw sefyllfa.
Y nod yw gwneud i ddysgu deimlo’n berthnasol, fel bod dysgwyr yn gallu gweld yn union sut mae eu haddysg yn cysylltu â bywyd go iawn.
Mae’r cymwysterau wedi’u rhannu’n ddau faes:
- Mae unedau Sgiliau Bywyd yn canolbwyntio ar ddatblygiad personol, gan helpu dysgwyr i feithrin yr wybodaeth a’r hyder i fyw bywydau hapus ac iach.
- Mae unedau Sgiliau Gwaith yn adeiladu sylfaen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, gan archwilio cyfleoedd gyrfa a chyd-fynd â chanllawiau’r Cwricwlwm i Gymru ar yrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith.
Mae’r ddau faes yn gwbl hyblyg ac ar gael o lefel mynediad hyd at lefel 2. Addysgir pob uned fel pwnc annibynnol, ac mae’n cymryd naill ai 10 neu 20 o oriau dysgu dan arweiniad (ODDA) i’w chwblhau. Gall dysgwyr ddewis a dethol unedau i greu llwybr personol sy’n gweddu i’w cryfderau, eu diddordebau a’u dyheadau cynnydd.
Trwy gyfuno unedau, gall dysgwyr gyflawni:
- dyfarniad, sy’n cymryd 60 o ODDA i’w gwblhau
- tystysgrif, sy’n cymryd 120 o ODDA i’w chwblhau
- diploma, sy’n cymryd 240 o ODDA i’w gwblhau
Os na fydd dysgwr wedi cronni digon o unedau i hawlio cymhwyster llawn, yna bydd modd hawlio ardystiad uned unigol yn lle hynny.
Mae’n bwysig iawn bod dysgwyr yn cadw’r tystysgrifau hyn. Bydd eu hangen arnyn nhw os ydyn nhw am barhau i adeiladu ar eu cyflawniadau mewn ysgol wahanol, neu wrth symud i addysg bellach.
Un llwybr ar gyfer cymwysterau sgiliau
Mae addysg wedi symud ymlaen ers i mi fod yn yr ysgol, ac mae yna lawer o gymwysterau sy’n seiliedig ar sgiliau ar gael erbyn hyn. Ond mae cael cymaint o opsiynau yn creu ei broblem ei hun: mae’n anodd i ddysgwyr, ysgolion, colegau a chyflogwyr eu deall.
Dyna pam y bydd y cymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith yn disodli’r cymwysterau presennol sy'n seiliedig ar sgiliau, gan ddod â phopeth at ei gilydd o dan un llwybr mwy hyblyg.
I ganolfannau, gallai dewis o tua 50 o wahanol bynciau uned helpu athrawon i ysgogi dysgwyr drwy ddewis unedau sy’n ystyrlon iddyn nhw. Gall hefyd gefnogi’r gwaith o gyflawni hawl i ddysgu 14 i 16 oed Llywodraeth Cymru, sy’n nodi’r ystod o gyrsiau a phrofiadau y dylai ysgolion eu cynnig i ddysgwyr yn y grŵp oedran hwn.
Bydd sawl corff dyfarnu yn cynnig y cymwysterau hyn, felly mae’n werth dechrau cynllunio nawr a siarad â’ch corff/cyrff dyfarnu dewisol am yr hyfforddiant a’r gefnogaeth sydd ar gael.
Sgiliau i bob dysgwr, beth bynnag fo’u cefndir
Mae rhagdybiaeth gyffredin bod sgiliau ymarferol yn dod yn naturiol ac nad oes angen eu dysgu. Mewn gwirionedd, mae datblygu'r sgiliau hyn gan rywun yn aml yn dibynnu ar lwc: y cyfleoedd a'r gefnogaeth a gafodd y person hwnnw wrth dyfu i fyny.
Dydyn ni ddim bob amser yn meddwl am y dysgwyr, fel fi, a dreuliodd gymaint o amser yn astudio, fel bod pobl eraill wedi gofalu am dasgau bob dydd ar eu cyfer nhw, yn aml gyda’r bwriadau gorau. Pan oeddwn i yn y brifysgol, nid y gwaith academaidd oedd yn heriol. Rheoli fy mywyd fy hun ochr yn ochr â’r gwaith oedd yr her: cyllidebu, paratoi bwyd, trefniadau teithio, deall biliau.
Gwelais ffrindiau a chyfoedion yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl, ac fe wnaeth rhai roi’r gorau i’w cyrsiau’n gyfan gwbl gan fod ceisio addasu’n teimlo’n llethol.
Yn ddealladwy, mae ysgolion yn canolbwyntio’n helaeth ar gymwysterau academaidd. Ond unwaith y bydd dysgwyr yn troi’n 16 oed, mae cyflogwyr hefyd yn chwilio fwyfwy am sgiliau ymarferol a phrofiad. Gallai dull mwy cytbwys, sy’n gwerthfawrogi dysgu academaidd yn ogystal â dysgu ymarferol, wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae sgiliau ymarferol yr un mor bwysig â rhai academaidd, ar gyfer gwaith yn ogystal â bywyd. Mae cymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith wedi eu dylunio i gefnogi dysgwyr o bob cefndir a gallu i feithrin y sgiliau hyn ochr yn ochr â gweddill eu dysgu.
Paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd, nid arholiadau yn unig
Paratoi dysgwyr ar gyfer marchnad swyddi sy’n newid yn gyflym yw un o’r heriau mwyaf y mae addysgwyr yn eu hwynebu heddiw. Mae technoleg yn parhau i ailsiapio sut mae gwaith yn edrych, ac nid yw addasrwydd a gwydnwch erioed wedi bod yn bwysicach.
Mae cymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith yn helpu dysgwyr i adeiladu gwybodaeth ymarferol a hyder personol, gan roi’r hyn sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu mewn byd sy’n gynyddol gymhleth.
Mae eu datblygiad yn nodi moment bwysig i addysg yng Nghymru: ymateb rhagweithiol i sut mae gwaith a bywyd yn newid. Drwy gefnogi dull mwy cyfannol o addysgu, gallwn ni helpu pob dysgwr i ddod yn unigolion cyflawn, galluog ac yn barod ar gyfer beth bynnag sy’n dod nesaf.
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi’n ysgol, yn goleg neu’n ddarparwr hyfforddiant sy’n paratoi i gynnig y cymwysterau hyn, ewch i dudalen Cymwysterau’r Gyfres Sgiliau am y rhestr lawn o unedau, neu cysylltwch â’ch corff dyfarnu dewisol yn uniongyrchol i drafod hyfforddiant a chymorth.