Canllaw ar gyfer arholiadau ac asesiadau
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ei ganllaw i arholiadau ac asesiadau 2022-23, i roi'r wybodaeth mae dysgwyr eu hangen am drefniadau ar gyfer eu cymwysterau.
Mae paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn amser prysur, a bydd gan nifer gwestiynau am y trefniadau ar gyfer eu cymwysterau eleni.
Dyna pam rydyn ni wedi creu canllaw i arholiadau ac asesiadau wedi’i ddiweddaru ar gyfer cymwysterau yn 2022/2023.
Blogiau Diweddaraf
Y daith yn ôl at safonau TGAU, UG a Safon Uwch cyn y pandemig
Gan Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru
Cyhoeddwyd: 14.10.22
Cefnogi dysgwyr yng Nghymru wrth i ni barhau i ddychwelyd i drefniadau arholi cyn y pandemig
Gan Jo Richards, Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio Cymwysterau Cymru
Cyhoeddwyd: 24.04.23
Beth allwn ni ei ddisgwyl o ganlyniadau UG, Safon Uwch a TGAU yng Nghymru eleni?
Gan Jo Richards, Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio Cymwysterau Cymru
Cyhoeddwyd: 18.07.23
Cwestiynau cyffredin
Efallai y bydd gen ti rai cwestiynau am y cymwysterau eleni wrth i ti baratoi ar gyfer dy arholiadau a’th asesiadau. Dyma rai cwestiynau cyffredin a allai gynnig rhagor o wybodaeth am y trefniadau eleni.
Gwybodaeth ymlaen llaw
Wrth i ni gymryd y cam nesaf yn ôl i drefniadau asesu cyn y pandemig, mae rhywfaint o gymorth ar gael o hyd eleni.
Mae gwybodaeth ymlaen llaw wedi ei darparu gan CBAC i’th helpu di i baratoi ar gyfer dy arholiadau a dy asesiadau.
Mae gwybodaeth ymlaen llaw yn rhoi syniad o'r pynciau, themâu, testunau neu gynnwys arall y gelli di ei ddisgwyl yn dy arholiadau. Mae hyn yn golygu y bydd gen ti rywfaint o wybodaeth am yr hyn a gaiff ei asesu cyn i’th asesiad gael ei gynnal. Bydd yn wahanol ar gyfer pob pwnc ac fe ddylai dy helpu di i baratoi ar gyfer dy arholiadau.
Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd y wybodaeth ymlaen llaw yn cynnwys popeth sy'n mynd i gael ei asesu. Efallai y bydd rhai cwestiynau arholiad yn gofyn am wybodaeth ychwanegol. Felly, fe ddylet ti adolygu cynnwys y cwrs i gyd, a defnyddio’r wybodaeth ymlaen llaw i ganolbwyntio dy waith adolygu.
Mae gwybodaeth ymlaen llaw ar gael ar gyfer y cymwysterau canlynol:
- TGAU
- Safon UG a Safon Uwch
- cymwysterau galwedigaethol
Nid yw gwybodaeth ymlaen llaw yn bosibl ar gyfer y Tystysgrifau Her Sgiliau, felly bydd llawer o'r addasiadau (newidiadau) blaenorol ar gyfer y cymwysterau hyn yn parhau eleni. Hefyd, bydd angen llai o heriau.
Mae cyrff dyfarnu wedi rhannu’r wybodaeth ymlaen llaw gyda’th ysgol neu goleg. Siarada gyda dy athrawon a’th ddarlithwyr os oes gen ti unrhyw gwestiynau am wybodaeth ymlaen llaw.
Cymorth a Chefnogaeth
Rydyn ni’n deall bod paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn gyfnod anodd i ddysgwyr, rhieni, gofalwyr, ysgolion a cholegau. Mae amrywiaeth o gefnogaeth ar gael.
Cer draw i hwb cynnwys Lefel Nesa lle doi di o hyd i gyngor adolygu, canllawiau’n ymwneud â llesiant a gwybodaeth i’th helpu di drwy dymor arholiadau ac asesiadau 2022-23. Gelli di gael gafael ar ganllawiau adolygu a chyn-bapurau gan CBAC, yn ogystal â chymorth ymgeisio UCAS a chyngor ar lesiant.
Mae gan CBAC dudalen we bwrpasol lle mae modd i ti gael gwybodaeth am sut mae arholiadau'n gweithio, sut i fynd ati i ateb cwestiynau arholiad ac awgrymiadau ar gyfer gofalu am dy lesiant. Hefyd, fe weli di lawer o adnoddau adolygu defnyddiol.
Mae gan Gomisiynydd Plant Cymru lawer o wybodaeth ddefnyddiol am wasanaethau cymorth i bobl ifanc, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl ac emosiynol.
Mae gan Gyrfa Cymru lawer o wybodaeth ddefnyddiol am gymwysterau a hyfforddiant.
Mae Mind Cymru yn elusen iechyd meddwl sefydledig sy'n cynnig amrywiaeth o gymorth llesiant. Mae Mind yno i ti os wyt ti'n gweld pethau'n anodd. Mae modd i ti gysylltu i gael cyngor a chymorth cyfrinachol.
Canlyniadau Haf 2023
Fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau yng Nghymru, un o’n prif weithgareddau yw goruchwylio’r broses o ddyfarnu cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, Tystysgrifau Her Sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.
Yn yr adran hon sydd wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer canlyniadau haf 2023, fe weli di fanylion am sut y caiff cymwysterau yng Nghymru eu dyfarnu eleni, golwg cyffredinol ar y broses apelio, yn ogystal â chymorth a chefnogaeth i ddysgwyr sy'n ystyried eu camau nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth, cer i'n hadran sydd wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer Canlyniadau Haf 2023.