BLOG

Cyhoeddwyd:

30.09.24

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Haf prysur o gymeradwyo Cymwysterau Cenedlaethol 14-16

Pennaeth Cymeradwyo a Dynodi, Alexis de Vere, sy’n rhoi cip tu ôl i'r llenni i ni wrth i Cymwysterau Cymru roi'r golau gwyrdd i gymwysterau TGAU wedi’u diwygio.

Mae'r haf yma wedi bod yn fwrlwm o weithgarwch i'r tîm rheoleiddio yn Cymwysterau Cymru wrth i ni weithio i gymeradwyo'r cymwysterau TGAU Ton 1 a ddatblygwyd gan CBAC. Ein nod, fel gyda phob cymhwyster, yw sicrhau bod y cymwysterau TGAU hyn sydd wedi’u diwygio yn bodloni ein safonau a'n gofynion trylwyr, fel y nodir yn y meini prawf cymeradwyo pwnc-benodol (yr amodau y mae angen i gorff dyfarnu eu bodloni er mwyn i'w cymhwyster gael ei gymeradwyo). 

Y daith gymeradwyo  

Mae'r daith yn dechrau gyda ni’n adolygu'r manylebau drafft, y deunyddiau asesu enghreifftiol, a thasgau asesu di-arholiad.  

Mae'r adolygiad hwn yn hanfodol gan ei fod yn gosod y sylfaen ar gyfer y broses gymeradwyo gyfan.  

Yr hyn rydyn ni’n ei wirio  

Pan fyddwn yn adolygu manylebau, deunyddiau asesu enghreifftiol a thasgau asesu di-arholiad, rydyn ni’n gwirio am sawl elfen allweddol.  

  1. Cysondeb â meini prawf cymeradwyo pynciau penodol: Sicrhau bod y cyflwyniad yn cydymffurfio â'r gofynion rheoleiddiol ar gyfer pynciau penodol, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â nodau’r pwnc, cynnwys ac asesiadau.  

  1. Cydymffurfio â gofynion rheoleiddio: Sicrhau bod yr holl ddeunyddiau yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn ein 'llyfr rheolau', yr Amodau Cydnabod Safonol.  

  1. Eglurder a hygyrchedd: Adolygu'r iaith a'r strwythur ym mhob dogfen. 

  1. Tegwch a chynhwysiant: Ystyried a yw'r asesiadau'n darparu ar gyfer ystod amrywiol o ddysgwyr.  

  1. Dilysrwydd a dibynadwyedd: Gwneud yn siŵr bod yr asesiadau'n mesur yr hyn y bwriedir iddyn nhw ei wneud yn gywir ac y byddan nhw’n cefnogi canlyniadau cyson.  

  1. Hydrinedd: Asesu a yw'r cynnwys a'r asesiadau yn ymarferol i athrawon a dysgwyr. 

Yr hyn nad ydyn ni’n ei wirio 

Er bod ein proses gymeradwyo’n gynhwysfawr, mae rhai agweddau nad ydyn ni’n rhoi sylw iddyn nhw.  

  1. Sicrhau ansawdd deunyddiau a gyflwynwyd: Nid ydym yn cynnal ymarfer sicrhau ansawdd o’r deunyddiau a gyflwynwyd. Ein ffocws yw sicrhau cydymffurfiaeth â'r meini prawf a'r safonau. Y corff dyfarnu sy’n gyfrifol am sicrhau ansawdd yr holl ddogfennau cyn eu cyhoeddi yn y Gymraeg a'r Saesneg. 

  1. Cymorth gweithredu: Er ein bod yn ystyried hydrinedd a'r cymorth posibl sydd ei angen i gyflawni'r cymwysterau, mae'n bwysig nodi nad ydyn ni’n cefnogi’r broses o’u gweithredu ysgolion neu sefydliadau addysgol eraill yn uniongyrchol. 

  1. Hyfforddiant athrawon/Datblygiad Proffesiynol Parhaus: Nid ydym yn cynnig hyfforddiant na datblygiad proffesiynol i athrawon ar sut i gyflwyno'r cymwysterau newydd.  

Rhoi adborth a diwygiadau  

Ar ôl i ni gwblhau ein hadolygiad o'r manylebau, y deunyddiau asesu enghreifftiol a’r tasgau asesu di-arholiad, rydyn ni’n rhoi adborth manwl i'r corff dyfarnu (CBAC yn yr achos yma) ar unrhyw feysydd o ddiffyg cydymffurfio. Mae'r adborth hwn yn hanfodol ar gyfer llywio’r diwygiadau angenrheidiol.  

Yna mae'r corff dyfarnu yn cyflwyno drafftiau wedi’u diwygio ac rydyn ni’n eu hadolygu eto er mwyn sicrhau bod yr holl faterion wedi cael sylw boddhaol.  

Mae'n ymdrech ar y cyd sydd â'r nod o sicrhau cydymffurfiaeth a sicrhau tegwch i bob dysgwr yng Nghymru.   

Rhoi cymeradwyaeth  

Ar ôl adolygiadau a diwygiadau trylwyr, unwaith y byddwn yn fodlon bod y cymhwyster yn cydymffurfio'n llawn, rydyn ni’n rhoi cymeradwyaeth. Mae hyn yn nodi penllanw proses fanwl a chydweithredol. 

Mae wedi bod yn gyfnod prysur ond buddiol, ac rydyn ni’n falch o'r gwaith rydyn ni wedi ei wneud hyd yn hyn i sicrhau bod y cymwysterau TGAU newydd cyffrous hyn yn bodloni ein gofynion rheoleiddio. 

Manylebau ar gyfer TGAU Ton 1