Cefnogi Mynediad Teg: canfyddiadau'r ymchwil ddiweddaraf yng Nghymru
Mae rhoi cymorth hygyrchedd priodol i bob dysgwr ar gyfer eu hasesiadau yn hanfodol i system addysg gynhwysol. Mae Tom Anderson, Pennaeth Ymchwil ac Ystadegau Cymwysterau Cymru, yn myfyrio ar yr ymchwil ddiweddaraf ar sut mae trefniadau mynediad yn cael eu darparu ledled Cymru.

Cefndir
Er mwyn deall trefniadau mynediad yn y system gymwysterau, mae'n ddefnyddiol gwybod rhywbeth am rolau'r gwahanol sefydliadau dan sylw.
-
Cymwysterau Cymru yw'r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau nad ydynt yn lefel gradd yng Nghymru.
-
Mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau (CGC) yn sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys wyth corff dyfarnu mawr.
-
Mae Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu yn sefydliad aelodaeth sy'n cynrychioli cyrff dyfarnu ac eraill o fewn y sector cymwysterau ac asesiadau.
Mae gan y CGC reolau penodol ar gyfer ei aelodau ar gyfer gweinyddu trefniadau mynediad. Mae trefniadau mynediad - sy’n cael eu diffinio gan CGC fel addasiadau a wneir ar gyfer ymgeiswyr cyn arholiadau yn seiliedig ar dystiolaeth o angen a ffordd arferol o weithio - yn bwysig ar gyfer sicrhau system gymwysterau deg a chynhwysol.
Er bod Cymwysterau Cymru’n ei gwneud yn ofynnol i bob corff dyfarnu gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb (2010) drwy sicrhau bod addasiadau rhesymol ar gael i ddysgwyr ag anabledd, nid yw Cymwysterau Cymru’n rhagnodi sut y dylai cyrff dyfarnu ymdrin â hyn.
Yr ymchwil
Nod cam cyntaf y gwaith oedd datblygu ein dealltwriaeth o sut mae'r system trefniadau mynediad wedi'i chynllunio ar draws sawl corff dyfarnu (gan gynnwys y rhai nad ydynt yn rhan o’r CGC) a sut mae'n gweithredu’n ymarferol ar draws gwahanol fathau o ganolfannau. Mae’n werth nodi y gwnaethom ymgysylltu â nifer fach o randdeiliaid ac ni ellir cyffredinoli'r canfyddiadau ledled Cymru.
Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod dyluniad system trefniadau mynediad cyrff dyfarnu’n ddigon tebyg i’w gilydd; tynnodd cyrff dyfarnu’r CGC a chyrff dyfarnu nad ydynt yn aelodau o’r CGC sylw at bwrpas ac egwyddorion tebyg sy'n sail i'r system. Er bod cyrff dyfarnu wedi ymrwymo i fodloni gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010, mae'r systemau a ddefnyddir i gymeradwyo a gweithredu trefniadau mynediad yn amrywio. Adroddir bod y gwahaniaethau hyn yn gwneud gwahaniaeth i ganolfannau, yn enwedig y rhai sy'n defnyddio sawl corff dyfarnu. Mae ysgolion a cholegau’n wynebu heriau gwirioneddol, megis adnoddau cyfyngedig a phwysau staffio. Mae heriau hefyd yn deillio o bwysau allanol, gan gynnwys disgwyliadau rhieni, asesiadau preifat a rhestrau aros am ddiagnosis.
Er gwaethaf y pwysau hyn, nododd canolfannau hefyd sawl cryfder yn y system. Roedd y cyfranogwyr yn teimlo'n gyffredinol fod system Trefniadau Mynediad Ar-lein y CGC ar y cyfan yn syml ac yn gyflym. Dywedodd eraill fod y gefnogaeth gan rai cyrff dyfarnu hefyd wedi cael croeso da. Yn bwysig, dywedodd y rhan fwyaf o gyfranogwyr fod trefniadau mynediad yn cael eu hystyried yn ddefnyddiol wrth gefnogi dysgwyr yn eu hasesiadau.
Amlygwyd hefyd y gallai dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol elwa o wahanol fathau neu lefelau o gymwysterau, neu gymwysterau gyda mwy o asesiadau di-arholiad, gan gefnogi'r Cymwysterau Cenedlaethol newydd a'r dull mwy cytbwys o asesu ar gyfer rhai cymwysterau. Felly, mae trefniadau mynediad yn un ffordd y mae'r system wedi'i chynllunio'n gynhwysol. Er hynny, mae rôl y system trefniadau mynediad yn parhau i fod yn hanfodol wrth hwyluso 'cyfle cyfartal' lle gall llawer o ddysgwyr ddilyn yr un cymwysterau â'u cyfoedion.
Casgliad
Ar y cyfan, mae'r system yn gweithredu’n fras fel y bwriadwyd, er bod cyfyngiadau a phwysau'n cael eu teimlo ar draws canolfannau a allai waethygu wrth i nifer y trefniadau mynediad barhau i gynyddu. Nid yw'n glir i ba raddau y mae rhai o'r pwysau hyn yn rhai dros dro neu a fyddant yn parhau i dyfu. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu bod y system yn addasu lle bo hynny'n bosibl, gydag enghreifftiau o gyrff dyfarnu’n diwygio rheolau i gefnogi canolfannau a'u dysgwyr i dderbyn trefniadau mynediad.
Bydd y canfyddiadau hyn yn llywio cam nesaf ein gwaith lle byddwn yn canolbwyntio ar drefniadau mynediad mewn perthynas â'r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd.
Hoffem ddiolch i'r cyrff dyfarnu, staff canolfannau a'r dysgwyr a gymerodd ran am roi eu hamser a rhannu eu sylwadau a'u profiadau.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch yr adroddiad llawn