Mis ar ôl i ddylanwadu ar gymwysterau’r dyfodol ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru
Mae Cymwysterau Cymru wedi bod yn trafod gyda rhanddeiliaid ledled Cymru.
Mae Cymwysterau Cymru wedi bod yn trafod gyda rhanddeiliaid ledled Cymru - o ddysgwyr i athrawon, o golegau i wleidyddion, ac o gyflogwyr i gyrff dyfarnu – ar ymgynghoriad y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16. Dim ond mis sydd i fynd i ddweud eich dweud cyn 14 Mehefin, ar yr ystod arfaethedig o gymwysterau ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru.
Gyda chyflwyniad y Cwricwlwm newydd i Gymru, mae'r ystod o gymwysterau yn cael eu diweddaru i adlewyrchu sut a beth mae dysgwyr yng Nghymru bellach yn ei ddysgu. Dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i lunio cymwysterau’r dyfodol ar gyfer ein pobl ifanc a’u hysbrydoli i ddewis yr opsiynau cywir ar gyfer eu hanghenion a’u nodau unigol.
Gan gydnabod na fydd cymwysterau TGAU yn unig yn darparu ar gyfer anghenion pob dysgwr, mae ystod eang a chynhwysol o gymwysterau yn cael eu cynnig gyda phob dysgwr mewn golwg. Bydd yr ystod arloesol, ysbrydoledig a chyffrous hon o gymwysterau yn cefnogi uchelgeisiau’r cwricwlwm ac yn bodloni anghenion cyflogwyr a dysgwyr.
Gyda chymwysterau newydd a rhai wedi'u diweddaru yn cael eu lansio yn 2027 ac yn effeithio ar blant sy’n 10 oed ac yn iau ar hyn o bryd, mae Cymwysterau Cymru yn eich gwahodd i gymryd rhan yn ei ymgynghoriad cyhoeddus. Dyma gyfle i wneud gwahaniaeth ac i rannu eich barn ar yr hyn rydych chi’n ei hoffi am y cynigion ar gyfer cymwysterau Sylfaen, cymwysterau Cyn-alwedigaethol, cymwysterau Sgiliau Bywyd a Gwaith a chymhwyster Prosiect Sgiliau Cyfannol (y Gyfres Sgiliau), fel opsiynau ochr yn ochr â chymwysterau TGAU.
Bydd cymwysterau Sylfaen yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ar eu cyflymder eu hunain; bydd cymwysterau Cyn-alwedigaethol yn rhoi cipolwg i bobl ifanc ar wahanol feysydd galwedigaethol; a bydd y Gyfres Sgiliau yn cyflwyno sgiliau amhrisiadwy ar gyfer bywyd a gwaith - fel rheoli arian personol, deall iechyd meddwl, a gwleidyddiaeth i ddechreuwyr.
Mae cymwysterau’n esblygu, felly helpwch ein pobl ifanc i ddod yn gymwys ar gyfer y dyfodol a chwaraewch eich rhan yn y gwaith cyffrous hwn i ddiwygio cymwysterau yng Nghymru. Darllenwch ragor am y tri chynnig a chwblhewch yr arolwg ar-lein i helpu i lunio cymwysterau’r dyfodol yng Nghymru. Ewch ati i ddweud eich dweud cyn 14 Mehefin.
Dywedodd Gwyneth Sweatman, Pennaeth Materion Cyhoeddus Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru:
“Mae buddsoddi yng ngweithlu’r dyfodol yn gyfrifoldeb ar y cyd, ac mae llwyddiant ein heconomi yn dibynnu ar ddysgu’r sgiliau cywir i ddysgwyr. Rydyn ni’n annog busnesau bach ledled Cymru i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16. Gyda'n gilydd, gallwn lunio system addysg gynhwysol sy'n rhoi pŵer i dalent ifanc ac yn sicrhau dyfodol llewyrchus i'n heconomi."
Dywedodd Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru:
"Mae'r cymwysterau rydyn ni'n eu hennill yn yr ysgol yn dylanwadu ar ein dyfodol mewn cymaint o ffyrdd. Mae'n hanfodol ein bod ni’n gwneud pethau'n iawn ac yn cynnig ystod eang o gymwysterau i bobl ifanc sy’n gweddu i’w harddulliau dysgu unigryw a'u nodau unigol. Mae’r Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16 wedi’i gynllunio gyda phob dysgwr mewn golwg, er mwyn rhoi sgiliau bywyd, dysgu a gwaith iddyn nhw. Mae’n gyfle gwych i adfywio’r cymwysterau y gall ysgolion eu cynnig i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed fel gweithlu’r dyfodol yng Nghymru. Mae barn pawb yn bwysig ac rydyn ni am glywed eich un chi. Felly peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer cymwysterau'r dyfodol."