Dewch yn adolygydd pwnc gyda Cymwysterau Cymru
Rydyn ni’n chwilio am addysgwyr profiadol a gweithwyr addysgol proffesiynol i weithio ochr yn ochr â'n Tîm Cymeradwyo i'n helpu i gymeradwyo cymwysterau Teithio a Thwristiaeth a Lletygarwch ac Arlwyo newydd.
Yn dilyn ein hadolygiad sector o gymwysterau yn y sector Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo, rydyn ni’n datblygu cyfres newydd a pherthnasol o gymwysterau i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn ein hadolygiad.
Rydyn ni’n chwilio am adolygwyr cymwysterau/arbenigwyr pwnc i gydweithio â'n tîm ac i helpu i lywio dyfodol cymwysterau Teithio a Thwristiaeth a Lletygarwch ac Arlwyo yng Nghymru.
Mae rôl yr adolygydd pwnc fel arfer yn cynnwys:
-
adolygu manylebau cymwysterau drafft, deunyddiau asesu enghreifftiol a dogfennaeth berthnasol arall y cymwysterau
-
penderfynu a yw'r cymwysterau’n cefnogi dysgwyr yn effeithiol i symud ymlaen yn eu teithiau dysgu
-
rhoi adborth adeiladol sydd wedi’i bwyso a’i fesur
-
rhwng 2 a 10 diwrnod o waith nad ydynt yn olynol gan ddechrau ym mis Mawrth 2026 (rhoddir hyfforddiant yn ystod mis Chwefror 2026)
Dyma gyfle unigryw i rannu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth, ac i ennill profiad proffesiynol amhrisiadwy.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am rôl arbenigwr pwnc ar ein gwefan, gan gynnwys mwy o wybodaeth am y rôl a'r cyfrifoldebau, y cyflog a’r buddion.
Cyflwynwch eich cais drwy GwerthwchiGymru cyn i'r cyfle hwn gau ddydd Gwener 19 Rhagfyr: GwerthwchiGymru