Trosolwg a chanlyniadau haf 2024

Yn yr adran hon, fe welwch fanylion y cymwysterau a ddyfarnwyd yr haf yma yn ogystal â gwybodaeth cefndirol ac adroddiadau trosolwg. 

Mae cyngor hefyd am eich camau nesaf ar ôl derbyn eich cymwysterau.

Adolygiadau o gyfres arholiadau haf 2024

Mae dau adolygiad ar wahân - un yn edrych ar gymwysterau cyffredinol (TGAU, UG, Safon Uwch a'r Dystysgrif Her Sgiliau) ac un arall sy'n sôn am gymwysterau galwedigaethol.

         

Canllawiau canlyniadau haf 2024 

Rydym hefyd wedi cyhoeddi dadansoddiad manwl o ganlyniadau arholiad eleni.

       

Data canlyniadau 

Am grynodeb byr o'r data canlyniadau - cymerwch olwg ar ein ffeithluniau. 

Proses apelio

Os nad wyt ti wedi cael y canlyniadau roeddet ti wedi’u disgwyl, paid â mynd i banig. Siarada gyda dy athro neu ddarlithydd i drafod dy opsiynau. P’un a wyt ti’n ystyried apelio yn erbyn dy radd neu ailsefyll arholiad, mae’n bwysig siarad gyda dy athro neu ddarlithydd cyn gynted â phosibl ar ôl i ti gael dy ganlyniadau.

Gwylia ein fideo ar apeliadau i gael rhagor o wybodaeth am y broses.

Proses apelio

Ble nesaf?

Ydych chi'n chwilio am gyngor ar wneud penderfyniadau ar gyfer y camau nesaf? Gwylia ein fideo i gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael.  

Am ragor o help a chefnogaeth, dyma gasgliad o adnoddau allai dy helpu di i wneud penderfyniadau am dy gamau nesaf:

P’un a wyt ti’n ystyried parhau ag addysg ôl-16, dod yn brentis neu wneud cais am brentisiaeth gradd, mae gan wefan Gyrfa Cymru wybodaeth ddefnyddiol gyda chanllawiau a chymorth i’th helpu i gymryd dy gamau nesaf.  

Os hoffet ti archwilio dy opsiynau mewn coleg addysg bellach yng Nghymru, cer i wefan  Colegau Cymru lle cei restr o holl golegau Cymru gyda dolenni i’w gwefannau unigol.  

Os wyt ti eisiau symud ymlaen i addysg uwch, mae gan wefan UCAS ragor o wybodaeth am ba gyrsiau sydd ar gael a sut i wneud cais.

Os hoffet ti gymryd dy gam nesaf i gyflogaeth, mae Cymru’n Gweithio ar gael i’th gefnogi gyda chyngor ac arweiniad am ddim a mynediad i hyfforddiant i’th helpu i gael gwaith ac i ddatblygu dy yrfa.

Arholiadau ac asesiadau 2023-24

Darganfyddwch fwy am drefniadau asesu yn y flwyddyn academaidd 2023-24 ar ein tudalen arholiadau ac asesiadau 2023-24.

Canlyniadau haf 2023

I gymryd golwg yn ôl ar y llynedd, cer i'n hadran canlyniadau haf 2023