Trosolwg

Amodau yw'r gofynion rheoliadol y mae'n rhaid i gorff dyfarnu eu bodloni i ddangos cydymffurfiaeth barhaus.

Mae dau fath: amodau a ddefnyddir yn gyffredinol sy'n berthnasol i bob corff dyfarnu, ac amodau penodol, sy'n ymwneud â chymwysterau penodol. Gallwch weld dogfennau sy'n ymwneud â'n hamodau isod.

Amodau a Gymhwysir yn Gyffredinol

Amodau Cydnabod Safonol Mae'r ddogfen hon yn nodi'r rheolau a'r rheoliadau y mae'n rhaid i bob corff dyfarnu a'i gymwysterau eu bodloni wrth gynnig cymwysterau yng Nghymru. 

Gofynion Tystysgrif Ychwanegol
Mae'r ddogfen hon yn nodi'r gofynion ar gyfer dylunio a chynhyrchu pob tystysgrif y mae corff dyfarnu yn ei chyflwyno mewn perthynas â chymhwyster neu ddyfarniad credyd sydd wedi'i gymeradwyo neu ei reoleiddio (gan gynnwys rhai dynodedig) sydd ar gael ganddo yng Nghymru. 

Lefelau cymwysterau a chydrannau
Mae'r ddogfen hon yn ategu'r Amodau Cydnabod Safonol, drwy nodi gofynion a chanllawiau mewn perthynas ag aseinio lefelau i gymwysterau rheoleiddiedig a (lle y bo'n briodol) eu cydrannau.

Amodau penodol

Rhaid i gyrff dyfarnu sy'n ceisio cynnig cymwysterau TGAU, Safon UG, Safon Uwch, Tystysgrifau Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru, cymwysterau prosiect neu gymwysterau prif ddysgu gydymffurfio ag amodau cymhwyster-benodol a geir yn ein rhestr dogfennau rheoleiddiol.

 

Cipolwg ar y prif wahaniaethau

Mae ein Amodau Cydnabod Safonol yn debyg yn fras i'r rhai a gymhwysir gan CCEA Regulation yng Ngogledd Iwerddon ac Ofqual yn Lloegr.  

Mae'r ddogfen hon yn nodi'r prif wahaniaethau rhwng ein priod Amodau i helpu cyrff dyfarnu sy'n gweithredu mewn mwy nag un wlad.

Amodau Cydnabod: Cipolwg ar y prif wahaniaethau

 

Canllawiau i Gyrff Dyfarnu

Rydym wedi cyhoeddi cyfres o ganllawiau ar Amodau penodol i gefnogi cyrff dyfarnu.

Wrthdaro Buddiannau

Gynllunio wrth gefn

Gamymddwyn a chamweinyddu

Rôl Swyddog Cyfrifol

Amod D6

Gydnabod Dysgu Blaenorol

Amod F1

Canllawiau i Gyrff Dyfarnu ar Amod D9: Cymwysterau cyfrwng Cymraeg

Canllawiau thematig

Dyma ganllawiau manwl i gyrff dyfarnu ar gydraddoldeb, marcio a chymwysterau cyfrwng Cymraeg:

Mynediad Teg drwy Ddylunio

Canllawiau ar sut y gall cynllunio cymwysterau ac asesu da roi'r cyfleoedd tecaf posibl i bob dysgwr ddangos yr hyn y maent yn ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud.

Cynlluniau Marcio ar gyfer Cymwysterau sy'n Seiliedig ar Wybodaeth

Mae hwn yn ganllaw arfer da i gefnogi datblygwyr ac aseswyr cymwysterau i gynllunio, datblygu ac adolygu cynlluniau marcio.

CANLLAWIAU I GYRFF DYFARNU - ar ddatblygu, darparu a dyfarnu cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg

Lluniwyd y canllawiau hyn i gefnogi cyrff dyfarnu sy’n cynnig cymwysterau cyfrwng Cymraeg, boed yn dechrau, neu’n edrych am ffyrdd o gynyddu darpariaeth, neu’n dymuno efelychu arfer dda. Mae’r canllawiau yn eich tywys cam wrth gam drwy ddatblygu, dylunio, darparu ac ardystio cymhwyster ac yn cynnwys engreifftiau o arfer dda a dolenni i adnoddau atodol a chysylltiadau defnyddiol eraill.