BLOG

Cyhoeddwyd:

13.03.25

ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Archwilio creadigrwydd, arloesedd a dilysrwydd mewn asesiadau ar sgrin: Myfyrdodau athrawon

Mae Nathan Evans, o’n tîm moderneiddio asesu, yn archwilio canfyddiadau cyfres ddiweddar o weithdai asesu digidol yn y gyfres blog pedair rhan hon.

Yn ein blog olaf yn y gyfres hon, rydyn ni’n rhannu rhai o fyfyrdodau athrawon fu’n cymryd rhan yn y broses o lunio eitemau asesu digidol a'r buddion y gallent eu cynnig. 
Roedd y rhan fwyaf o athrawon yn cytuno bod technolegau digidol yn chwarae rhan gynyddol bwysig mewn addysgu, dysgu ac asesu am nifer o resymau, gan gynnwys y ffyrdd y datblygodd arferion yn ystod cyfnod y pandemig ac oherwydd ymdrechion 'arloeswyr' yn eu hysgolion. Tynnodd llawer sylw at y ffaith bod y newid i ddigidol wedi’i gyflymu gan Covid-19, gyda'r pandemig yn gorfodi trosglwyddiad cyflym i ddysgu o bell ac asesiadau ar-lein yn ystod cyfnodau clo.

Mae asesiadau digidol yn briodol ar gyfer carfannau sy’n llythrennog yn ddigidol

Yn gyffredinol, roedd gan ein cyfranogwyr farn gadarnhaol ar asesu digidol. Cytunwyd bron yn unfrydol y byddai myfyrwyr yn ymateb yn dda i fwy o asesiadau digidol, gydag athrawon yn nodi enghreifftiau fel yr Asesiadau Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen a Rhifedd a rhai cymwysterau presennol, lle mae dysgwyr wedi ymateb yn gadarnhaol i fformatau digidol yn gyffredinol.

Sylwodd athrawon fod dysgwyr heddiw yn fwy hyddysg yn ddigidol na chenedlaethau blaenorol, gan eu bod yn cael eu magu mewn byd lle mae ymwneud â thechnoleg ddigidol yn arferol. Fodd bynnag, fe wnaethon nhw hefyd bwysleisio nad yw pob dysgwr yr un mor llythrennog yn ddigidol mewn cyd-destun addysgol neu asesu. Wrth i addysg barhau i symud ar-lein, bydd llythrennedd digidol yn dod yn fwyfwy hanfodol, ac mae angen ystyried hyn wrth ddylunio asesiadau digidol. 

Fe wnaethon nhw hefyd nodi y gallai hyd yn oed y manteision bach y mae asesiadau digidol yn eu cynnig, gyda’i gilydd, greu asesiadau llawer mwy gafaelgar, dilys a dibynadwy. Er enghraifft, gellir gwella cwestiwn paru parau syml yn fawr wrth ei symud ar y sgrin. Gall asesiadau digidol integreiddio nodweddion hygyrchedd fel addasiadau cyferbyniad lliw a darllenwyr sgrin, gan wneud profion yn fwy cynhwysol i bob dysgwr. Yn ogystal, gall teipio ymatebion yn hytrach na'u hysgrifennu â llaw leihau camddehongliadau a sicrhau eglurder. Gall asesiadau digidol hefyd gynnwys elfennau amlgyfrwng fel delweddau, siartiau a chlipiau sain, a all helpu dysgwyr i ddeall y deunydd yn well ac ymgysylltu'n ddyfnach â'r cynnwys.

Mae platfformau asesu digidol yn cynnig effeithlonrwydd a hygyrchedd

O safbwynt platfform, roedd y cyfranogwyr yn gwerthfawrogi’n arbennig y cyfleuster o ddefnyddio templedi a gynlluniwyd ymlaen llaw ar gyfer creu eitemau, effeithlonrwydd marcio awtomataidd a allai gynnig adborth ar unwaith, a rhwyddineb cadw cofnodion a dilyn cynnydd. Roedden nhw hefyd yn teimlo y gallai'r gallu i ymgorffori deunydd clyweledol wella ymgysylltiad a hygyrchedd ymhellach, gan ganiatáu ar gyfer profiadau asesu cyfoethocach y tu hwnt i fformatau cwestiynau traddodiadol.

Fodd bynnag, tynnodd athrawon sylw at rai cyfyngiadau hefyd. Gall llwyfannau digidol deimlo'n llai greddfol mewn pynciau sy'n seiliedig ar nodiant fel mathemateg, gwyddoniaeth a pheirianneg, lle mae mynegi camau gwaith a phrosesau yn rhan annatod o sut mae dysgwyr yn meddwl ac yn dangos eu dealltwriaeth. Roedd yr athrawon yn teimlo y gallai fod yn annheg gofyn i ddysgwyr ddatblygu sgiliau newydd yn benodol ar gyfer meddalwedd a fyddai ond yn cael eu defnyddio mewn asesiadau. Yn ogystal, fe wnaethon nhw fynegi pryderon am ddilysrwydd asesu tasgau fel creu diagramau â llaw yn ddigidol, gan bwysleisio pwysigrwydd dylunio asesiadau sy'n mesur sgiliau a fwriedir yn gywir. Rydyn ni’n parhau i archwilio atebion yn y meysydd hyn i sicrhau bod asesu digidol yn diwallu anghenion pob pwnc.

Trosglwyddo i asesiadau digidol

Roedd athrawon hefyd yn cydnabod y byddai trosglwyddo i asesiadau digidol ar gyfer cymwysterau yn gofyn am reoli newid yn ofalus i gefnogi dysgwyr. Er bod dysgwyr yn gyffredinol yn gyflym i addasu i offer digidol newydd, mae dal angen amser arnyn nhw i ddod yn gyfarwydd â'r platfformau penodol a ddefnyddir yn eu hasesiadau i sicrhau nad yw'r cyfrwng digidol yn dod yn rhwystr i ddangos eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth. O ran dysgwyr ar gyfer cymwysterau 14 i 16 oed, rydyn ni’n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a CBAC i gefnogi'r cyfnod trosglwyddo hwn ar gyfer y Cymwysterau Cenedlaethol newydd. Gall canolfannau ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn y canllaw i ganolfannau

Fel rhan o’u myfyrdodau, cytunodd athrawon er bod symud asesiadau presennol ar-lein yn fuddiol, dim ond y dechrau yw hyn. Maen nhw'n llawn cyffro am y dyfodol, pan allai asesiadau sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer amgylcheddau digidol edrych yn wahanol iawn i'r hyn rydyn ni wedi arfer ag ef heddiw. Mae hunaniaeth asesiadau digidol yn dal i ddatblygu, ac rydyn ni ond ar ddechrau'r hyn sy'n bosibl.

Darllenwch flogiau eraill yn y gyfres yma