Ailddychmygu Astudiaethau Crefyddol: eglurhad o’r TGAU newydd
Dyma’r Rheolwr Cymwysterau, Kate Russell, i drafod y TGAU newydd mewn astudiaethau crefyddol, gan gynnwys y newidiadau o ran cynnwys ac asesu a sut fyddan nhw’n cefnogi dibenion y Cwricwlwm i Gymru.
Mae Cymru'n dod yn wlad fwy amrywiol ac amlddiwylliannol i fyw, i ddysgu, ac i weithio ynddi. Mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn paratoi dysgwyr i werthfawrogi natur gymhleth, lluosogol ac amrywiol ein cymdeithas trwy ddeall yr angen am oddefgarwch, gwytnwch, ac empathi.
Beth sydd wedi newid yn y TGAU astudiaethau crefyddol newydd?
Bu nifer o newidiadau i'r cymwysterau TGAU ym maes dysgu a phrofiad (MDPh) y dyniaethau, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n ymwneud â chynnwys ac asesu. Mae'r newidiadau hyn wedi'u cyflwyno mewn ymateb i’r Cwricwlwm i Gymru, adborth ymgynghori, a gwaith cyd-greu gyda rhanddeiliaid.
Sicrhau cynnwys lluosogol
Er bod cynnwys y TGAU astudiaethau crefyddol newydd wedi’i newid, ni chafodd unrhyw newidiadau radical eu gwneud. Bydd cyfle yn dal i fod i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o gredoau, o werthoedd, ac o argyhoeddiadau athronyddol crefyddol ac anghrefyddol. Bydd dysgwyr hefyd yn dal i drafod materion moesegol a moesol.
Mae rhai newidiadau bychain ond pwysig, fel y cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu hymdeimlad o gynefin.
Bydd dysgwyr yn ystyried y profiad dynol, y byd naturiol, a'u lle hwythau ynddo, a hynny o safbwynt lluosogol. Byddan nhw’n dod i ddeall gwahanol argyhoeddiadau athronyddol crefyddol ac anghrefyddol yn eu hardal eu hunain, yng Nghymru, ac ar draws y byd ehangach.
Mae'r TGAU newydd hefyd yn caniatáu cyfleoedd i gyd-fynd ag agweddau ar y canllawiau statudol ar grefydd, gwerthoedd a moeseg, ac yn cefnogi rhai o themâu trawsgwricwlaidd y cwricwlwm, fel hawliau dynol ac amrywiaeth.
Newidiadau i'r asesu
Yn unol â TGAU eraill o fewn MDPh y dyniaethau, bydd y cymhwyster TGAU Astudiaethau Crefyddol newydd yn cynnwys dau asesiad di-arholiad, a fydd yn cyfrannu 40% at y radd gyffredinol. Er y bydd hyn yn cynyddu'r amser asesu cyffredinol o'i gymharu â'r cymhwyster fel y mae ar hyn o bryd, mae manteision amlwg i’w cael o gynyddu cyfran yr asesiadau di-arholiad.
Un o fanteision asesiadau di-arholiad o fewn cyd-destun y Cwricwlwm i Gymru yw’r potensial (mewn rhai pynciau) i ysgolion roi mwy o ystyriaeth i gyd-destunau lleol nag a fyddai’n bosibl mewn arholiad. Er enghraifft, yn un o'r tasgau di-arholiad caiff dysgwyr gyfle i ddewis elusen leol ac i wneud gwaith ymchwil arni er mwyn ystyried pwysigrwydd materion hawliau dynol i gymdeithas yn seiliedig ar safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol, yn ogystal â phwrpas, nodau, a gwaith yr elusen neu'r sefydliad dan sylw.
Yn ogystal â galluogi mwy o leoleiddio o fewn y cymhwyster, mae'r tasgau di-arholiad hefyd yn cynnig rhagor o gyfleoedd i asesu’r sut y caiff sgiliau a thechnegau sy'n berthnasol i astudiaethau crefyddol, fel ymchwilio a gwerthuso, eu defnyddio a’u cymhwyso.
Cefnogi canolfannau trwy newid
Mae amrywiaeth eang o gymorth ar gael i athrawon wrth iddyn nhw baratoi i gyflwyno'r cymhwyster astudiaethau crefyddol newydd o fis Medi 2025.
Mae CBAC wedi cyhoeddi nifer o adnoddau digidol dwyieithog sy'n ymwneud â'r fanyleb newydd, a bydd y digwyddiadau dysgu proffesiynol yn parhau drwy gydol tymhorau'r gwanwyn a'r haf.