Dewch i ni drafod asesiadau di-arholiad o fewn y cymwysterau TGAU newydd
Yr Uwch Reolwr Cymwysterau, Oliver Stacey, sy’n trafod rhai o’r newidiadau y gall athrawon ddisgwyl eu gweld i asesu di-arholiad fel rhan o’r gyfres o Gymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd sy’n cael eu cyflwyno o 2025 ymlaen.
Fe gyrhaeddon ni garreg filltir arall ar daith Cymwysterau Cenedlaethol 14-16, pan gyhoeddodd CBAC y manylebau ar gyfer 18 TGAU newydd. Mae'r ystod gyffrous yma o gymwysterau newydd wedi'u dylunio i fod yn berthnasol i’r Cwricwlwm i Gymru a’i gefnogi a byddan nhw’n cael eu haddysgu mewn ysgolion ledled y wlad o fis Medi 2025.
Felly, beth sy’n wahanol am y cymwysterau hyn?
Un o'r newidiadau yw bod gan lawer - ond nid pob un - o'r cymwysterau TGAU newydd hyn ddulliau asesu amrywiol ac maen nhw’n cynnwys asesiadau di-arholiad.
Pan fyddwn ni’n sôn am asesiad di-arholiad, rydyn ni’n golygu unrhyw fath o asesiad nad yw'n arholiad y mae pob ymgeisydd yn ei sefyll ar yr un pryd o dan amodau wedi eu rheoli. Mae asesiadau di-arholiad yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau asesu fel asesiadau llafar, gwaith maes, gwaith portffolio ac asesiadau ymarferol.
Mewn rhai pynciau, mae cyfran yr asesiadau di-arholiad wedi aros yr un fath, neu'n debyg i'r hyn sydd yn y manylebau presennol, tra bo cyfran yr asesiadau di-arholiad wedi cynyddu'n sylweddol mewn pynciau eraill (mewn TGAU Busnes a TGAU Hanes, er enghraifft). O fewn ein meini prawf cymeradwyo ar gyfer pob TGAU, fe wnaethon ni nodi cyfran yr asesu di-arholiad y dylai CBAC ei gynnwys. Yna, datblygodd CBAC y tasgau asesu ar gyfer pob pwnc yn unol â'r cyfrannau hyn.
Pam fod asesu di-arholiad wedi cynyddu mewn rhai pynciau?
Cyn cyhoeddi ein meini prawf cymeradwyo, fe wnaethon ni gynnal ymchwil helaeth gyda dysgwyr ac athrawon ynglŷn â’u canfyddiadau a'u profiad o asesiadau di-arholiad o fewn y cymwysterau TGAU presennol. Nododd yr ymchwil hon lawer o fanteision asesu di-arholiad.
Tri o'r buddion a gafodd eu nodi fwyaf oedd bod tasgau asesu di-arholiad:
- yn ffordd fwy dilys o asesu rhai agweddau ar bwnc nag arholiad ysgrifenedig wedi'i amseru
- yn fwy gafaelgar ac ysgogol i rai dysgwyr nag arholiadau
- yn darparu ffordd wahanol i ddysgwyr ddangos tystiolaeth o'r hyn maen nhw’n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud mewn pwnc nag arholiad wedi'i amseru
Wrth ddatblygu ein meini prawf cymeradwyo, fe wnaethon ni fabwysiadu proses cyd-greu helaeth yn cynnwys athrawon a rhanddeiliaid allweddol eraill. Gyda’n gilydd, fe wnaethon ni ystyried cyfran yr asesu di-arholiad ym mhob pwnc yn ofalus, yn ogystal â’r cydbwysedd rhwng pa mor afaelgar, hydrin, dibynadwy a dilys fyddai’r asesiad cyffredinol ar gyfer pob cymhwyster.
Mantais arall asesu di-arholiad o fewn cyd-destun y Cwricwlwm i Gymru yw’r potensial (mewn rhai pynciau) i ysgolion ystyried cyd-destunau lleol i raddau mwy helaeth nag a fyddai’n bosibl mewn arholiad. Un enghraifft o hyn yw TGAU Busnes, lle mae un o’r tasgau asesu di-arholiad yn gofyn i ddysgwyr ddysgu am fusnes sy’n gweithredu yn eu hardal leol. Mae hyn yn galluogi dysgwyr i ymwneud â chysyniadau a phynciau busnes mewn modd perthnasol.
Cefnogi canolfannau drwy newid
Rydyn ni’n ymwybodol y gallai fod gan ganolfannau gwestiynau am rai o'r gofynion asesu di-arholiad o fewn y cymwysterau TGAU newydd. Gyda hyn mewn golwg, rydyn ni’n gweithio'n agos gyda CBAC a Llywodraeth Cymru i gefnogi canolfannau i gyflwyno’r manylebau newydd.
Er enghraifft, Mae CBAC yn cynhyrchu cynllun a fydd yn amlinellu sut i wasgaru asesiadau dros Flwyddyn 10 ac 11, gan gynnwys pryd y caiff tasgau a deunyddiau eu rhyddhau a'r cyfnod cyflwyno. Ar hyn o bryd rydyn ni’n edrych ar sut y gallai uwchlwytho tystiolaeth ddigidol, sy'n angenrheidiol ar gyfer sawl cymhwyster, fod yn haws i’w reoli ar gyfer canolfannau. Yn bwysig iawn, rydyn ni wedi nodi bod angen marcio rhai asesiadau di-arholiad yn allanol er mwyn lleihau'r amser y mae angen i ganolfannau ei dreulio ar farcio.
Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn pan fydd CBAC yn cyhoeddi ei ddeunyddiau asesu enghreifftiol (gan gynnwys asesiadau di-arholiad) ar gyfer TGAU Ton 1 ym mis Rhagfyr 2024. Rydyn ni’n credu y bydd yr wybodaeth hon yn rhoi darlun cliriach i ganolfannau o sut fydd asesiadau di-arholiad yn edrych yn ymarferol.
Rydyn ni hefyd eisiau parhau i wrando ar eich barn chi am y TGAU newydd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed sylwadau eich canolfan - mae modd i chi eu cyflwyno drwy ein llwyfan Dweud eich Dweud.