Cymwys ar gyfer y Dyfodol

Cyflwyniad 

Mae Cymwys ar gyfer y dyfodol yn disgrifio’r gwaith rydyn ni’n ei wneud i lunio cymwysterau newydd sy’n cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru ac yn bodloni anghenion dysgwyr yn y dyfodol. Rydyn ni am weld cymwysterau sy'n: 

  • ennyn hyder y cyhoedd yng Nghymru, y DU, ac yn fyd-eang
  • sicrhau dewis teg, cydlynol a dwyieithog i ysgolion a dysgwyr
  • gwneud y gorau o dechnoleg ddigidol
  • gallu cael eu cyflwyno mewn ffordd reoledig a chynaliadwy

Mae trefniadau ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd ysgolion hefyd yn newid. Bydd perfformiad ysgol yn cael ei werthuso ar sail amrywiaeth eang a chytbwys o dystiolaeth, gyda phwyslais llai ar ganlyniadau cymwysterau yn unig. Mae hyn yn rhoi mwy o ryddid i flaenoriaethu anghenion dysgwyr wrth ddylunio cymwysterau newydd i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.  

Ein dull 

Gan ddefnyddio proses a elwir yn 'ddatblygu ar y cyd' rydyn ni wedi bod yn cydweithio'n agos ag athrawon, dysgwyr, cynghorwyr arbenigol, ac eraill sy'n dibynnu ar ganlyniadau cymwysterau, gan gynnwys cyflogwyr, colegau, darparwyr hyfforddiant a phrifysgolion.  

Y man cychwyn ar gyfer datblygu'r cynigion ar gyfer pob cymhwyster oedd Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r fframwaith yn nodi'r gofynion a'r canllawiau y mae'n rhaid i bob ysgol eu dilyn wrth gynllunio ei chwricwlwm eang a chytbwys ei hun. Yn ganolog i'r fframwaith cyfan mae’r dyhead i bob plentyn a pherson ifanc wireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. 

Penderfyniadau

TGAU Gwneud-i-Gymru

Yn ystod hydref-gaeaf 2022, fe wnaethom ni gynnal ymgynghoriad helaeth ar ein cynigion diweddaraf ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd. Fe wnaethom ni ymgynghori ar gynigion ar gyfer 26 o gymwysterau gwahanol wedi’u grwpio o amgylch chwe Maes Dysgu a Phrofiad y Cwricwlwm i Gymru.  Ar 28 Mehefin cyhoeddom ein penderfyniadau ar ôl dadansoddi eich ymatebion i’r ymgynghoriad. Er mwyn darllen a chael golwg ar y penderfyniadau, ewch i TGAU Gwneud-i-Gymru

Y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16

Rydym hefyd wedi cynnal ymgynghoriad Cymwys ar gyfer y dyfodol oedd yn gofyn am adborth ar dri chynnig ar gyfer cymwysterau a fydd yn sefyll ochr yn ochr â chymwysterau TGAU er mwyn ffurfio’r hyn rydyn ni’n ei alw’r Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16. Bydd hyn yn darparu cymwysterau sy’n cefnogi ehangder y Cwricwlwm i Gymru ac yn paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd a gwaith. 

Roedd yr ymgynghoriad yn fyw tan 14 Mehefin ar ein platfform Dweud Eich Dweud ac mae bellach wedi cau. Bydd penderfyniadau yn cael eu cyhoeddi yn ystod mis Ionawr 2024. 

Edrychom yn fanwl ar gannoedd o gymwysterau cyfredol - o lefel mynediad i fyny - sy'n cwmpasu ystod eang o bynciau megis y Byd Gwaith, Gallu Ariannol, Datblygu Gyrfa, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Diogelwch Bwyd, Sgiliau Hanfodol, Chwaraeon a Chymorth Cyntaf.