Yr hyn rydych angen ei wybod

Bydd arholiadau ac asesiadau ffurfiol ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch yn digwydd eto eleni  ac ar gyfer rhai cymwysterau galwedigaethol ynghyd ag asesiadau ymarferol a di-arholiad eraill.    

Ar ôl sawl blwyddyn o drefniadau gwahanol oherwydd y pandemig (trefniadau asesu amgen yn 2020 a 2021, a threfniadau arholiadau a graddio wedi'u haddasu yn 2022 a 2023), bydd cymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau yng Nghymru eleni yn dychwelyd i’r trefniadau cyn y pandemig. Fel yn achos blwyddyn academaidd 2022-2023, bydd cymwysterau galwedigaethol hefyd yn dilyn trefniadau cyn y pandemig. 

Wrth i ni ddychwelyd at y trefniadau asesu arferol, bydd rhywfaint o ddiogelwch ystadegol yn ystod y broses ddyfarnu i atal canlyniadau rhag gostwng yn sylweddol is na'r lefelau cyn y pandemig ar lefel pwnc. 

Y daith yn ôl i drefniadau asesu cyn y pandemig

Eleni rydym wedi dynodi’r cam olaf ar daith system gymwysterau Cymru yn ôl i’r trefniadau asesu arferol oherwydd tarfu yn sgil y pandemig:   

  • 2019-2020 a 2020-2021 - cafodd arholiadau eu canslo oherwydd bod ysgolion wedi cau a’r amhariad sylweddol ar addysg   
  • 2021-2022 - dychwelodd arholiadau ac asesiadau, gyda newidiadau ar waith gan gynnwys addasiadau, gwybodaeth ymlaen llaw a pholisi graddio hael i fynd i'r afael â'r amhariad yr oedd dysgwyr wedi'i wynebu   
  • 2022-2023 – cafodd arholiadau eu cynnal gyda llai o newidiadau, fodd bynnag, roedd rhywfaint o gymorth ychwanegol yn parhau ar ffurf gwybodaeth ymlaen llaw a dull cefnogol o raddio 

Canlyniadau Haf 2024

Un o’n prif weithgareddau yw goruchwylio’r broses o ddyfarnu cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, Tystysgrifau Her Sgiliau a chymwysterau galwedigaethol. 

I gael rhagor o wybodaeth, cer i'n hadran sydd wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer Canlyniadau Haf 2024

Blogiau diweddaraf

Canllaw i Ddysgwyr 2023-24

Rydym wedi cyhoeddi ein canllaw i arholiadau ac asesiadau 2023-24, i roi'r wybodaeth mae dysgwyr eu hangen am drefniadau ar gyfer eu cymwysterau.

Mae paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn amser prysur, a bydd gan nifer gwestiynau am y trefniadau ar gyfer eu cymwysterau eleni.

Dyna pam rydyn ni wedi creu canllaw i arholiadau ac asesiadau wedi’i ddiweddaru ar gyfer cymwysterau yn 2023/2024.

Cymorth a Chefnogaeth

Rydyn ni’n deall bod paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn gyfnod anodd i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr. Mae amrywiaeth eang o adnoddau a chefnogaeth ar gael. Gallwch ddod o hyd i ddolenni i gefnogaeth ychwanegol isod. 

Lefel Nesa 

Cer draw i hwb cynnwys Lefel Nesa lle doi di o hyd i gyngor adolygu, canllawiau’n ymwneud â llesiant a gwybodaeth i’th helpu di drwy dymor arholiadau ac asesiadau 2023-24. Gelli di gael gafael ar ganllawiau adolygu a chyn-bapurau gan CBAC, yn ogystal â chymorth ymgeisio UCAS a chyngor ar lesiant.  

 

CBAC 

Mae gan CRAC dudalen we bwrpasol lle gallwch ddysgu mwy am sut mae arholiadau'n gweithio, dysgu sut i fynd ati i ateb cwestiynau arholiad, yn ogystal â chael cyngor ac awgrymiadau ar gyfer eich llesiant. Hefyd, cewch fynediad at lawer o ganllawiau ac adnoddau adolygu defnyddiol i'ch helpu i baratoi. 

 

Y Comisiynydd Plant 

Mae gan Gomisiynydd Plant Cymru lawer o wybodaeth ddefnyddiol am wasanaethau cymorth i bobl ifanc, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl ac emosiynol.    

 

Gyrfa Cymru 

Mae gan Gyrfa Cymru lawer o wybodaeth ddefnyddiol am gymwysterau a hyfforddiant. Gall cynghorwyr Gyrfa Cymru drafod yr holl opsiynau gyda chi a’ch rhieni, gan gynnwys parhau mewn addysg, hyfforddiant, prentisiaeth neu fentro i fyd gwaith.   

 

Mind Cymru 

Mae Mind Cymru yn elusen iechyd meddwl sefydledig sy'n cynnig amrywiaeth o gymorth llesiant. Mae Mind yno i chi os yw pethau’n anodd. Gallwch gysylltu i gael help a chymorth cyfrinachol.     

Arholiadau ac asesiadau 2022 - 2023

Os hoffech wybod mwy am y trefniadau ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, ewch i'r dudalen ar ein gwefan ar gyfer arholiadau ac asesiadau 2022-2023.