Cymwysterau galwedigaethol ôl-16

Mae cymwysterau galwedigaethol ôl-16 yn cwmpasu ystod o lefelau, meintiau a phynciau i fodloni amrywiaeth o anghenion dysgwyr ac anghenion y sector[EC2.1]. 

Yn wahanol i Safon Uwch, mae enwau’r cymwysterau hyn yn amrywio er mwyn adlewyrchu eu maint, er enghraifft:  

      • dyfarniadau
      • tystysgrifau 
      • diplomâu estynedig 

Gall y rhain fod yn ddewis da i ddysgwyr sydd newydd adael yr ysgol ac sydd eisiau dilyn cymwysterau galwedigaethol yn hytrach na Safon Uwch ac UG, neu sydd eisiau eu dilyn ar yr un pryd â’r cymwysterau hynny. Gall pobl sydd eisoes mewn gwaith ac sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau neu ennill ardystiad penodol i roi hwb i’w gyrfa eu dewis hefyd. 

Mae cymwysterau galwedigaethol yn ymarferol ac yn ffordd wych o agor llwybrau at addysg bellach, y brifysgol neu addysg uwch arall, at brentisiaethau neu’n syth i’r byd gwaith. 

Mae rhai cymwysterau galwedigaethol ôl-16 yn canolbwyntio ar theori ac ar ddefnyddio gwybodaeth mewn cyd-destunau ymarferol. Ar y cyfan, mae’r cymwysterau hyn yn cael eu dysgu mewn ysgolion a cholegau, a gall dysgwyr eu hastudio ar y cyd â chymwysterau Safon Uwch ac UG. 

Mae cymwysterau galwedigaethol ôl-16 eraill wedi'u dylunio i adlewyrchu anghenion cyflogwyr ac i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymarferol. Maen nhw’n cwmpasu ystod eang o sectorau a lefelau er mwyn datblygu gwybodaeth sydd yn berthnasol i alwedigaethau yn ogystal â galluoedd ymarferol a chymhwysedd sydd o werth i’r diwydiant. Gallan nhw fod yn rhan o brentisiaeth neu gael eu cymryd yn annibynnol. Mae'r cymwysterau hyn yn cael eu cynnig yn bennaf gan ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith a chan golegau.

Pa bynciau galwedigaethol ôl-16 sydd ar gael yng Nghymru?  

Mae cannoedd o wahanol bynciau galwedigaethol ar gael i ddysgwyr ôl-16. 

Mae'r pynciau'n cwmpasu popeth, gan gynnwys: sgiliau TG; cyfrifeg a logisteg; gwaith saer pensaernïol; trin gwallt; a gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant. 

Dyma rai o’r pynciau sydd fwyaf poblogaidd ymhlith dysgwyr Cymru: 

    • Peirianneg Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu
    • Troseddeg
    • Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
    • Cynhyrchu Creadigol a’r Cyfryngau, a Thechnoleg
    • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Gwasanaethau Diogelu mewn Lifrai

Mae’r cymwysterau galwedigaeth ôl-16 yn cael eu rhannu’n ddau ddosbarth, sef cymwysterau cymeradwy a chymwysterau dynodedig. Gallwch ddysgu mwy am y termau hyn yn ein Llawlyfr Dynodi

Mae dysgwr sy'n gwisgo oferôls glas yn profi lliw ei phaent cyn chwistrellu rhannau car.

Mae strwythurau graddio yn amrywio rhwng cymwysterau, ond bydd y mwyafrif yn cael eu graddio gan ddefnyddio un o'r ffyrdd canlynol: 

      • A–E
      • Llwyddo, Teilyngdod, Rhagoriaeth
      • Llwyddo neu Fethu

Cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru

Gall ysgolion, colegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith gael manylion am yr holl gymwysterau galwedigaethol ôl-16 sydd ar gael, gan gynnwys teitlau cymwysterau, eu rhifau, a dyddiadau dechrau a gorffen, ar ein cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru (QiW).

Symud ymlaen i ac o gymwysterau gawedigaethol ôl-16

Dysgu blaenorol

Oherwydd yr amrywiaeth enfawr o wahanol gymwysterau galwedigaethol ôl-16 sydd ar gael, nid oes gofynion dysgu blaenorol penodol. 

Bydd y mwyafrif o ddysgwyr wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 neu Lefel 2, e.e. TGAU neu gyfwerth, a bydd disgwyl iddynt fod wedi cael gradd C neu uwch mewn TGAU Cymraeg neu Saesneg a mathemateg. 

Ar gyfer rhai cymwysterau galwedigaethol ôl-16, yn enwedig i'r rhai sy'n datblygu cymhwysedd galwedigaethol, efallai y bydd disgwyl i ddysgwyr symud trwy'r gwahanol lefelau sydd ar gael yn y pwnc dan sylw. Er enghraifft, efallai na chewch ddilyn cymhwyster Lefel 3 nes byddwch chi wedi cwblhau'r cymhwyster Lefel 2.

Beth nesaf ar ôl cymwysterau galwedigaethol ôl-16? 

Ar ôl cwblhau astudiaeth alwedigaethol ôl-16, mae nifer o lwybrau ar gael i’r rhai nad ydyn nhw eisoes mewn gwaith, gan gynnwys: 

    • prentisiaethau neu ddysgu seiliedig ar waith arall
    • astudiaeth brifysgol, os ydyn nhw wedi bodloni gofynion mynediad y brifysgol neu wedi sicrhau'r nifer priodol o bwyntiau UCAS
    • astudiaeth addysg uwch arall, megis gradd sylfaen, Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch
    • mynd yn syth i gyflogaeth â thâl

Ein gwaith i reoleiddio cymwysterau galwedigaethol ôl-16

Fel rheoleiddiwr, rhaid i ni sicrhau bod y cymwysterau y mae cyrff dyfarnu cydnabyddedig yn eu dyfarnu yn bodloni ein disgwyliadau ar gyfer trylwyredd a gwerth.

Er mwyn gwneud hyn, rydyn ni’n gosod meini prawf penodol y mae'n rhaid i'r cymwysterau eu bodloni, ac rydyn ni’n adolygu'r meini prawf hyn yn rheolaidd fesul sector.