CBAC yn cyhoeddi manylebau terfynol ar gyfer yr ail don o gymwysterau newydd
Mae manylebau cymeradwy ar gyfer 10 cymhwyster TGAU ac un cymhwyster Lefel 2 bellach ar gael ar wefan CBAC, flwyddyn cyn iddyn nhw gael eu haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2026.
Yn dilyn cymeradwyaeth ein tîm rheoleiddio, mae'r corff dyfarnu ar gyfer TGAU, CBAC, wedi cyhoeddi manylebau pwnc terfynol heddiw (dydd Mawrth 30 Medi), gan alluogi addysgwyr ledled Cymru i barhau â'u paratoadau ar gyfer addysgu’r cymwysterau am y tro cyntaf y flwyddyn nesaf.
Dyma'r ail o dair ton o weithredu'r Cymwysterau Cenedlaethol.
Mae'r cymwysterau yn y don hon yn cynnwys TGAU newydd sbon mewn dawns, yn ogystal â hanes, astudiaethau cymdeithasol a'r TGAU gwyddoniaeth gradd unigol a dwyradd newydd.
Bydd manylebau presennol mewn bioleg, cemeg a ffiseg yn parhau i fod ar gael ochr yn ochr â'r dyfarniadau dwyradd a gradd unigol newydd mewn gwyddoniaeth. Gallwch ddarllen mwy am y penderfyniad hwn yma.
Cael mynediad i'r manylebau newydd
- TGAU Dawns
- TGAU Dylunio a Thechnoleg
- TGAU Ffilm a Chyfryngau Digidol
- TGAU Technoleg Ddigidol
- TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal plant
- TGAU Hanes
- TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol)
- TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd
- TGAU Astudiaethau Cymdeithasol
- TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd)
- Dyfarniad Lefel 2 mewn Mathemateg Ychwanegol
Cymorth dysgu proffesiynol i athrawon
Bydd CBAC yn cyflwyno amserlen wedi'i theilwra o gyfleoedd dysgu proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb i helpu athrawon i baratoi ar gyfer addysgu’r cymwysterau am y tro cyntaf. Mae'r cyrsiau cenedlaethol rhad ac am ddim hyn ar gael i ganolfannau ledled Cymru.
Ochr yn ochr â'r cyfleoedd dysgu proffesiynol, bydd CBAC yn parhau i gynhyrchu adnoddau digidol i gefnogi'r gwaith o gyflwyno pob un o'r cymwysterau newydd.
Gall athrawon gofrestru ar gyfer y digwyddiadau hyn ar wefan CBAC.