BLOG

Cyhoeddwyd:

20.10.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Ailgynllunio TGAU Hanes: cyfoethogi dealltwriaeth dysgwyr o Gymru a'r byd

Mae Oliver Stacey, Uwch Reolwr Cymwysterau, yn adolygu'r cymwysterau TGAU Hanes newydd a'r newidiadau allweddol y dylai athrawon a dysgwyr eu gwybod.

Oliver Stacey, Uwch Reolwr Cymwysterau
Oliver Stacey, Uwch Reolwr Cymwysterau


Mae hanes yn ganolog i faes dysgu a phrofiad y dyniaethau o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Mae'n ymddangos yn gyson yn y 10 pwnc TGAU mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Mae manteision astudio hanes yn cynnwys:

  • ein helpu ni i wneud synnwyr o'r byd rydyn ni'n byw ynddo a sut mae digwyddiadau'r gorffennol wedi'i lunio a dylanwadu arno
  • helpu i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy fel dadansoddi, gwerthuso a dehongli
  • galluogi gwerthfawrogiad o amrywiaeth, er enghraifft drwy ddysgu am gymdeithasau a diwylliannau’r gorffennol ac ystyried amrywiaeth o safbwyntiau a barn ar ddigwyddiadau hanesyddol
  • meithrin ymdeimlad o gynefin a pherthyn wrth i chi astudio hanes ardal neu gymuned rydych chi'n uniaethu â hi

Pam mae TGAU Hanes yn newid?

Bydd y TGAU Hanes newydd yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2026, fel rhan o'r Cymwysterau Cenedlaethol newydd ar gyfer pobl 14 i 16 oed yng Nghymru. Er bod cryfderau'r TGAU presennol yn cael eu datblygu, mae hefyd nifer o newidiadau cyffrous.

Dyma rai o'r prif ffactorau sy'n sbarduno'r newidiadau hyn.

Cwricwlwm i Gymru

Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi bod yn gatalydd ar gyfer diwygio cymwysterau 14–16.

Mae'r TGAU newydd wedi'i gynllunio i fod yn berthnasol i'r cwricwlwm newydd a'i gefnogi. Er enghraifft, mae hanes Cymru bellach yn orfodol ac felly mae'n bwysig bod y pwnc hwn yn cael ei adlewyrchu'n briodol yn y cymhwyster.

Hanesion, hunaniaethau a diwylliannau pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig

O fewn Cymru, ac yn rhyngwladol, bu gwerthfawrogiad cynyddol bod manylebau hanes yn aml yn canolbwyntio'n fawr ar safbwyntiau Ewroganolog gwyn.

Mae diwygio cymwysterau wedi cyflwyno cyfle i'r TGAU newydd adlewyrchu’n llawnach hanesion, hunaniaethau a diwylliannau pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Mae tystiolaeth o hyn yn rhai o'r pynciau hanesyddol newydd y gall canolfannau eu dewis, er enghraifft Ymerodraeth y Mughal.

Adborth o gyd-greu

Wrth ddatblygu gofynion y dyluniad ar gyfer y TGAU newydd, fe wnaethom ddefnyddio dull cyd-greu gyda rhanddeiliaid.

Fel rhan o'r broses, cawsom adborth cryf y byddai dysgwyr yn elwa o astudio ystod ehangach o gyfnodau amser yn hytrach na chanolbwyntio ar hanes cynnar modern a hanes modern. Mewn ymateb i hyn, mae ein gofynion dylunio ar gyfer y cymhwyster yn nodi bod angen i bob dysgwr astudio pwnc hanesyddol o'r cyfnod canoloesol.

Asesiad di-arholiad

Yn ystod y cyd-greu, nodwyd cyfleoedd i newid y cydbwysedd rhwng asesiad arholiad ac asesiad di-arholiad. O ganlyniad, bydd y cymhwyster newydd yn cynnwys dwy uned asesiad di-arholiad, sy'n cyfrannu 40% o'r cymhwyster cyffredinol (yn hytrach na 20% yn y cymhwyster presennol).

Bydd asesiad di-arholiad Uned 2 yn cael ei gyflwyno fel asesiad ar sgrin. Mae hyn yn darparu nifer o fanteision i ganolfannau, gan gynnwys cyfleoedd i ehangu'r mathau o ffynonellau a dehongliadau yn yr asesiad a gwneud yr asesiad yn fwy hylaw i'w gyflwyno. Mae asesiad di-arholiad Uned 4 yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu eu hymatebion mewn fformatau llai traddodiadol, fel podlediadau, a all annog ymgysylltiad a chreadigrwydd dyfnach.

Mae dwy uned yr asesiad di-arholiad yn hyrwyddo hunanfyfyrio, gan gefnogi dysgwyr i gymryd mwy o berchnogaeth dros eu dysgu ac i ddatblygu fel dysgwyr mwy annibynnol a myfyriol.

Mae rhagor o wybodaeth am asesiad di-arholiad yn y cymwysterau TGAU newydd ar gael yma ac mae gwybodaeth am Uned 2 yr asesiad di-arholiad ar gyfer TGAU Hanes yma.

Cefnogi athrawon drwy newid

Mae llawer o randdeiliaid wedi ymateb yn gadarnhaol i'r newidiadau ac wedi croesawu'r dewis a'r hyblygrwydd o fewn y cymhwyster, yr ystod o gyfnodau amser sydd wedi eu cynnwys a'r cydbwysedd rhwng lled a dyfnder.

Rydym yn ymwybodol bod rhai pryderon gan athrawon, yn enwedig os nad ydynt yn ddigon cyfarwydd â thasgau'r asesiad di-arholiad na gyda rhai o'r pynciau newydd yn y fanyleb. Penderfynon ni ohirio cyflwyno'r cymhwyster hwn am flwyddyn er mwyn rhoi mwy o amser i athrawon baratoi.

Mae CBAC wedi cyhoeddi ystod eang o adnoddau digidol dwyieithog i gefnogi addysgu a dysgu llawer o'r pynciau o fewn y TGAU newydd. Maent hefyd wedi darparu amrywiaeth o ddysgu proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb i gefnogi athrawon a chanolfannau wrth iddynt baratoi ar gyfer cyflwyno'r cymhwyster newydd arloesol hwn.

Er mwyn cefnogi canolfannau sy'n ymwneud â deunydd anghyfarwydd, mae CBAC wedi datblygu dogfennau Canllawiau Addysgu manwl ar gyfer pob opsiwn Uned 1–3. Mae'r rhain yn cynnwys Cynlluniau Dysgu gydag amseroedd addysgu awgrymedig, adnoddau, a gweithgareddau wedi'u cynllunio i helpu athrawon gyflwyno'r cymhwyster newydd yn effeithiol yn yr ystafell ddosbarth.