Ein datganiad safbwynt ar ddeallusrwydd artiffisial
Mae systemau deallusrwydd artiffisial yn dod yn fwy datblygedig. Yn 2023, mae’r ffaith bod offer deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, a all gynhyrchu allbynnau gweledol a seiliedig ar destun mewn ymateb i feini prawf defnyddwyr, ar gael mor agored wedi ysgogi diddordeb a dadl helaeth. Mae’n bosibl y bydd gan yr offer hyn botensial sylweddol i ddylanwadu ar sut rydym yn byw ein bywydau, gan gynnwys sut rydym yn dysgu, yn gweithio ac yn rhyngweithio â’r byd o’n cwmpas.
Rydym yn obeithiol am y manteision posibl y gallai systemau ac offer deallusrwydd artiffisial eu cynnig i addysgu, dysgu ac asesu. Gallwn hefyd weld eu bod yn cyflwyno heriau o ran sut rydym yn asesu dysgwyr yn deg ar eu gwybodaeth a’u sgiliau, ac rydym am sicrhau bod dilysrwydd ymatebion dysgwyr, ac felly uniondeb asesiadau, yn cael ei ddiogelu.
Rydym wedi nodi’r heriau a’r cyfleoedd posibl a gyflwynir gan offer deallusrwydd artiffisial mewn pedwar maes eang yn ymwneud â chymwysterau ac asesiadau a gaiff eu sefyll gan ddysgwyr yng Nghymru:
- sut y bydd addysgu a dysgu sy'n gysylltiedig â chynnwys cymhwyster yn cael eu cyflwyno
- sut mae cyrff dyfarnu yn llunio ac yn cyflenwi cymwysterau ac asesiadau
- lle mae ymgeiswyr yn sefyll eu hasesiadau a'r lefelau rheolaeth sydd eu hangen i sicrhau dilysrwydd tystiolaeth asesu
- y wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau sydd wedi'u cynnwys mewn cymwysterau
Rydym am i gyrff dyfarnu lunio a chyflenwi cymwysterau arloesol sy'n cynnig profiadau asesu cadarnhaol a pherthnasol i ddysgwyr yng Nghymru. Wrth i'n gwaith o ddiwygio cymwysterau barhau, byddwn yn gweithio'n agos gyda chyrff dyfarnu wrth iddyn nhw geisio gwneud y defnydd gorau o dechnolegau newydd a sicrhau bod dysgwyr yn cael eu diogelu. Rydym hefyd yn cysylltu â Llywodraeth Cymru a rheoleiddwyr cymwysterau eraill ledled y DU wrth i ni ddatblygu ein dealltwriaeth o'r cyfleoedd yn y maes newydd cyffrous hwn.
Camau sydd wedi'u cymryd hyd yn hyn
Mae cyrff dyfarnu wrthi'n ystyried amrywiaeth o offer deallusrwydd artiffisial wrth iddyn nhw ddod i'r amlwg a datblygu.
Mewn ymateb i ymddangosiad offer a gwasanaethau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol newydd, cymerodd y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ) amrywiaeth o gamau gweithredu i gefnogi tegwch i ddysgwyr sy’n sefyll asesiadau o haf 2023 ymlaen.
Buom yn trafod risgiau perthnasol mewn perthynas â chymwysterau Gwneud-i-Gymru gyda CBAC. Mae gwaith CBAC yn y maes hwn yn enghraifft o gamau sydd wedi'u cymryd hyd yn hyn, gan gynnwys:
- llunio canllawiau ar gyfer eu cymedrolwyr i gefnogi’r gwaith o ganfod achosion o gamymddwyn posibl, gan gynnwys arwyddion y gallai offer deallusrwydd artiffisial fod wedi cael eu defnyddio
- ystyried y gwahanol risgiau ar gyfer eu hasesiadau di-arholiad
- archwilio sut y byddai amheuon bod systemau deallusrwydd artiffisial nas caniateir wedi eu defnyddio yn cael eu hymchwilio a’r prawf y byddai ei angen
- defnyddio meddalwedd gwrthweithio deallusrwydd artiffisial er mwyn cefnogi’r broses o ganfod achosion posibl o ddefnyddio meddalwedd er mwyn canfod llên-ladrad, gan gynnwys deunydd a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial
Ym mis Mai 2023, cyhoeddodd y JCQ ganllawiau ar gyfer canolfannau mewn perthynas â nodi risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio offer deallusrwydd artiffisial. Bydd y JCQ hefyd yn diweddaru’r canllawiau hyn ac yn datblygu canllawiau ategol pellach yn y dyfodol, fel canllawiau ar gyfer dysgwyr yn hyrwyddo arferion da wrth ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial.
Mae CBAC yn cytuno bod angen gweithredu camau a systemau tymor hwy i ganfod achosion o gamymddwyn sy'n gysylltiedig ag offer deallusrwydd artiffisial. Byddwn yn mynd ati i weithio gyda CBAC i ystyried hyn wrth ddatblygu cymwysterau newydd yn ein prosiect Cymwys ar gyfer y Dyfodol.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda chyrff dyfarnu a darparwyr dysgu i ystyried camau y gellir eu cymryd mewn perthynas â chymwysterau cyffredinol a galwedigaethol.