Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau a’u rhoi ar waith mewn cyd-destunau perthnasol i baratoi ar gyfer cyflogaeth, dysgu gydol oes a dinasyddiaeth weithgar.
Mae'r cymhwyster yn datblygu'r pedwar sgìl cyfannol a amlinellir yn y Cwricwlwm i Gymru:
-
- meddwl yn feirniadol a datrys problemau
- creadigrwydd ac arloesi
- cynllunio a threfnu
- effeithiolrwydd personol
Cymhwyster Lefel 3 yw hwn sy’n cael ei gymryd yn bennaf gan ddysgwyr 16-19 oed sy'n dilyn rhaglenni astudio Lefel 3, fel Safon Uwch.

Cynnwys y cymhwyster
Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn cynnig profiadau dysgu gwirioneddol, dilys. Mae pwyslais ar ddysgu y tu mewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth, yn ogystal â ffocws ar ddatblygu dysgu annibynnol.
Mae dysgwyr yn cael eu hannog i arfer ymreolaeth a dewis meysydd astudio sydd o ddiddordeb personol iddynt ac sy'n gysylltiedig â'u hastudiaethau a'u gyrfaoedd yn y dyfodol. Nid yw dysgwyr yn cael eu hasesu'n uniongyrchol ar eu gwybodaeth am y meysydd astudio hyn, ond yn hytrach ar sut maen nhw’n rhoi’r pedwar sgìl cyfannol ar waith. Mae'r cymhwyster hefyd yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.
Mae'r cymhwyster wedi'i rannu'n dair cydran orfodol:
| Cydran | Disgrifiad | Pwysoli |
| Cydran 1: Prosiect Cymuned Fyd-eang | Bydd dysgwyr yn datblygu’r Sgiliau Cyfannol ac yn arddangos sut maent yn eu rhoi ar waith wrth ystyried materion byd-eang cymhleth a chyfranogi mewn gweithgareddau cymunedol lleol (o leiaf 15 awr) i hyrwyddo dinasyddiaeth mewn byd cynaliadwy ac yng Nghymru. | 25% |
| Cydran 2: Prosiect Cyrchfannau'r Dyfodol | Bydd dysgwyr yn datblygu’r Sgiliau Cyfannol ac yn arddangos sut maent yn eu rhoi ar waith wrth archwilio nodau cyrchfannau’r dyfodol ar gyfer bywyd, cyflogadwyedd a dinasyddiaeth mewn byd cynaliadwy ac yng Nghymru. | 25% |
| Cydran 3: Prosiect Unigol | Bydd dysgwyr yn datblygu’r Sgiliau Cyfannol ac yn arddangos sut maent yn eu rhoi ar waith wrth gynllunio, rheoli a chynnal prosiect ymchwil annibynnol (prosiect ysgrifenedig estynedig neu arteffact). | 50% |
Graddio cymwysterau
Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch wedi'i graddio rhwng A* ac E.
Nid yw'n ofynnol i ddysgwyr basio pob cydran i ennill gradd cymhwyster, a chaniateir iddynt ailsefyll unwaith ar gyfer pob cydran.
Dilyniant cymwysterau
Bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch o gymwysterau sy'n asesu'r pedwar sgìl cyfannol ar Lefel 2. Dyma'r Dystysgrif Her Sgiliau ar hyn o bryd.
O fis Medi 2027 ymlaen, bydd y Dystysgrif Her Sgiliau yn cael ei disodli gan y Gyfres Sgiliau Cymwysterau Cenedlaethol, sy'n cynnwys Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith, Sgiliau Bywyd a Gwaith, a'r Prosiect Personol.

Symud ymlaen i astudio yn y brifysgol
Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn cario'r un pwyntiau UCAS â Safon Uwch ac mae’n cael ei chydnabod gan brifysgolion ledled y DU ac yn fyd-eang fel cymhwyster cyfatebol i Safon Uwch.
Mae'r cymhwyster yn ofyniad mynediad derbyniol yn y prifysgolion y mae mwyafrif y myfyrwyr yng Nghymru yn eu mynychu.
Qualification documentation
Fel rheoleiddiwr y cymhwyster hwn, rydym yn gyfrifol am sicrhau bod y fanyleb a'r ddatblygiad dogfennaeth ategol gan y corff dyfarnu yn bodloni ein disgwyliadau o ran trylwyredd a gwerth.
I wneud hyn, rydym wedi gosod maen prawf y mae'n rhaid i'r deunyddiau hyn eu bodloni cyn y gellir eu cymeradwyo i'w cyflwyno mewn ysgolion a cholegau.
Meini prawf cymeradwyo Bagloriaeth Sgiliau Cymru UwchDatblygu'r cymhwyster presennol
Gallwch ddod o hyd i'r holl ddogfennaeth berthnasol ynglŷn â'n hymgynghoriad ar y cymhwyster hwn yma:
-
-
- cynigion ymgynghori
- canfyddiadau'r ymgynghoriad
- adroddiad penderfyniadau ymgynghori
- crynodeb o'r adroddiad penderfyniadau ymgynghori
-
Dogfennaeth y corff dyfarnu
Caiff Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ei darparu gan CBAC, a ddatblygodd y cymhwyster ar y cyd â rhanddeiliaid.
Gelli di ddod o hyd i'r holl ddogfennau ategol perthnasol ar wefan y corff dyfarnu, gan gynnwys y fanyleb, adnoddau ategol, a dysgu proffesiynol ar alw sydd wedi ei drefnu i athrawon.
Ewch i wefan CBAC