Cyhoeddi Meini Prawf Cymeradwyo wedi'u Diweddaru ar gyfer TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd
Wrth baratoi ar gyfer lansiad y gyfres newydd o Gymwysterau Cenedlaethol ar gyfer dysgwyr 14–16 oed ym mis Medi 2025, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi meini prawf cymeradwyo diwygiedig ar gyfer TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd.
Mae dylunio a datblygu cymwysterau newydd yn broses ailadroddol sy'n cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid. Cyhoeddwyd y fersiwn gyntaf o'r meini prawf cymeradwyo yn 2023, ac fe’u datblygwyd drwy gasglu adborth gan randdeiliaid a thrwy gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn 2022. Roedd yn cynnwys gofyniad i ddysgwyr wneud asesiad di-arholiad (NEA) lle byddent yn perfformio dwy gamp/gweithgaredd corfforol yn ogystal â hyfforddi neu roi hyfforddiant personol i eraill mewn camp/gweithgaredd corfforol a ddewiswyd o restr gymeradwy.
Yn ystod y cam dylunio dilynol a gynhaliwyd gan CBAC (y corff dyfarnu a fydd yn cynnig y cymhwyster), nodwyd rhai pryderon ynghylch y dull hwn o gael asesiad di-arholiad. Roedd y rhain yn cynnwys:- pa mor llafurus fyddai hi i asesu sesiynau hyfforddi yn unigol, yn enwedig mewn carfannau mawr
- cymhlethdod ceisio cymedroli agweddau perfformiad a hyfforddi/hyfforddiant personol yr asesiad di-arholiad o fewn un ymweliad gan gymedrolwr
- y potensial ar gyfer dyblygiad ar draws yr arholiad a’r unedau asesiad di-arholiad pan fo dysgwyr yn dewis rhoi hyfforddiant personol i eraill
Fe wnaeth y rhai a ymatebodd i ymgynghoriad Amlinelliad Cymhwyster TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd CBAC ategu’r adborth hwn ym mis Tachwedd 2024.
Mewn ymateb i'r adborth cyfunol hwn, mae'r meini prawf cymeradwyo wedi'u diwygio i gefnogi datblygiad cymhwyster a fydd yn afaelgar, yn hylaw, yn ddibynadwy, ac yn ddilys.
Mae'r gofynion diwygiedig ar gyfer asesiad di-arholiad bellach yn cynnwys:
- perfformio un gamp/gweithgaredd corfforol o'r rhestr gymeradwy (20%)
- perfformio ail gamp/gweithgaredd corfforol o'r rhestr gymeradwy, neu roi hyfforddiant mewn camp/gweithgaredd corfforol o'r rhestr gymeradwy (20%)
- cynllunio, cyflwyno, a gwerthuso gweithgaredd hyfforddi personol yng nghyd-destun camp/gweithgaredd corfforol o'r rhestr a gymeradwywyd (20%)
Bydd y gwelliannau hyn yn cefnogi hylawrwydd y cymhwyster heb i ddysgwyr golli’r dewis o gael eu hasesu mewn hyfforddiant. Mae'r dull hwn hefyd yn parhau i gefnogi dilyniant i gymwysterau Lefel 3 perthnasol, gan gynnwys Safon Uwch ac UG mewn Addysg Gorfforol.
Disgwylir i'r gweithgaredd hyfforddi personol ganolbwyntio ar ddefnyddio sgiliau, gwybodaeth, a dealltwriaeth mewn ffordd ymarferol, gydag elfen ymarferol sylweddol. O ganlyniad, ni fydd y dull presennol o ymdrin â'r Rhaglen Ffitrwydd Personol (PFP) bresennol yn cael ei chadw o fewn y TGAU newydd.