Cyflwyniad
Mae aelodau ein grwpiau i ddysgwyr yn grŵp ysbrydoledig o bobl ifanc sydd ag ystod amrywiol ac eang o brofiadau.
Maen nhw’n ein helpu ni i lunio cymwysterau a’r system gymwysterau yng Nghymru fel ei bod yn addas ar gyfer y dyfodol, ac maen nhw’n sicrhau bod lleisiau dysgwyr yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd ar ein gwaith.
Rôl
Mae gennym ni ddau grŵp i ddysgwyr. Mae un yn cynnwys dysgwyr mewn ysgolion a cholegau a dysgwyr sy’n dysgu yn y cartref. Mae’r llall ar gyfer dysgwyr 16 oed neu hŷn, sydd ar hyn o bryd yn dilyn prentisiaeth, rhaglen dysgu seiliedig ar waith neu’n astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol.
Mae ein grwpiau yn ein helpu i siarad â dysgwyr a deall beth maen nhw ei angen gennym ni a’r sector addysg ehangach. Mae aelodau’n ein herio, yn ogystal â'n cefnogi yn ein gwaith, i'n helpu i roi'r wybodaeth mae dysgwyr ei hangen am gymwysterau.
Mae cynnwys, adnoddau a thrafodaethau’r cyfarfodydd yn gyfrinachol, ac ni fydd barn a safbwyntiau’r aelodau’n cael eu rhannu oni bai bod yr aelodau’n rhoi eu caniatâd.
Mae aelodau'r grŵp yn onest, ac yn dweud wrthym ni - gan gynnwys uwch arweinwyr - beth maen nhw'n ei deimlo go iawn am y materion sy'n effeithio ar gymwysterau ac ar ddysgwyr yng Nghymru.
Aelodaeth
Mae pob grŵp yn cynnwys rhwng 18 a 25 o ddysgwyr, sydd fel arfer yn rhan o'r grŵp am hyd at ddwy flynedd.
Grŵp Cynghori i Ddysgwyr | Grŵp Dysgwyr Seiliedig ar Waith, Prentisiaethau a Galwedigaethol |
|
|
Mae pob un o’n haelodau:
- mewn addysg ac yn astudio amrywiaeth o gymwysterau, gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol, TGAU, UG a Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru
- o wahanol fathau o gefndiroedd a lleoliadau addysg (gan gynnwys colegau, ysgolion, ymgeiswyr preifat) ac yn wahanol fathau o ddysgwyr (gan gynnwys dysgwyr cyfrwng Cymraeg a'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol).
Gwneud cais i ymuno
Mae'r rhain yn rolau gwirfoddol, ond mae'r manteision yn amhrisiadwy:
- Profiad unigryw ar dy CV neu gais UCAS
- Gwella sgiliau – cyfathrebu, gwerthuso, gweithio mewn tîm
- Cefnogi datblygu cymwysterau Gwneud-i-Gymru
- Gwneud yn siŵr bod lleisiau dysgwyr yn cael eu clywed.
Ymrwymiad amser
Fel arfer mae 6 chyfarfod bob blwyddyn. Mae dyddiadau’n cael eu trefnu ymlaen llaw ac maen nhw’n cael eu cynnal unwaith bob hanner tymor, fel arfer ar ddydd Mawrth rhwng 1700 a 1830.
Bob hyn a hyn, byddwn ni’n trefnu sesiynau dal i fyny ychwanegol gyda'r grwpiau, os oes angen mwy o amser i drafod gweithgareddau. Mae’r cyfarfodydd hyn yn ddewisol, er ein bod ni’n dy annog i ymuno â nhw er mwyn i ti allu cymryd rhan mewn darnau newydd o waith a dal i fyny ag aelodau eraill.
Gwaid cais i ymuno
Os oes gen ti ddiddordeb mewn ymuno ag un o'n grwpiau, gwna gais drwy ddefnyddio'r ffurflen gais neu cysyllta â ni drwy e-bostio grwpdysgwyr@cymwysterau.cymru.
Bydd angen i ti ddarparu ychydig o fanylion cyswllt personol a chwblhau un o'r tasgau canlynol:
- ysgrifennu datganiad personol (dim mwy na 1000 o eiriau)
- anfon fideo yn cyflwyno dy hun (dim hirach na dwy funud)
- darparu datganiad enwebu gan athro, darlithydd, hyfforddwr yn y gweithle neu oruchwyliwr prentisiaeth (dim mwy na 1000 gair)
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ble i anfon dy gais, ar gael ar y ffurflen.