Yn yr adran hon, fe welwch chi fanylion y cymwysterau fydd yn cael eu dyfarnu yn ystod yr haf ynghyd â gwybodaeth gefndirol yn ein hadroddiad.  

Mae cyngor hefyd ar y camau nesaf sydd ar gael i chi ar ôl i chi dderbyn eich cymwysterau.  

 

 

Canlyniadau Haf 2025 ac Adolygiad o'r Gyfres

Yn y ddogfen hon, fe welwch chi fanylion y cymwysterau a fydd yn cael eu dyfarnu yn ystod yr haf ynghyd â gwybodaeth gefndirol a dadansoddiad manwl o ganlyniadau arholiadau eleni. 

 

Data canlyniadau

Am grynodeb byr o ddata’r canlyniadau - edrychwch ar ein ffeithluniau.   

 

 

Proses apelio

Os nad wyt ti wedi cael y canlyniadau roeddet ti wedi’u disgwyl, paid â mynd i banig. Siarada gyda dy athro neu ddarlithydd i drafod dy opsiynau. P’un a wyt ti’n ystyried apelio yn erbyn dy radd neu ailsefyll arholiad, mae’n bwysig siarad gyda dy athro neu ddarlithydd cyn gynted â phosibl ar ôl i ti gael dy ganlyniadau. 

Gwylia ein fideo ar apeliadau i gael rhagor o wybodaeth am y broses. 

 

 

Ble nesaf?

Ydych chi'n chwilio am gyngor ar wneud penderfyniadau ar gyfer y camau nesaf? Gwylia ein fideo i gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael.   

 

 

Cymorth a Chefnogaeth

Am ragor o help a chefnogaeth, dyma gasgliad o adnoddau allai dy helpu di i wneud penderfyniadau am dy gamau nesaf:

P’un a wyt ti’n ystyried parhau ag addysg ôl-16, dod yn brentis neu wneud cais am brentisiaeth gradd, mae gan wefan Gyrfa Cymru wybodaeth ddefnyddiol gyda chanllawiau a chymorth i’th helpu i gymryd dy gamau nesaf.  

Os hoffet ti archwilio dy opsiynau mewn coleg addysg bellach yng Nghymru, cer i wefan  Colegau Cymru lle cei restr o holl golegau Cymru gyda dolenni i’w gwefannau unigol.  

Os wyt ti eisiau symud ymlaen i addysg uwch, mae gan wefan UCAS ragor o wybodaeth am ba gyrsiau sydd ar gael a sut i wneud cais.

Os hoffet ti gymryd dy gam nesaf i gyflogaeth, mae Cymru’n Gweithio ar gael i’th gefnogi gyda chyngor ac arweiniad am ddim a mynediad i hyfforddiant i’th helpu i gael gwaith ac i ddatblygu dy yrfa.