Cymwysterau mewn celf, y creadigol a’r cyfryngau yn bodloni anghenion dysgwyr
Mae cymwysterau galwedigaethol ôl-16 mewn pynciau celf, y creadigol a'r cyfryngau yn bodloni anghenion dysgwyr, yn ôl canfyddiadau diweddaraf Cymwysterau Cymru.
Mae hyn yn cynnwys cymwysterau yn y celfyddydau perfformio, y cyfryngau a chyfathrebu, crefftau, celfyddydau creadigol a dylunio, a chyhoeddi a gwybodaeth. Mae'r rhain yn cynrychioli rhan o sectorau creadigol cynyddol Cymru, sydd gyda'i gilydd yn cyflogi 34,900 gyda throsiant blynyddol o £1.7 biliwn.
Mae'r adolygiad yn rhan o raglen o adolygiadau sector penodol, sy'n rhoi sylw i amrywiaeth o sectorau cyflogaeth, sydd wedi'u cynllunio i nodi themâu allweddol a chryfhau'r ddarpariaeth cymwysterau i gefnogi dysgwyr, darparwyr a chyflogwyr.
Mae sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad at amrywiaeth o gymwysterau o safon yn y maes hwn yn hanfodol i helpu pobl ifanc i ddatblygu gyrfaoedd yn y diwydiant cyffrous hwn, a sbarduno arloesedd a thwf yn yr economi ehangach.
Mae canfyddiadau heddiw yn cadarnhau bod cymwysterau mewn pynciau celf, y creadigol a’r cyfryngau yn bodloni anghenion dysgwyr, a’u bod ar gael yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Nododd yr adolygiad rai meysydd yr oedd angen rhoi sylw iddynt:
• roedd angen cynnwys ychwanegol ar rai cymwysterau
• byddai fframweithiau prentisiaethau creadigol yn elwa o adolygiad, gan nad oedd rhai bellach yn cynnwys cymwysterau a ariennir
• roedd galw am sicrhau bod un cymhwyster fframwaith ar gael yn Gymraeg
Cymerodd Cymwysterau Cymru gamau i fynd i'r afael â'r materion hyn, gan rannu adborth gyda Llywodraeth Cymru ynghylch fframweithiau prentisiaethau creadigol, a chyfarfod â chyrff dyfarnu perthnasol ynghylch cynnwys rhai cymwysterau.
O ganlyniad:
• mae adolygiad llawn o fframweithiau prentisiaethau creadigol bellach ar y gweill
• mae cyrff dyfarnu yn gweithio i ychwanegu cynnwys at gymwysterau penodol
• mae Cymwysterau Cymru wedi ariannu corff dyfarnu â grant i sicrhau bod eu cymhwyster ar gael yn Gymraeg
Nid oes unrhyw gamau pellach i Cymwysterau Cymru eu cymryd yn dilyn yr adolygiad, er y bydd yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys drwy ei bartneriaeth strategol â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae gwaith Cymwysterau Cymru gyda chymwysterau galwedigaethol yn seiliedig ar ei weithdrefnau adolygu sector sefydledig, lle caiff meysydd cymwysterau a nodwyd eu hadolygu yn eu tro. Roedd yr adolygiad celf, y creadigol a’r cyfryngau yn adolygiad byrrach wedi ei dargedu o gymwysterau, sy’n rhan o gyfres sy’n edrych i weld a yw cymwysterau’n bodloni anghenion dysgwyr ac a ydynt ar gael yn ddwyieithog. Mae rhagor o wybodaeth am adolygiadau sector ar gael yma.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma
Wrth groesawu’r canfyddiadau, dywedodd Gareth Downey, Uwch Reolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru:
"Mae canfyddiadau ein hadolygiad yn dangos bod nifer o gryfderau i'r ystod bresennol o gymwysterau, ond bod angen rhoi sylw i rai meysydd. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda chyrff dyfarnu a rhanddeiliaid eraill i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd. Mae hyn yn cynnwys argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r fframweithiau prentisiaethau yn y sector a bod cyrff dyfarnu yn diweddaru cynnwys rhai cymwysterau, ochr yn ochr â chynyddu nifer y cymwysterau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i ddysgwyr."
Dywedodd Dr Lowri Morgans, Uwch Reolwr Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
“Rydym wedi adnabod y sector greadigol fel un o’r meysydd blaenoriaeth o ran y Gymraeg ac rydym yn cefnogi colegau drwy fuddsoddi er mwyn iddyn nhw allu recriwtio tiwtoriaid dwyieithog. Mae canfyddiadau Cymwysterau Cymru yn dangos bod cymwysterau galwedigaethol ar gael yn Gymraeg a Saesneg i gefnogi dysgwyr mewn pynciau celf, y creadigol a'r cyfryngau, ac mae ystod o adnoddau dwyieithog ar gael i gefnogi’r addysgu. Mae cydweithio â Cymwysterau Cymru yn bwysig i’r Coleg er mwyn sicrhau bod y cymwysterau angenrheidiol ar gael ac mae ein cynnwys ni yn yr adolygiad hwn yn enghraifft bellach o'n partneriaeth strategol ar waith