Arwyddo'r ffordd i TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain yn y dyfodol
Mae statws a phroffil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn tyfu ledled Cymru, nid yn unig fel ffordd o gyfathrebu ond hefyd fel ffordd o gefnogi cysylltiadau rhwng y cymunedau Byddar a chlywed. Mae hyn yn cael ei enghreifftio gan Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) sy'n mynd trwy'r Senedd.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi treulio llawer o amser yn gwrando, yn dysgu, ac yn creu darlun cliriach o sut mae darpariaeth Iaith Arwyddion Prydain mewn ysgolion yng Nghymru yn edrych ar hyn o bryd - beth yw'r heriau a sut i'w lliniaru.
I wneud hyn, rydyn ni wedi siarad â nifer o sefydliadau allweddol, wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd ag Ofqual ynghylch datblygiad TGAU Iaith Arwyddion Prydain yn Lloegr, ac wedi cysylltu â chanolfannau yng Nghymru sydd eisoes yn darparu Iaith Arwyddion Prydain neu sydd wedi'i darparu yn y gorffennol. Yn ogystal, fe wnaethon ni gynnal arolwg yn 2025 i ddeall cynlluniau presennol ysgolion, a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol, o amgylch Iaith Arwyddion Prydain; yr heriau maen nhw’n eu hwynebu wrth addysgu a chynnig cymwysterau ynddi a pha gefnogaeth fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
Isod rydyn ni’n nodi rhai o'r prif feysydd gwaith y byddwn ni’n canolbwyntio arnynt dros y blynyddoedd nesaf wrth i ni ystyried y potensial ar gyfer cyflwyno TGAU gwneud-i-Gymru mewn Iaith Arwyddion Prydain yn y tymor hwy. Fel y rheoleiddiwr cymwysterau, rydyn ni’n uniongyrchol gyfrifol am rai agweddau ar y gwaith hwn, tra mewn llawer o achosion eraill bydd ein rôl yn cefnogi sefydliadau eraill wrth iddyn nhw arwain ar feysydd y maen nhw’n uniongyrchol gyfrifol amdanynt.
Dyfnhau ein dealltwriaeth o sut mae Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei dysgu o fewn y Cwricwlwm i Gymru
Wrth i ysgolion barhau i ddatblygu eu darpariaeth o’r Cwricwlwm i Gymru, byddwn ni’n ymgysylltu'n weithredol â Llywodraeth Cymru ac Estyn i ddeall ar lefel ymarferol sut mae Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei chyflwyno mewn ysgolion a sut mae arfer yn esblygu dros amser, er enghraifft o ran ymgorffori Iaith Arwyddion Prydain o fewn Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu y cwricwlwm. Gan adeiladu ar ein harolwg ysgolion diweddar ar Iaith Arwyddion Prydain, byddwn ni’n cynnal arolwg dilynol yn 2027, a fydd yn ein galluogi i asesu sut mae agweddau, dulliau a chynlluniau ysgolion yn newid.
Cryfhau adnoddau Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer ysgolion
Nododd ein harolwg bwysigrwydd ysgolion yn cael mynediad at ddeunyddiau dysgu Iaith Arwyddion Prydain dwyieithog o ansawdd uchel. Rydyn ni’n gweithio'n agos gydag Adnodd i helpu nodi cyfleoedd i gynyddu nifer yr adnoddau Iaith Arwyddion Prydain sydd ar gael i ysgolion. Ochr yn ochr ag Adnodd, rydyn ni’n gweithio gyda sefydliadau perthnasol eraill fel Signature (corff dyfarnu Iaith Arwyddion Prydain arbenigol) i hwyluso lledaeniad eu hadnoddau Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru.
Deall effaith gynnar unedau Sgiliau am Oes
Ym mis Medi 2027, bydd cymwysterau newydd mewn Sgiliau Bywyd a Gwaith ar gael i ganolfannau yng Nghymru. Mae Iaith Arwyddion Prydain yn rhan o unedau Sgiliau Bywyd a byddwn ni’n monitro'r unedau Iaith Arwyddion Prydain yn agos i ddeall sut maen nhw'n gweithio'n ymarferol. Mae'r unedau hyn yn cynnig cyfleoedd strwythuredig i ddysgwyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain ymarferol, bob dydd, o Lefel Mynediad i Lefel 2, ac maen nhw ar gael fel unedau bach o naill ai 10 neu 20 o oriau dysgu dan arweiniad.
Byddwn ni’n casglu data ar nifer yr unedau Iaith Arwyddion Prydain a ddyfernir, a'r lefelau y dyfernir yr unedau hyn arnynt.
Ochr yn ochr â data ardystio, byddwn ni hefyd yn ymweld â chanolfannau i gasglu mewnwelediadau cyfoethocach - gan siarad ag athrawon am eu profiad o gyflwyno'r unedau hyn a sut maen nhw wedi'u hamserlennu, yn ogystal â chlywed gan ddysgwyr am yr hyn a'u denodd at Iaith Arwyddion Prydain ac a ydyn nhw am fynd â hi ymhellach.
Cefnogi gweithlu addysg Iaith Arwyddion Prydain
Gwyddom fod addysgu o safon yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant unrhyw bwnc a bod hyn yn cael effaith uniongyrchol ar hyfywedd unrhyw TGAU gwneud-i-Gymru mewn Iaith Arwyddion Prydain yn y dyfodol. Dyna pam y byddwn ni’n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol i ddatblygu a chryfhau gweithlu addysg Iaith Arwyddion Prydain ymhellach.
Cadw’n wybodus am newidiadau Iaith Arwyddion Prydain ledled y DU
Er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu gan eraill, byddwn ni’n parhau i gadw mewn cysylltiad ag Ofqual, CCEA a Qualifications Scotland. Mae hyn yn ein helpu ni i fod yn ymwybodol o unrhyw ddatblygiadau newydd ym maes cymwysterau Iaith Arwyddion Prydain mewn rhannau eraill o’r DU ac i nodi unrhyw arfer da a allai fod o fudd i ddysgwyr yng Nghymru.
Ystyriaethau yn y dyfodol ar gyfer cymhwyster BSL
Gwyddom fod awydd cryf ymhlith rhai rhanddeiliaid i gael TGAU gwneud-i-Gymru mewn Iaith Arwyddion Prydain. Rydyn ni hefyd yn ymwybodol o'r heriau ymarferol sy'n atal hyn ar hyn o bryd; yn fwyaf arwyddocaol y diffyg athrawon sydd ag arbenigedd Iaith Arwyddion Prydain a statws athro cymwys. Rydyn ni’n dibynnu ar sefydliadau eraill fel Llywodraeth Cymru i ddarparu'r mewnbynnau perthnasol i fynd i'r afael â'r her benodol hon.
Drwy’r gweithgareddau hyn, byddwn ni’n creu darlun cynhwysfawr o rôl esblygol Iaith Arwyddion Prydain mewn ysgolion. Bydd hyn yn ein rhoi ni mewn sefyllfa gref i wneud penderfyniad sy’n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch pryd mae’r amodau’n iawn i ddatblygu TGAU cynaliadwy, hyfyw, gwneud-i-Gymru.