Trefniadau ar gyfer cymwysterau eleni
Beth sy'n digwydd os ydw i'n methu un o fy arholiadau oherwydd salwch?
Bydd angen i chi roi gwybod i’ch ysgol neu goleg pam eich bod chi’n sâl. Mae CBAC yn cynnal proses o'r enw ystyriaeth arbennig. Os byddwch yn colli un uned, a bod eich ysgol neu goleg yn meddwl eich bod yn gymwys i gael ystyriaeth arbennig, gallan nhw wneud cais ar eich rhan.
Os byddwch chi'n methu'r pob un arholiad ar gyfer un pwnc ym mis Tachwedd eleni, yna mae modd ail gofrestru ar gyfer yr arholiad TGAU yng nghyfres arholiadau haf 2023.
Dyfarnu graddau
Pwy fydd yn dyfarnu fy ngradd eleni?
CBAC a chyrff dyfarnu eraill fydd yn dyfarnu graddau dysgwyr eleni. Byddan nhw’n dilyn y prosesau arferol i sicrhau bod marcio yn deg a chyson.
Fe wnaethoch chi gyhoeddi y bydd y canlyniadau tua hanner ffordd rhwng canlyniadau 2019 a rhai 2022 - beth mae hynny'n ei olygu?
Mae hyn yn golygu y bydd proses dyfarnu graddau CBAC yn parhau i ddarparu cefnogaeth i ddysgwyr wrth i ni gymryd y cam nesaf ar y daith yn ôl tuag at ganlyniadau cyn y pandemig.
Ar gyfer pob pwnc, bydd y canlyniadau'n uwch nag oedden nhw yn 2019 (y tro diwethaf i ddysgwyr sefyll arholiadau ffurfiol) ac yn is nag oedden nhw yn 2021.
Cymorth ychwanegol
Dwi'n pryderu am sefyll arholiadau ac asesiadau, ble alla i gael cymorth?
Mae paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn gyfnod anodd i ddysgwyr, i rieni ac i ofalwyr. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael y cymorth rydych chi ei angen. Ewch i’r adran Cymorth a Chefnogaeth ar ein gwefan i ddod o hyd i ddolenni at amrywiaeth o adnoddau ac i leoedd lle gallwch gael mynediad at wasanaethau cymorth.
Bydd pobl yn aml yn holi sut mae gwahanol rannau’r system arholiadau yn gweithio â’i gilydd, felly rydyn ni wedi creu Arholiadau 360 er mwyn i chi gael cipolwg 360 gradd ar sut mae’r system yn gweithio.
Ewch i Arholiadau 360 os hoffech chi ddysgu:
-
Pwy sy'n ysgrifennu fy mhapur arholiad?
-
Sut mae graddau arholiadau’n cael eu gosod?
-
Beth sy'n digwydd yn ystod y gwaith marcio?
-
Sut mae graddau arholiadau’n cael eu gosod?
Fe gewch chi ragor o wybodaeth am y system arholiadau yng Nghymru yn ogystal ag awgrymiadau a chymorth i’ch helpu i sefyll arholiadau.