CBAC yn cyhoeddi manylebau terfynol ar gyfer TGAU wedi’u diwygio
Mae CBAC wedi cyhoeddi manylebau cymeradwy ar gyfer TGAU Ton 1 sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion o fis Medi y flwyddyn nesaf ymlaen.
Yn dilyn cymeradwyaeth ein tîm rheoleiddio, mae CBAC, y corff dyfarnu ar gyfer cymwysterau TGAU, heddiw (dydd Llun 30 Medi) wedi cyhoeddi'r manylebau pwnc terfynol ar gyfer y TGAU diwygiedig fydd yn cael eu haddysgu mewn ysgolion am y tro cyntaf o fis Medi 2025.
Mae hon yn foment nodedig ar daith diwygio Cymwysterau Cenedlaethol i'r cymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed.
Y cymwysterau TGAU sy'n cael eu cyflwyno’r flwyddyn nesaf (sef cymwysterau TGAU Ton 1) yw'r cyntaf o gymwysterau newydd y gyfres Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 i gael eu lansio.
Mae’r cymwysterau TGAU Ton 1 yn cynnwys pynciau gorfodol, fel y cymhwyster TGAU iaith a llenyddiaeth cyfunol newydd mewn Saesneg, y cymwysterau TGAU Cymraeg newydd a'r cymhwyster dwyradd newydd mewn mathemateg a rhifedd, yn ogystal â phynciau eraill o bob rhan o Chwe Maes Dysgu a Phrofiad y Cwricwlwm i Gymru.
Gall ysgolion a cholegau nawr gael mynediad i'r manylebau hyn a pharhau â’u gwaith cynllunio a pharatoi ar gyfer addysgu.
- TGAU Celf a Dylunio
- TGAU Busnes
- TGAU Cyfrifiadureg
- TGAU Cymraeg Craidd
- TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Dyfarniad Unigol a Dwbl*)
- TGAU Drama
- TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Dyfarniad Unigol a Dwbl*)
- TGAU Bwyd a Maeth
- TGAU Ffrangeg
- TGAU Daearyddiaeth
- TGAU Almaeneg
- TGAU Hanes
- TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dyfarniad Dwbl)
- TGAU Cerddoriaeth
- TGAU Sbaeneg
- TGAU Astudiaethau Crefyddol (fersiwn drafft)
- Cymraeg Craidd Ychwanegol Lefel 2
* Y cymhwyster Dyfarniad Dwbl fydd y rhaglen astudio fwyaf priodol ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr, fel y mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn ei argymell.
Dywedodd Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio, Cymwysterau Cymru:
"Rydyn ni’n falch iawn o weld bod y don gyntaf yma o fanylebau newydd ar gael i ysgolion a cholegau.
"Mae hon yn foment enfawr i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddiwygio'r cymwysterau hyn, o'r tîm yma yn Cymwysterau Cymru a'n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru a CBAC, i'r athrawon, y dysgwyr a'r arbenigwyr pwnc hynny a fu’n helpu i lywio’r cyfeiriad y mae'r cymwysterau TGAU newydd hyn wedi'i gymryd. Rydyn ni wedi bod ar y daith hon ers cyhoeddi'r Cwricwlwm newydd i Gymru yn ôl yn 2015, felly mae'n wych gweld yr holl waith caled hwnnw'n dwyn ffrwyth.
"Mae hon yn foment allweddol i athrawon yng Nghymru, sydd nawr yn gallu dechrau ar eu paratoadau ar gyfer addysgu o ddifrif."
Paratoi i ddysgu'r manylebau newydd
Fel darparwr y cymwysterau newydd hyn, bydd CBAC yn darparu amserlen wedi'i theilwra o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae'r cyrsiau cenedlaethol rhad ac am ddim hyn ar gael i ganolfannau ledled Cymru.
Ochr yn ochr â'r cyfleoedd Dysgu Proffesiynol, bydd CBAC hefyd yn cynhyrchu pecyn o adnoddau digidol rhad ac am ddim y gellir eu haddasu ac a fydd ar gael o ddiwedd tymor yr hydref.
Gall athrawon gofrestru ar gyfer y digwyddiadau hyn ar wefan CBAC.
Ein proses gymeradwyo
Ewch y tu ôl i'r llenni a darganfod sut mae ein tîm rheoleiddio yn cymeradwyo holl fanylebau cyrff dyfarnu newydd yn y blog hwn gan Alexis de Vere, ein Pennaeth Cymeradwyo a Dynodi.