NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

25.05.23

ADDYSGWYR
RHANDDEILIAID
CANOLFANNAU

Cofrestriadau dros dro ar gyfer cyfres arholiadau haf 2023

Mae ystadegau swyddogol wedi’u rhyddhau sy’n dangos nifer y cofrestriadau arholiadau dro yng Nghymru ar gyfer cyfres arholiadau haf 2023.

Yn 2022, fe wnaeth dysgwyr sefyll arholiadau ac asesiadau ffurfiol am y tro cyntaf ers dechrau’r pandemig, a’r haf yma, mae’r daith yn ôl i drefniadau TGAU, UG a Safon Uwch cyn y pandemig yn parhau. 

Yn ystod cyfnod y pandemig, cynyddodd nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU, Safon UG a Safon Uwch yng Nghymru, gyda chofrestriadau TGAU ac UG ar eu huchaf yn 2021, tra bod cofrestriadau Safon Uwch ar eu huchaf yn 2022 

Ar y cyfan, gwelwyd gostyngiad yn nifer y cofrestriadau TGAU y llynedd ac maen nhw wedi parhau i ostwng eleni, felly dim ond 0.7% yn uwch na chofrestriadau 2019 maen nhw erbyn hyn.  

Dewisiadau pwnc 

Ar lefel UG a Safon Uwch, mae’n ymddangos bod mwy o ddysgwyr yn dilyn llawer o’r pynciau STEM (fel mathemateg, mathemateg bellach, bioleg, cemeg, cyfrifiadureg a ffiseg) nag oedden nhw yn 2019. Mae cofrestriadau mewn Safon Uwch ac UG Seicoleg wedi gweld cynnydd mawr ers 2019 a hwn bellach yw’r trydydd pwnc mwyaf yn ôl maint cofrestru. Mae cofrestriadau mewn rhai pynciau academaidd traddodiadol fel hanes ac astudiaethau crefyddol wedi lleihau. Mae cofrestriadau mewn  Safon Uwch Cymraeg Iaith a Safon Uwch Cymraeg Ail Iaith hefyd wedi lleihau (ond gyda chynnydd mewn UG Cymraeg Iaith).  

Ar lefel TGAU, mae'r gostyngiadau mwyaf yn y cofrestriadau eleni, o gymharu â'r llynedd, mewn TGAU Llenyddiaeth Saesneg a TGAU Mathemateg - Rhifedd. Ar gyfer TGAU Mathemateg - Rhifedd mae'r gostyngiad yn bennaf oherwydd bod llai o ddysgwyr ym Mlwyddyn 11 yn cofrestru ar gyfer cyfres yr haf. Fodd bynnag, dyfernir y cymhwyster hwn hefyd yng nghyfres mis Tachwedd ac mae'r cofrestriadau o Flwyddyn 11 yn y gyfres honno wedi cynyddu. Mae nifer y cofrestriadau gan ddysgwyr ym Mlwyddyn 10 neu'n is yn y pwnc ond wedi gostwng ychydig o’r uchafbwynt yn 2021 ac mae'n parhau i fod yn sylweddol uwch nag yn 2019.   

Ar gyfer TGAU Llenyddiaeth Saesneg, bu nifer fawr a chynyddol o gofrestriadau ar gyfer Blwyddyn 10 ac is rhwng 2018 a 2022, ond eleni mae nifer y cofrestriadau o’r grŵp oedran hwnnw wedi gostwng (er mai dyma’r pwnc sydd â’r nifer fwyaf o gofrestriadau o Flwyddyn 10 ac is o hyd) . Mae’r nifer llai o gofrestriadau ym Mlwyddyn 11 yn y pwnc yr haf hwn yn adlewyrchiad o’r niferoedd mawr a gofrestrodd ar gyfer y cymhwyster ym Mlwyddyn 10 yn 2022.    

Cymwysterau newydd eleni 

Yr haf hwn hefyd bydd cymwysterau TGAU ac UG newydd Yr Amgylchedd Adeiledig a Thechnoleg Ddigidol yn cael eu dyfarnu am y tro cyntaf, gyda’r cymwysterau technoleg ddigidol yn denu’r nifer fwyaf o gofrestriadau. Mae gan TGAU Technoleg Ddigidol 5,575 o gofrestriadau gyda 550 o gofrestriadau ar gyfer UG, tra bod gan TGAU Yr Amgylchedd Adeiledig 135 o gofrestriadau a 10 cofrestriad ar gyfer lefel UG. 

 

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein hadroddiad llawn a phob lwc i'r holl ddysgwyr sy'n sefyll arholiadau ar hyn o bryd.